Mi oedd gan Lucozade anfarth o filboards yn Gaerdydd efo llun Wilinson yn sgorio "Y" gol adlan, efo'r frawddeg "When you're about to drop.......drink Lucozade"
Da chi'n meddwl fysa Nike wedi meiddio cael gol Ronaldo yn ffeinal cwpan y byd ar filboard yn ganol Llundain nol yn 2002?!
(Peidwich poini, doedd y billboard ddim fynnu yn hir

Mi rotha nhw gopi arall fynnu rhyw ddau fis ar ol i'r cynta rywsut dorri'n ddarna man, ond ar ol i hwnnw hanner diflannu, a hanner gael ei gyfro a paent, dwi'm yn meddwl ddeith o nol!
A dwisho defnyddio'r cyfla yma i ddiolch i'r plismon nath yn dal ni, wedyn gofyn "Not big Enland fans then boys?" a gadal i ni fynd

)