Sa'n well da fi weld cynhyrchiad campus o Bobi a Sami, Wil Sam cyn Romeo a Juliet, er y bydd hwnnw'n gaboledig (sori am y gair 'na) o weld y pytiau naethon nhw'n y lansiad.
Wedi crybwyll hyn o'r blaen, ond be' am drosi rhai o ddramau S4C i'r llwyfan? Mae 'na ddegau o rai da 'di bod, fydde'n addas.
Unwaith da ni'n dechre meddwl bod rhaid cael y dramau piwsig i ddenu cynulleidfa eang, da ni ar dir peryglus. Mae cyfarwyddwyr Saesneg sy'n byw yng Nghymru fel Michael Bogdanov eisoes yn cwyno digon bod angen theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru, ac yn dweud bod hi'n fistec i ddarparu theatr gymraeg yn unig heb feddwl am y ddarpariaeth honno.
Mae na ddigon o bobol sy' ddim yn poeni taten amdanan ni, felly rhaid ni fecso am ein buddianne a'n hiaith ni'n hunen. I ni mae'r theatr ma.