Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan dawncyfarwydd » Maw Gor 07, 2009 6:51 pm

Os ydi unrhyw un yn amau bod Llais Gwynedd yn llawn o dospotiaid diwerth sy'n gwneud dim byd ond cega'n ddisail, babiaidd a chwerw am Blaid Cymru, fe ddylen nhw gael cip ar y blogiad yma.

http://gwilymeurosroberts.blogspot.com/ ... -this.html
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 838
Ymunwyd: Iau Ebr 28, 2005 5:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Cilan » Maw Gor 07, 2009 8:06 pm

Yn hollol. Roedd y boi oedd yn adolygu'r papura newydd ar y Post Cynta y bore ma'n cyfeirio at y stori yma. Siawns nad oes yna ffyrdd gwell i Llais Gwynedd drio cyfiawnhau eu bodolaeth na hyn. Bois bach!
Cilan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Sul Meh 03, 2007 5:33 pm

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Ray Diota » Maw Gor 07, 2009 8:46 pm

Delwedd

buster bloodvessel


Delwedd

gwilym euros
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4555
Ymunwyd: Gwe Rhag 19, 2003 4:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan garynysmon » Maw Gor 07, 2009 9:12 pm

Rhwygo'r bleidlais genedlaetholgar. Syniad gret hogia :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4224
Ymunwyd: Maw Gor 01, 2003 5:24 pm
Lleoliad: Llanddeusant, Ynys Mon / Rhuthun

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Bwmbarech » Maw Gor 07, 2009 10:41 pm

Di'r boi gwilym euros ma di sylwi be sy'n digwydd yn blaena - y dadfeiliad hollol mewn cymdeithas? Un arall di cael siomedigaeth o du cyngor gwynedd - isio bildio tai odd o de os dwi'n cofio'n iawn? ac yn meddwl amdano fo ei hun a neb arall.
gin i ddim mynadd efo'r clic sy'n rhedag plaid cymru ond ma'r coc oen yma yn gneud petha yn waeth - mae'r stori yn y daily post yn gneud chdi allan fel corrach bach sy'n stalkio pobol.
Lle ma'r arwyr cymunedol sy'n meddwl am bobol blaw nhw eu hunan?
Bwmbarech
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Gwe Awst 22, 2008 10:15 pm

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Duw » Maw Gor 07, 2009 11:04 pm

Ydy'n wir a wnaeth DI barcio mewn safle anabl? Meddwl mai dyna pwrpas yr edefyn. Mae Eiros yn edrych fel Joli Tw*t ond os yw'n wir mae DI yn Joli C*nt.
WETWORK - cyfieithiadau ac adnoddau ar gyfer y we
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1026
Ymunwyd: Mer Ion 16, 2008 7:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan sian » Maw Gor 07, 2009 11:22 pm

Duw a ddywedodd:Ydy'n wir a wnaeth DI barcio mewn safle anabl? Meddwl mai dyna pwrpas yr edefyn. Mae Eiros yn edrych fel Joli Tw*t ond os yw'n wir mae DI yn Joli C*nt.


Y sôn yw mai lle ar gyfer gyrrwr anabl penodol oedd hwn (os clici di ar y llun, mae rhif y car i'w weld yn blaen) a gan nad oedd hwnnw/honno yno ar y diwrnod hwnnw, bod Dafydd Iwan wedi cael gwahoddiad/caniatâd i barcio yno tra oedd mewn cyfarfod.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3341
Ymunwyd: Llun Ebr 19, 2004 5:37 pm
Lleoliad: trefor
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Duw » Maw Gor 07, 2009 11:33 pm

sian a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Ydy'n wir a wnaeth DI barcio mewn safle anabl? Meddwl mai dyna pwrpas yr edefyn. Mae Eiros yn edrych fel Joli Tw*t ond os yw'n wir mae DI yn Joli C*nt.


Y sôn yw mai lle ar gyfer gyrrwr anabl penodol oedd hwn a gan nad oedd hwnnw/honno yno ar y diwrnod hwnnw, bod Dafydd Iwan wedi cael gwahoddiad/caniatâd i barcio yno tra oedd mewn cyfarfod.


Dyw e ddim yn wir 'te?
WETWORK - cyfieithiadau ac adnoddau ar gyfer y we
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1026
Ymunwyd: Mer Ion 16, 2008 7:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer Gor 08, 2009 8:51 am

Hollol bathetig. Na, dydi o ddim yn iawn parcio mewn lle anabl ('sdim esgusodi hynny, blaw os ydach chi'n anabl, wrth gwrs :? - ond mae 'na ddadl arall am y lle parcio hwn 'fyd) ond mae cymryd llun o un o'ch gwrthwynebwyr gwleidyddol yn gwneud hynny ac yna'n ei osod ar eich gwefan yn, ych, fedrai'm meddwl am air arall ond pathetig. Tasa Gwilym Euros actiwli yn teimlo'n gryf fel hyn, fel mae o'n ei honni, oni fyddai o'n dweud wrth rhywun fel yr heddlu yn lle postio hyn ar ei flog?

Ond ta waeth, os wyt ti'n aelod o blaid sydd heb unrhyw bolisïau ac sy'n basically cynnwys thickos a Saeson yna mi wnei di rywbeth i gael sylw, mae'n siwr. You can quote me on that 'fyd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4868
Ymunwyd: Gwe Hyd 25, 2002 8:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Cardi Bach » Mer Gor 08, 2009 9:11 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Hollol bathetig. Na, dydi o ddim yn iawn parcio mewn lle anabl ('sdim esgusodi hynny, blaw os ydach chi'n anabl, wrth gwrs :? - ond mae 'na ddadl arall am y lle parcio hwn 'fyd) ond mae cymryd llun o un o'ch gwrthwynebwyr gwleidyddol yn gwneud hynny ac yna'n ei osod ar eich gwefan yn, ych, fedrai'm meddwl am air arall ond pathetig. Tasa Gwilym Euros actiwli yn teimlo'n gryf fel hyn, fel mae o'n ei honni, oni fyddai o'n dweud wrth rhywun fel yr heddlu yn lle postio hyn ar ei flog?

Ond ta waeth, os wyt ti'n aelod o blaid sydd heb unrhyw bolisïau ac sy'n basically cynnwys thickos a Saeson yna mi wnei di rywbeth i gael sylw, mae'n siwr. You can quote me on that 'fyd.


Mwy na hynny mae'r holl stori yn gwbl gamarweiniol. Os edrychwch chi ar y lluniau mae'n glir fod y llun cyntaf gyda'r Volvo yn rhywle gwahanol i'r ddau lun sy'n dilyn. Ma'e wal yn wahanol, y llawr yn wahanol - y cwbl, in ffact, yn wahanol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2706
Ymunwyd: Maw Hyd 22, 2002 8:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan sian » Mer Gor 08, 2009 9:25 am

Cardi Bach a ddywedodd:
Mwy na hynny mae'r holl stori yn gwbl gamarweiniol. Os edrychwch chi ar y lluniau mae'n glir fod y llun cyntaf gyda'r Volvo yn rhywle gwahanol i'r ddau lun sy'n dilyn. Ma'e wal yn wahanol, y llawr yn wahanol - y cwbl, in ffact, yn wahanol.



Na, dwi'n meddwl mai'r un wal sydd yn y ddau lun cynta - mae'r car bach arian wedi'i barcio mewn lle ar gyfer gyrwyr anabl yn gyffredinol a'r Volvo ar ei bwys mewn lle ar gyfer un gyrrwr penodol. Dw i'n meddwl bod ar Gwilym Euros £500 i gangen Plaid Cymru Bontnewydd!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3341
Ymunwyd: Llun Ebr 19, 2004 5:37 pm
Lleoliad: trefor
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Hen Rech Flin » Iau Gor 09, 2009 1:05 am

Os yw lle parcio anabl gweithle wedi ei gadw i aelod o staff sydd yn berson anabl, y mae'r lle yn un i'r anabl. Mae'n cael ei chyfrif fel darpariaeth i'r anabl yn ystadegau'r gweithle. Os nad yw'r person anabl yn ei ddefnyddio, am ba bynnag reswm, mae'n dod yn lle parcio anabl cyffredinol. Does gan yr aelod o'r staff na'i benaethiaid yr hawl i wahodd person heb fathodyn glas i'w defnyddio. Nid fi sy'n dweud hynny ond y gyfraith.

Doedd gan DI dim hawl i barcio yno, doedd gan neb yr hawl i'w wahodd i barcio yno Mae'r achos yn un du a gwyn - roedd DI yn rong.

Rwy'n methu deall llwytholdeb pleidiol yr edefyn. Os oedd aelod o'r Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol neu o Lais Gwynedd wedi ei ddal yn pechu yn y fath modd bydda gefnogwyr Plaid Cymru yn poeri plu ac yn bloeddio gwarth. Mae ceisio troelli a chyfiawnhau oherwydd mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru sydd wedi ei ddal efo'i drôns i lawr yn hurt botas.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1403
Ymunwyd: Gwe Ebr 29, 2005 3:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau Gor 09, 2009 9:09 am

Ti'n methu â galw fi, am un, yn llwythol tuag at Blaid Cymru.

Mae wedi cael ei egluro mewn rhannau eraill gan bobl â wyr yn well na chdi a fi a phawb arall yma nad oes stori yma ac nad oedd dim o'i le ar yr hyn ddigwyddodd - ar y lleiaf, os ydi'r gwrthwyneb yn wir, mae'n gwbl amlwg nad oedd DI nac, yn fwy penodol, yr unigolyn a gynigiodd y lle iddo, yn ymwybodol o unrhyw dorcyfraith.

Fy met i ydi erbyn i hyd fod drosodd y bydd gan Gwilym Euros a'i blaid ddiwerth wy mawr ar eu hwynebau - ac yn wir pa ochr bynnag i'r ddadl sy'n gywir nhw sy'n cyfleu eu hunain fel plaid bitw, chwerw wnaiff unrhyw beth i daflu gwarth ar eu gwrthwynebwyr.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4868
Ymunwyd: Gwe Hyd 25, 2002 8:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau Gor 09, 2009 9:40 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Os oedd aelod o'r Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol neu o Lais Gwynedd wedi ei ddal yn pechu yn y fath modd bydda gefnogwyr Plaid Cymru yn poeri plu ac yn bloeddio gwarth. Mae ceisio troelli a chyfiawnhau oherwydd mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru sydd wedi ei ddal efo'i drôns i lawr yn hurt botas.


Na fyddwn i ddim yn 'poeri plu ac yn bloeddio gwarth' petai'r person tan sylw yn aelod o unrhyw un o'r pleidiau Prydeinig. Mae'r ffordd mae Gwilym Euros wedi delio gyda'r mater yn holl bathetig, babiaidd a chwerthinllyd ac yn dangos chwerwder mawr. Jyst trio sgorio pwyntiau gwleidyddol yw hyn, a dim byd arall. Mae hynny'n hollol amlwg i bawb.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Ray Diota » Iau Gor 09, 2009 10:43 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Os yw lle parcio anabl gweithle wedi ei gadw i aelod o staff sydd yn berson anabl, y mae'r lle yn un i'r anabl. Mae'n cael ei chyfrif fel darpariaeth i'r anabl yn ystadegau'r gweithle. Os nad yw'r person anabl yn ei ddefnyddio, am ba bynnag reswm, mae'n dod yn lle parcio anabl cyffredinol. Does gan yr aelod o'r staff na'i benaethiaid yr hawl i wahodd person heb fathodyn glas i'w defnyddio. Nid fi sy'n dweud hynny ond y gyfraith.

Doedd gan DI dim hawl i barcio yno, doedd gan neb yr hawl i'w wahodd i barcio yno Mae'r achos yn un du a gwyn - roedd DI yn rong.

Rwy'n methu deall llwytholdeb pleidiol yr edefyn. Os oedd aelod o'r Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol neu o Lais Gwynedd wedi ei ddal yn pechu yn y fath modd bydda gefnogwyr Plaid Cymru yn poeri plu ac yn bloeddio gwarth. Mae ceisio troelli a chyfiawnhau oherwydd mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru sydd wedi ei ddal efo'i drôns i lawr yn hurt botas.


sai'n deall y ffys... chi di clywed y cont yn canu: ma fe YN anabl!!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4555
Ymunwyd: Gwe Rhag 19, 2003 4:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Duw » Iau Gor 09, 2009 1:53 pm

Ray Diota a ddywedodd:sai'n deall y ffys... chi di clywed y cont yn canu: ma fe YN anabl!!
:lol: :lol:

Felly o be ni'n deall:

1. Mae Euros Pwy Bynnag yn dic-hed,digon o dystiolaeth ar ei flog ei hun. Pwy ddiawl yw e eniwei? Erioed wedi clywed am y boi.
2. Mae Dafydd Iwan wedi torri'r gyfraith yn ol HRF am barcio mewn lle anabl. Os felly, bolycs iddo.

Mae'r ffaith bo Euros Pwy Bynnag wedi tynnu llun ohono a'i osod ar ei flog yn cyfiawnhau'r parcio anghyfreithlon, rhyw sut, i rai gyfrannwyr, yn fy synnu.

Stim byd 'da mi erbyn DI, wedi'r cyfan un o fois ardal Bry'man oedd e - ffili bo'n hollol wael, er os ydyw e wedi parcio lle na ddyle fe, galliff e ymddiheuro - job done. Cofio'r wraig yn tsaso rhyw foi mewn i Tesco's o'r blaen am ei fod wedi parcio mewn lle mam/babi - rhoddodd llawn ceg iddo o flaen pawb. Angen 'name & shame' sy ar y bobl 'ma.
WETWORK - cyfieithiadau ac adnoddau ar gyfer y we
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1026
Ymunwyd: Mer Ion 16, 2008 7:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Cacwn » Iau Gor 09, 2009 2:20 pm

Duw a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:sai'n deall y ffys... chi di clywed y cont yn canu: ma fe YN anabl!!
:lol: :lol:

Felly o be ni'n deall:

1. Mae Euros Pwy Bynnag yn dic-hed,digon o dystiolaeth ar ei flog ei hun. Pwy ddiawl yw e eniwei? Erioed wedi clywed am y boi.
2. Mae Dafydd Iwan wedi torri'r gyfraith yn ol HRF am barcio mewn lle anabl. Os felly, bolycs iddo.

Mae'r ffaith bo Euros Pwy Bynnag wedi tynnu llun ohono a'i osod ar ei flog yn cyfiawnhau'r parcio anghyfreithlon, rhyw sut, i rai gyfrannwyr, yn fy synnu.

Stim byd 'da mi erbyn DI, wedi'r cyfan un o fois ardal Bry'man oedd e - ffili bo'n hollol wael, er os ydyw e wedi parcio lle na ddyle fe, galliff e ymddiheuro - job done. Cofio'r wraig yn tsaso rhyw foi mewn i Tesco's o'r blaen am ei fod wedi parcio mewn lle mam/babi - rhoddodd llawn ceg iddo o flaen pawb. Angen 'name & shame' sy ar y bobl 'ma.


