Problemau gyda maes-e

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Gwe 09 Gor 2010 9:43 pm

Diweddariad: fel roeddwn yn gofidio, mae pyst canol Mehefin hyd at ein hailymddangosiad wedi'u colli - posib yn barhaol. Newidiom y gwesteiwr tua'r amser hwn. Roeddent mor ddi-siap ag wn i beth. Yn anffodus, nid oedd modd tynnu gwybodaeth cyflawn o'r gronfa ddata yn y cyfnod hwn. Cawsom ein taflu allan yn ddi-seremoni oherwydd yr ymosodiadau yr oeddwn yn eu hwynebu. Dau fys i nhw hefyd! :x

Gallaf ond ymddiheuro am hyn. Yr unig gysur yw bod ychydig iawn o byst wedi'u cyflwyno yn y cyfnod hwn oherwydd y problemau ennill mynediad i'r safle - gall fod llawer mwy difrifol. Posib gwnewch ddarganfod ambell post coll o ganol edefyn hefyd - unrhyw bost reli a gafodd ei gyflwyno yn y cyfnod uchod. :ing: Short rope - long drop.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1257
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Mer 14 Gor 2010 3:46 pm

Diweddariad - dwi wedi datrys problem 'Pynciau Bywiog'. Dylai fod yn gweithio nawr. Os oes anhwysterau, rhowch wybod yma neu drwy NB.

I adael neges yma - ewch drwy is-seiad 'Croeso a Chyfarchion' a dewis 'Problemau gyda maes-e'.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1257
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Hazel » Mer 14 Gor 2010 3:53 pm

Diolch, Duw. Yr ydych chi'n gweithio'n galed.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan osian » Sul 01 Awst 2010 12:42 pm

Dydi hon ddim yn broblem fel y cyfryw, dim ond syniad, a dwnim lle i roi o.

Pan dwi'n clicio ar linc ar facebook a rhai gwefannau erill, ma'r linc yn agor mewn ffenest/tab arall. Fysa'n bosib cael yr un fath ar maes-e? Ar y funud dwi'n tueddu i glicio ar y linc ac anghofio dod yn ôl yma!

Dio'm byd mawr, jysd 'sa reit handi, diolch!
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Llun 02 Awst 2010 9:35 pm

OK Osian - wedi gwneud. :gwyrdd:

Syniad da. Prawf: cemeg

Aficionados HTML - sori - os oes gwrthwynebiad mawr - rhowch wybod.

//Ar fy hols tan ddiwedd Awst - felly dim newidiadau pellach tan hynny, heb law fy mod yn teimlo'n masocistig a mynd ati trw'r hen Fwyaren.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1257
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Sad 28 Awst 2010 9:59 pm

AELODAU NEWYDD!

Rwyf wedi trwsio (gobeithio!) problem mewngofnodi ar gyfer aelodau a wnaeth gofrestru yn ystod Gorffennaf/Awst.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1257
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Llun 13 Medi 2010 9:42 pm

SBAM!

Efallai bo rhai ohonoch wedi sylwi ar lu o sbamwyr yn ddiweddar. Yn anffodus, mae rhai ohonynt wedi mewngofnodi gan law yn hytrach na defnyddio spambots, naill ai ni, neu mae'r Captcha wedi'i gracio. Beth bynnag, dwi wedi gosod cwestiwn yn y Gymraeg at y sgrin cofrestru i geisio ag atal sbamwyr rhag ymaelodi. Mae'r defnydd hwn dal yn arbrofol, felly byddwn yn ddiolchgar os allech chi anfon NB i mi os ydych chi'n dod ar draws unrhyw beth sy'n edrych fel sbam. Diolch

//GER LLAW

Oherwydd y cwestiwn hwn, fe welwch chi blwch ychwanegol yn eich proffil (ugain tynnu pedwar) - stim angen i chi wneud unrhyw beth ynghylch â hwn - anwybyddwch e.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1257
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Hazel » Maw 29 Maw 2011 11:59 am

Nid wyf yn derbyn negeseuon ebost am atebion i fy nhanysgrifiadau neu am fy negeseuon preifat newydd. Unrhyw un arall?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Maw 29 Maw 2011 10:11 pm

Dwi wedi hysbysu Hedd o'r broblem. Sicrha dy fod yn gwirio dy osodiadau yn dy broffil. Diolch Hazel.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1257
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Hazel » Maw 29 Maw 2011 10:34 pm

Duw a ddywedodd:Dwi wedi hysbysu Hedd o'r broblem. Sicrha dy fod yn gwirio dy osodiadau yn dy broffil. Diolch Hazel.


Diolch, Duw. Ie, rwy i wedi gwirio fy ngosdiadau yn fy mhroffil.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

NôlNesaf

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron