Blogio yn y Gymraeg - pam dydy pawb ddim yn wneud?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Mer Awst 11, 2004 3:19 pm

Ie, rhywbeth efo mwy o ffocws. Trafferth efo fi ydi 'does yna ddim un peth yn benodol i ganolbwyntio arno.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3277
Ymunwyd: Maw Awst 12, 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Mer Awst 11, 2004 3:34 pm

Dw i'n ffeindio'r un peth, ond dw i'n tueddu jyst blogo am y pethau sy'n dal fy llygad ar y pryd.

Peth arall dw i'n ffeindio yw bod blogio yn brido blogio. Os ydw i'n ymweld â blogiau eraill a gadael neges, mae'r blogwr yna yn dod at Morfablog a dweud rhywbeth.

Ffordd arall i ennill diddordeb yw blogio am rywbeth ffeindiaist ar blog Saesneg. Wedyn, wrth i'r blogwr ho/wnna gweld bod pobl yn dod at ei b/flog o dy flog di, bydd hi/e'n blogio amdanat ti: <i>someone's blogging about me in some weird language - is it Hungarian?</i>

Hefyd, wrth i ti flogio, ei di lan graddfa Google, a chael mwy o ymwelwyr ar hap trwy hynny. Mae rhaid blogio yn gyson i hyn weithio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7314
Ymunwyd: Sul Awst 18, 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan eusebio » Mer Awst 11, 2004 4:36 pm

Mae gen i flog ifanc iawn a dwi'n trio ei ddiweddaru ;)

Aled - mae gen i ffansi creu wefan Gymraeg am bêl-droed rhyw ddydd gan fy mod wrthi'n ail lansio safle a470 - dwi'n trio prynnu parth i gydfynd ond mae na alw mawr am a470 am ryw reswm!!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe Gor 11, 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Al Jeek » Mer Awst 11, 2004 5:26 pm

Y prif reswm dwim yn blogio rhagor yw nad oes gen i lawer i sgwennu am, dwi'n treulio trwy'r dydd o'r flaen PC beth bynnag, a dyw ysgrifennu ddim yn un on nghryfderau.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul Gor 27, 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Mer Awst 11, 2004 5:45 pm

Wn i ddim os oes digon o bobl yn darllen y blogiau sy'n bodoli yn barod i ddweud y gwir. Yn ol Bloglines dim ond tri person sy'n darllen fy mlog - a fi yw un ohonynt (Nicdafis di'r llall). :)

Y broblem a blogiau yw bod pobl yn ei dechrau nhw gyda'r bwriad gorau, ond yn anghofio amdanyn nhw wedi ychydig o amser. Mae chwarter y gwefannau dw i'n dod ar ei traws ar Google yn blogs heb gael ypdet ers 2002. Mae'r rhyngrwyd yn fynwent o flogs di angen.

Ond gyda'r Gymraeg mae yna digon o 'niche' gwahanol i bob blog. Dw i yn blogio am newyddiaduraeth, ond beth am yr holl bynciau eraill yna sydd angen ei cyfro? Gwell dewis un peth a sticio hefo'i, dwi'n meddwl. Mae Nicdafis yn cael dianc gyda siarad am bopeth dan haul yn benaf am mai Morfablog yw'r unig flog gwerth ei halen yn y gymraeg (blaw am Rwdls Nwdls).
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6144
Ymunwyd: Maw Awst 12, 2003 8:01 pm

Postiogan eusebio » Mer Awst 11, 2004 7:40 pm

Macsen - pam fo dy luniau Eisteddfod efo'r dyddiad 8.10.2004??

Gweld i'r dyfodol go iawn ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe Gor 11, 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Macsen » Mer Awst 11, 2004 7:47 pm

eusebio a ddywedodd:Macsen - pam fo dy luniau Eisteddfod efo'r dyddiad 8.10.2004??

Gweld i'r dyfodol go iawn ;)


Achos bod yr iancs yn gwneud popeth ti-chwith. Mae nhw'n rhoi'r mis, ac yna'r dydd, ac yna'r flwyddyn. Dyna pam bo nhw'n cyfeirio at 11/9 fel 9/11 drwy'r amser. :rolio:

Dw i wedi ceisio ei newid o, ond na.
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6144
Ymunwyd: Maw Awst 12, 2003 8:01 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer Awst 11, 2004 7:59 pm

Dw i'n blogio gormod dros yr Haf. Dw i angen brêc. Go iawn wan.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4892
Ymunwyd: Gwe Hyd 25, 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan eusebio » Mer Awst 11, 2004 8:39 pm

Macsen a ddywedodd:Achos bod yr iancs yn gwneud popeth ti-chwith. Mae nhw'n rhoi'r mis, ac yna'r dydd, ac yna'r flwyddyn. Dyna pam bo nhw'n cyfeirio at 11/9 fel 9/11 drwy'r amser. :rolio:

Dw i wedi ceisio ei newid o, ond na.


Dos i Settings ac yna Formatting, galli di ei newid yn fana
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe Gor 11, 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer Awst 11, 2004 9:24 pm

Dwi yn dueddol o ddim ond darllen blogiau ffilm a blogiau Cymraeg. Dau beth sydd yn gwir ddiddori fi. Blogiau ffilm am eu bod yn gallu taflu newyddion, adolygiadau o ar draws y byd, syniadau newydd a dolenni i draethodau am sinema ac astudiaethau o gyfarwyddwyr.

Blogiau Cymraeg am fy mod i'n lecio ffeindio allan be sy'n mynd mlaen ar y we Gymreig ac yng Nghymru, er dwi yn ffeindio hi'n annodd cael mewn i rai ar ffurff ddyddiadurol am fod angen falla gneud cofnodion yn amlach i gael rhagor o naratif iddyn nhw a (theimlo eich bod chi'n) dod i nabod y person/y cymeriad maen't yn ei actio rywfaint. A falla mwy o farn personol yn hytrach na "nesh i hyn a llall heddiw".

Os mae ganddoch chi ddiddordeb mewn pwnc, ma blogiau'n gallu bod yn adnodd ffantastic i ehangu lle da chi'n edrych am wybodaeth ac i awgrymu pynciau/llyfrau ac ati i astudio'n bellach.

O ran Rwdls Nwdls, mae o'n le i roi dolenni dwisio cadw a falla ryw sylwadyn bach arnyn nhw a ddim isio clogio fyny maes-e efo'r ffasiwn betha. Debyg fod na rai yn ei ddarllen, ag os ma'n nhw'n ffendio'r lincs yn rhai difyr wel gret. Dydi o ddim yn cymryd llawar o'n amsar i, felly pam lai.

Swn i'n lecio tasa na ragor o bobol yn blogio o'i ffon lon nhw 'de. Dwi'n teimlo'n reit unig deud gwir. Dim ond Llunokiau welai o Gymru hyd y gwn i. Sa rywun arall yn gwybod am ragor?

(newydd ffendio un boi o Barri!)

Felly pam na allwn ni gael beirdd yn blogio, ma na gynulleidfa gynhenid iddyn nhw ac mae'n nhw yn eu hanfod yn darllen yn dda (sy'n broblem sawl blog, a dwi'n gwbod mod i'n sal am hyn (sillafu gwael a brawddegau cam!)), fasa'n dda gen i gael darllen blog o ymennydd Twm Morys er enghraifft. A ffeindio rhagor am y person a be ma bardd yn neud efo'i amsar blaw ista'n gwitsiad am yr awen i ddod!

Be am wleidyddion, pobl sy'n gweithio yn y cynulliad (neu fasa nhw rhy ofnus i gael eu sbringio), blog gan aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith neu Cymuned.

Bandiau? ayyb

Fasa hi'm yn annodd sgwennu rwbath mwy diddorol na'n blog i. :winc:

Ond ewch i'r Pictiwrs - ma hwnna'n un da :P
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3055
Ymunwyd: Sad Tach 23, 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai

cron