Seryddiaeth

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan Mr Gasyth » Iau 03 Chw 2005 10:22 pm

ma'n amser hir ers i mi godi digon buan i weld gwener gyda'r wawr ond dwi'n credu ei bod hi ymysg y cyntaf i ymddangos gyda'r nos hefyd yn tydi?

oes yna wefan handi alli di argymell Orion?

Y sosban, a seren y gogledd wrth gwrs, ac orion fel pawb arall. Surius (?) y seren fwyaf llachar yn y nen yn eitha amlwg hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Gwe 04 Chw 2005 7:20 pm

Ydi, ma' Sirius yn brydferth iawn.

Os wyt tisio gwybod y petha' sylfaenol am seryddiaeth, cyma glic http://www.astrocentral.co.uk/beginners.html yn fanna ac ma'r petha ti angen gwybod i gyd yna!

Hefyd, os wyt tisio map o'r nen, clicia fanna http://www.skymaps.com/ a gelli di lwytho i lawr siartiau o'r wybren yn rhad ac am ddim - gwych ar gyfer adnabod gwrthrychau yn y nen!

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau, fyddai'n falch o'u hateb!
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 06 Chw 2005 3:25 pm

Un o'r pethau mwy diddorol am fod yn hemisffer y de oedd cael gweld ser a phatrymau hollol newydd ac Orion am ben i lawr a phetha fel'na. Blydi od.

O'n i'n arfar defnyddio rhaglen Skyglobe i weld lle oedd be a phryd. Mae'n rhoi safle y ser yn yr awyr ar yr amser union gywir o'r nos a gallwch chi sgipio ymlaen neu nol mewn amser i weld sut mae pethau'n newid.

Clicia fan hyn am sawl rhaglen serydda yn cynnwys fersiwn Windows o Skyglobe.

Pennod ddifyrfan hynam Seryddwyr Cymraeg - sawl un yn ffarmwrs!
[url=http://nwdls.net]Blog[/url]
[url=http://www.flickr.com/photos/nwdls]Fflicr[/url]
[url=http://www.rhegiadur.com]Rhegi[/url]
[url=http://www.hanesywegymraeg.com]Hanes y We Gymraeg[/url]
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3052
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Dafydd Hywel » Sul 06 Chw 2005 7:19 pm

Seryddwr arall yma, yn aelod o Glwb Seryddwyr Abertawe.

Roedd na sioe dda a Ser Wib (Shooting Star) wythnos ddiwethaf o ben Mynydd Du, Brynaman.

Rodd na rhyw ddyn mdewn siwt coch yn hedfan ar noswyl y Dolig hefyd!!!
Cofiwch Cayo
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd Hywel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 155
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:26 am
Lleoliad: Glanaman

Postiogan Ti 'di beni? » Maw 08 Maw 2005 11:57 am

Un arall gyda gwddw stiff a gwraig amyneddgar. :winc:

Dwi hefyd yn berchennog balch ar un o'r rhain.

Dwi ar hyn o bryd yn ceisio adeiladu rhywbeth i gysylltu fy nghamerau iddo, gan bo Sadwrn mewn safle da. Yn anffodus mae'r garej yn LLAWN crap felly mae'n cymryd hirach na fyswn i'n licio.

Geshi rai lluniau o Sadwrn drwy ddal y camera i'r eyepiece (hmm, llygad-ddarn? Arsylwr?) a'i layerio gyda RegiStax, ond da i ffyc ol oedd y canlyniad i ddeud y gwir.

Dwi eisoes wedi adeiladu stand i'r beinociwlars oedd yn llwyddiannus iawn (os nad sylfaenol).

Hoff glwstwr? M13 yn Hercules y rhyfelwr, achos hwnna di'r un cyntaf i fi allu ffindio gyda'r 'sgop, mae'r saith chwaer wastad yn neis mewn finder neu beinocs, a clwstwr Brocchi, oherwydd mae'r llysenw yn spot on!

Orion yr heliwr yw fy hoff gytser gan ei fod mor imposing yn yr awyr, ond mae Casiopeia, Auriga a Perseus wastad yn neis yw gweld oherwydd eu bod wastad yna.

Eshi i Mecsico ar fy mis mel, ac roedd yr awyr yn reit anhygoel gan ei bod mor glir. Yn enwedig gorwedd ar y traeth yn syllu fyny. Roedd Scorpio a Sagggittarius (y tegell) yn amlwg iawn yn yr awyr hefyd, y tro cyntaf i mi eu gweld yn iawn.