Digon gwir, ac o ran Gwilym Euros yn tynnu llun er mwyn "sgorio pwyntiau gwleidyddol" - wel mai'n 1-0 i Llais Gwynedd felly dydi. Dwi'm yn meddwl fod etholwyr anabl Gwynedd yn mynd i edrych yn ffafriol ar lywydd y Blaid am hyn.
One local resident, who didn’t want to be named, said: “It was horrendous. The lads from Porthmadog just went berserk.”
Rhithffurf defnyddiwr
Cacwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Gwe Meh 06, 2008 2:10 pm
Lleoliad: Ble bu rhywun o'r blaen

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Reufeistr » Iau Gor 09, 2009 4:50 pm

Duw a ddywedodd:[
Pwy ddiawl yw e eniwei? Erioed wedi clywed am y boi.


Pwy bynnag ydi'o, ma'i sillafu fo'n warthus - yn Saesneg a'r Gymraeg.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun Ion 09, 2006 1:19 pm

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Josgin » Iau Gor 09, 2009 9:55 pm

Yn y bon, mae Dafydd Iwan wedi gwneud tro sal yn parcio mewn lle anabl . Nid lle 'rhywun ' oedd ei wahodd i wneud, ond yn hytrach cael hyd i rywle arall. Petai person anabl wedi cyrraedd yn y cyfamser - a phwy sydd i ddweud na ddigwyddodd hynny - yna buasai'r cam yn waeth. Mae Gwilym Euros Roberts a'i gyllell ym Mhlaid Cymru ers tro , a felly ni ddyla'i falais synnu neb, ond nid ei gar o oedd wedi ei barcio yn y lle anghywir . Os mewn twll, stopiwch balu !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 189
Ymunwyd: Sul Chw 18, 2007 12:21 am

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe Gor 10, 2009 2:28 am

Mae'r ffordd mae Gwilym Euros wedi delio gyda'r mater yn holl bathetig, babiaidd a chwerthinllyd ac yn dangos chwerwder mawr. Jyst trio sgorio pwyntiau gwleidyddol yw hyn, a dim byd arall. Mae hynny'n hollol amlwg i bawb.


Os mae'r achlysur hwn oedd y tro cyntaf i Gwilym Euros codi achos hawliau pobl hŷn neu bobl anabl, byddwn yn derbyn dy bwynt. Ond mae gan Gwilym enw da sydd yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd o'n gynghorydd yn enw'r Blaid am fod yn frwd ym meysydd henaint ac anabledd. Mae ei flog yn llawn o gyfeiriadau at ei ymgyrchoedd a'i gwaith yn y meysydd hyn.

Annheg, felly, yw awgrymu mae rhywbeth opertiwnistig oedd ymddygiad Gwilym ar yr achlysur yma.

Y gwir blaen yw pe bai Gwilym wedi tynnu llun o gar Mrs Jones drws nesaf wedi ei barcio mewn lle dynodedig i weithiwr anabl bydda 'na ddim stori! Mae cael llun o seleb yn parcio yn anghyfrifol yn gwneud stori.

Y cwestiwn mawr yw pe bai Gwilym wedi gweld car aelod o blaid, ar wahân i Blaid Cymru, neu ganwr /actor / seleb heb ddaliadau gwleidyddol a fydda fo wedi tynnu llun a'i bostio ar ei flog?

Mae'r mwyafrif yn yr edefyn hwn ac yn sylwadau'r blogiau yn dueddol o ateb na fyddai - mae sbeit piwis oedd yn gyrru ei bost.

Mae hanes Gwilym ym maes hawliau anabledd a henaint, ta waeth, yn awgrymu mae'r gwrthwyneb sy'n wir.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1403
Ymunwyd: Gwe Ebr 29, 2005 3:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe Gor 10, 2009 8:51 am

Hen Rech a ddywedodd:Os mae'r achlysur hwn oedd y tro cyntaf i Gwilym Euros codi achos hawliau pobl hŷn neu bobl anabl, byddwn yn derbyn dy bwynt. Ond mae gan Gwilym enw da sydd yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd o'n gynghorydd yn enw'r Blaid am fod yn frwd ym meysydd henaint ac anabledd. Mae ei flog yn llawn o gyfeiriadau at ei ymgyrchoedd a'i gwaith yn y meysydd hyn.


Beth am gyfrif felly?

Postiau GER sy'n sôn am anabledd a henaint - 8

Postiau GER sy'n ymosod yn bathetig a chwerthinllyd ar Blaid Cymru - 19228736620843746387161872643434789487431473

Hmm.

Trwy esgus bod hwn yn safiad dros bobl ag anableddau ti'n esgusodi Gwilym "What if an old lady wanted to park there?" Euros o'r ffaith ei fod yn defnyddio treialon y bobl hynny er ei ddibenion gwleidyddol chwerw ei hun.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 838
Ymunwyd: Iau Ebr 28, 2005 5:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe Gor 10, 2009 9:16 am

Reufeistr a ddywedodd:Pwy bynnag ydi'o, ma'i sillafu fo'n warthus - yn Saesneg a'r Gymraeg.


Dydi hynny ddim yn un o'r amodau o ymaelodi â Llais Gwynedd? :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4868
Ymunwyd: Gwe Hyd 25, 2002 8:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Cacwn » Gwe Gor 10, 2009 12:27 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:
Hen Rech a ddywedodd:Os mae'r achlysur hwn oedd y tro cyntaf i Gwilym Euros codi achos hawliau pobl hŷn neu bobl anabl, byddwn yn derbyn dy bwynt. Ond mae gan Gwilym enw da sydd yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd o'n gynghorydd yn enw'r Blaid am fod yn frwd ym meysydd henaint ac anabledd. Mae ei flog yn llawn o gyfeiriadau at ei ymgyrchoedd a'i gwaith yn y meysydd hyn.


Beth am gyfrif felly?

Postiau GER sy'n sôn am anabledd a henaint - 8

Postiau GER sy'n ymosod yn bathetig a chwerthinllyd ar Blaid Cymru - 19228736620843746387161872643434789487431473

Hmm.

Trwy esgus bod hwn yn safiad dros bobl ag anableddau ti'n esgusodi Gwilym "What if an old lady wanted to park there?" Euros o'r ffaith ei fod yn defnyddio treialon y bobl hynny er ei ddibenion gwleidyddol chwerw ei hun.


19228736620843746387161872643434789487431473?!
He he, am faint fust di'n cyfri?

Fe wnaeth Dafydd Iwan gamgymeriad mawr yn parcio yn y safle anabal, ac fe fyddai rhai'n dweud fod yr agwedd anystyriol, di-hid yma ganddo wedi bod yn ffactor yn ei fethiant i gael ei ethol flwyddyn diwethaf.

Mi fydda rhywun yn gallu ehangu ar hyn drwy ddadlau fod dominyddiaeth maith Plaid yng Nghwynedd wedi golygu fod llawer o'u cynghorwyr wedi colli gafael ar realiti eu bröydd, a thrwy hynny, cefnogaeth yr etholwyr.

Ac yn dilyn y grasfa gafon nhw yn yr etholiad, fy ngobaith i oedd y bydda Plaid wedi cymryd moment i fyfyrio a cheisio ail-gysylltu gyda thrigolion y sir i geisio adennill y cefnogaeth a gollwyd.

Ond rwan, dros flwyddyn yn ddiweddarach, ma cefnogwyr Plaid Cymru yn dal i gicio a chrio a chwyno rownd ril.

Felly, pwy sy'n chwerw? Anwybyddwch ymgais Llais i fynd o dan y'ch croen chi (er, mae'n rhaid i mi longyfarch Gwilym Euro am hon de!) a doswch allan i siarad fo pobl normal am chenj!
One local resident, who didn’t want to be named, said: “It was horrendous. The lads from Porthmadog just went berserk.”
Rhithffurf defnyddiwr
Cacwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Gwe Meh 06, 2008 2:10 pm
Lleoliad: Ble bu rhywun o'r blaen

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe Gor 10, 2009 1:21 pm

Digon teg.

Does dim problem efo Dafydd Iwan yn parcio yn y safle yna. Fe gafodd o ganiatâd ac nid safle anabl cyffredin ydi o. Mae o'n gwbl ddi-fai yn y mater yma unwaith ydach chi'n sbio arno fo yn llai arwynebol nag sy'n bosib i Gwilym Euros.

OND dwi yn meddwl bod Llais Gwynedd wedi colli allan ar stori dda yma.

Adeg yr etholiad llynedd fe wnes i bleidleisio i'r ymgeisydd annibynol (oedd eisiau bod yn ymgeisydd LlG, ond oedd yn rhy hwyr yn rhoi ei bapurau i mewn...). Yr hyn o'n i'n gobeithio fyddai'n digwydd oedd y byddai Dafydd Iwan a Dic Penfras yn colli eu seddi, ynghyd ag un neu ddau arall - digon i gael gwaed newydd i mewn i'r cyngor, i roi seirens ym mhennau Plaid Cymru, ond dim digon i'r Cyngor gael ei lenwi efo incompetents popiwlist heb syniadaeth ond 'grr Plaid Cymru gas, twt twt'.

Fel mae'n digwydd fe ddigwyddodd hynny ac felly mae gan gynghorwyr fel Gwilym Euros blatfform i ladd ar y Blaid ohono. Dwi ddim yn deud nad ydi Gwilym Euros yn gynghorydd effeithiol yn lleol - mae o'n ymgyrchydd da ar faterion fel y cartref hen bobol na, ac mae galw am gwtogi llym ar staff y sector gyhoeddus yng Ngwynedd yn rhywbeth y dylid bod wedi ei wneud yn ystod blynyddoedd y boom.

Ond yn rhy aml mae o'n creu penawdau di-sail, plentynaidd - ac yn meddwl bod cyfiawnder a gwirionedd ar ei ochr o pan mae'n amlwg i bawb call mai di-sail a phlentynaidd ydi ei gyhuddiadau o. Dwi ddim yn Bleidiwr mawr,yn enwedig ar lefel Gwynedd, ond mae'n gas gen i weld rhywun yn chwarae politics fel hyn pan mae'r bobl mae o'n ymosod arnynt yn onest.

Beth bynnag, y stori mae Gwilym Euros wedi'i methu yn fan hyn ydi PAM y cafodd Dafydd Iwan ganiatâd i barcio yn y safle yma. Does gen i ddim sail i hyn, ond mi fyddai'n ddiddorol gwybod pa mor aml mae DI yn cyfarfod â swyddogion Gwynedd, ym mha rôl y mae o'n gwneud hynny, ac ydi gwŷr busnes tebyg yn cael yr un cyfle a mynediad.

Dwi ddim yn coelio'r holl straeon ma am gysylltiadau amheus rhwng DI a Watkin Jones etc - bwlshit anonest etholiadol gan LlG oedd lot o hynny. Ond un peth mae'n hanfodol i'r Blaid ei osgoi - ac mae hynny'n anodd wedi bod mewn grym yn hir ac yn ecsclwsif - ydi mynd yn rhy gyfforddus mewn grym ac yn rhy cosy efo swyddogion.

Dwi eisiau i LlG fod yn wrthblaid effeithiol, ond tra'u bod nhw'n dal i ymosod yn blentynaidd does dim i'w wneud ond eu dangos nhw fel incompetents plentynaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 838
Ymunwyd: Iau Ebr 28, 2005 5:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: Dafydd Iwan yn parcio yn lle rong

Postiogan Cardi Bach » Gwe Gor 10, 2009 2:53 pm

Oes rhywun arall wedi clywed y suon fod un (neu ragor?) o gynghorwyr Cymraeg Ll G am ymuno a'r Ceidwadwyr?
Wnath rhywun son am y peth i fi'r wythnos dwetha - galla i ddim a chofio pwy nac ym mha gyd-destun yn anffodus.
Cawn weld os oes sail i'r peth yn ddigon buan, siwr o fod.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2706
Ymunwyd: Maw Hyd 22, 2002 8:54 am
Lleoliad: Gal

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig a 3 gwestai