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Postiogan bartiddu » Sad 02 Ebr 2005 9:10 pm

Nawr 'e, mas oni yn drws y bac yn syllu ar y ser uwchben tra'n llyncu can fach o'r hyfryd Dwbwl Ddraig. :D
A dechreuais focysu mewn ar seren llachar, a jiw, meddwl ar ôl ychydig o eiliadau fod yr hen D.D. wedi cael effaith llawer cynt arnaf na'r arfer oherwydd ro'dd y seren yma yn dechrau chwyrlio a gweu patrymmau rhyfedd yn yr hen ffurfafen!
Wel ati i nol yr hen delescop ynde, a jiw ar ol darganfod y seren rhyfedd yn y gwydyr, gweld taw rhywbeth tebyg i talpyn o 'lo ar dân ydoedd, wel comet o rhywfath siwr o fod? Nawr te, roedd yr 'Arad' yn gwynebu am lan hefo'r carn am lawr fel petai, ac yn ddiagonal i'r dde ac islaw ychydig roedd y belen dan yma yn ymbodoli. Oes 'na seryddwyr doeth ar y maes yn gwybod rhywbeth am hanes hwn? Pa comedau sy' i fod i'w gweled amser hyn?
Arwydd rhyfedd 'fyd gyda'r Pab yn marw y noswaith hon! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Sul 03 Ebr 2005 9:13 am

Ti'n siwr na dim y blaned Iau oedd o? Does na'm comed gweladwy efo'r llygad i fod yn y wybren y mis yma, ond ma Iau i fod yn hawdd i'w gweld - i'r dde o'r Arad. Ti'n gallu adnabod y patrwm "Virgo"? Mae Iau yng nghanol hwnnw.
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Sul 03 Ebr 2005 10:49 am

Na, na! Sori, dwi di bod yn son am wybren mis Mowrth sy da i'm byd wan! Dydi Virgo a'r Aradr nunlle'n agos mis yma, felly, ella mai dim Iau weles di. Sgen ti ddisgrifiad pellach i mi gael helpu chdi ffeindio allan be oedd o? Ti'n deall y term "maint" (magnitiwd neu wbath yn Saesneg) - elli di ddeuthai beth oedd maint y peth ma nes di weld?
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan bartiddu » Sul 03 Ebr 2005 11:52 am

Wel mae gen i Refractor 80mm a oni’n edrych gyda lens Barlow x2 gyda lens 25 ongl llydan ynddo. Roedd y ‘seren’ yn edrych tua’r un maint a Sadrwn yn y lens, ac mae sadwrn yn edrych prin fel gronnynyn ynddo!
Roedd y peth yn edrych yn hir fain ac yn ymnyddu mewn patrwm elipse ac ambell waith codi lan ac i lawr ac roedd yr orbit yr elipse yn creu i’r peth diflannu’n llwyr yn y lens am ychydig eiliadau.
Roedd y symidiad hyn yn amlwg iawn i’r llygad noeth hefyd.

Roedd hi tua 9-30pm ac roedd yr aradr hefo’r ‘badell’ i fynny’n unionsyth hefo’r carn yn gwynebu yn syth i lawr fel eglurais, dim yn amal iawn dwi wedi sylwi arno yn y safle yma (ond nid wyf yn seryddwr rheolaidd!). Ac o’r seren isaf o’r Arad neu'r 'sospan' :) wrth edrych yn ddeiagonal ac islaw tua ‘llathen’ (disgrifiad gwael fi’n gwybod!) Roedd yr Aradar i’w ‘weld i gyfeiriad y dwyrain ac roedd y ‘seren’ i’r dde tamaid iddo yn y de ddwyrain?
Sai'n siwr lle mae virgo oes gen ti linc yn dangos ei ffurf? gai bip heno 'to i neud yn siwr.
Yn bendant roedd y peth yma ddim yn grwn, mwy tebyg i garreg cromlech, oni wedi meddwl mae lloeren ydoedd neu asteroid?
Oni’n sicir ddim yn gweld pethe, roedd gen I dyst a welodd yr un peth!
:)

O.N. es i mas i edrych tua 12 wedyn ac roedd y seren wedi symud bron i gyfeiriad y de, ac roedd yna seren arall i'w weld yn y dwyrain yn symud mewn ffordd tebyg ond nid mor amlwg, falle mae fi sy' ddim wedi sylwi ar y ffyrdd mae ser yn symud ychydig wrth eu gweld o'r ddaear?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Sul 03 Ebr 2005 12:56 pm

Os di'r c'myla ma'n mynd, nai sbio heno ma fyd efo'n nhelesgop i - "adlewyrchydd" 130mm, ond nai ddefnyddio lens llai rhag ofn fod o'n pylu chydig bach. Dwi di ffeindio map i chdi fel bo chdi'n gallu nabod Virgo, ond mae o'n rhy bell i ffwrdd o'r Aradr. Da ni'n son am yr hemisffer ddeheuol.

Map yn dangos Virgo

Un cwestiwn arall - i benderfynu os mai comed neu seren oedd o, oedd y gwrthrych yn sgleino ac amrantu, ta oedd o jesd yn aros yn llonydd ac yn glir fel planed?
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai