Banciau Cymraeg...

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Banciau Cymraeg...

Postiogan Gog yn y De » Mer Hyd 05, 2005 5:32 pm

Pa fanciau sydd yn cefnogi'r iaith Gymraeg ar eu cardiau, cyfriflenni, sieciau, ayyb? Dwi 'efo NatWest - banc gydag arwyddion Cymraeg a llyfr siec Cymraeg ond dyna fo.
Rhithffurf defnyddiwr
Gog yn y De
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 75
Ymunwyd: Mer Gor 21, 2004 12:44 pm
Lleoliad: Rhywle yn wlad yr hwntw

Postiogan y mab afradlon » Mer Hyd 05, 2005 5:51 pm

Mae HSBC yn darparu llyfrau siec, datganiadau (hy, o'r hyn sydd yn eich cyfrif) a rhai llythyron safonol yn Gymraeg, ac mae llinell ffon cymraeg gyda nhw hefyd. Cysylltais gyda nhw rhyw wythnos yn ol i ofyn am eu darpariaeth gwe, ond does dim cymraeg ar hyn o bryd, er yn ol eu hateb, mae nhw'n 'edrych mewn i'r sefyllfa'.

Mae llawer iawn o'u ffurflenni gwybodaeth ar gael yn Gymraeg hefyd.
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 229
Ymunwyd: Gwe Chw 25, 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan Dili Minllyn » Mer Hyd 05, 2005 8:25 pm

HSBC yw'r gorau o ran y Gymraeg. Yn anffodus, maen nhw wedi bod yn eithaf adnabyddus hefyd am roi benthyg arian mawr i'r diwydiant arfau a sawl llywodraeth ddigon annymunol. Dyna pam dwi efo'r Co-op, sydd ddim ond yn gwneud rhyw ychydig bach yn y Gymraeg - y sieciau, y peiriannau twll yn y wal, ac ambell i arwydd :( .
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1168
Ymunwyd: Llun Gor 11, 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan gronw » Mer Hyd 05, 2005 9:16 pm

mae cymdeithas adeiladu'r principality yn wych yn
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer Rhag 03, 2003 7:12 pm

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau Hyd 06, 2005 7:54 am

Dwi di bod hefo HSBC ers i mi agor midland griffin account yn 7 oed :D Mae gen i lyfr siec cymraeg a cherdyn credit hefo'r ddraig arno - wych. Wedi dweud hynny, mi ges i alwad ffon ganddynt chydig ynol yn dweud bo fi'n cwsmer dda a i ofyn os hoffwn i cael cerdyn aur? dyma fi'n dweud, wel byswn, ond fysa na ddraig ar hwnw tybed? dyma nhw'n deud na, a wnes i ddeud, wel di hynna ddim werth i mi dden na di? arol trio deuthai bysa fi'n mwynhau'r 'benifits' o cerdyn gwell dyma nhw'n tybio bo fi'n un od ac off a nhw.

Fellu, mae gan hsbc rhai pethe da yng nghymraeg ond cewch chi ddim fod yn gold card holder a cael ddraig ar eich cerdyn ar yr un pryd :?
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun Chw 28, 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau Hyd 06, 2005 8:17 am

Dili Minllyn a ddywedodd:HSBC yw'r gorau o ran y Gymraeg. Yn anffodus, maen nhw wedi bod yn eithaf adnabyddus hefyd am roi benthyg arian mawr i'r diwydiant arfau a sawl llywodraeth ddigon annymunol. Dyna pam dwi efo'r Co-op, sydd ddim ond yn gwneud rhyw ychydig bach yn y Gymraeg - y sieciau, y peiriannau twll yn y wal, ac ambell i arwydd :( .


Paid
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8090
Ymunwyd: Maw Mai 06, 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Garlleg » Iau Hyd 06, 2005 8:40 am

SerenSiwenna a ddywedodd:Dwi di bod hefo HSBC ers i mi agor midland griffin account yn 7 oed :D

Ro'n i'n Griffin Saver hefyd ond do'n i ddim yn hapus pan wnaethon nhw gau'r cangen - ges i account newydd ond ches i ddim cerdyn newydd efo'r rhif. Dw i'n meddwl bod gan fy mrawd y bag efo logo Midland Bank!!
Ro'n i isio NatWest Piggies
http://www.cyd.org.uk
Noson Sgorsio - Galeri C'fon 8.30 5ed o Fedi
Rhithffurf defnyddiwr
Garlleg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Llun Mai 23, 2005 9:26 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan HenSerenSiwenna » Iau Hyd 06, 2005 8:43 am

Garlleg a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Dwi di bod hefo HSBC ers i mi agor midland griffin account yn 7 oed :D

Ro'n i'n Griffin Saver hefyd ond do'n i ddim yn hapus pan wnaethon nhw gau'r cangen - ges i account newydd ond ches i ddim cerdyn newydd efo'r rhif. Dw i'n meddwl bod gan fy mrawd y bag efo logo Midland Bank!!
Ro'n i isio NatWest Piggies


Ha ha, ges i rhain hefyd! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun Chw 28, 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Rhys » Iau Hyd 06, 2005 8:47 am

HSBC dwi gyda, ac oni bai am eu gwefan mae eu gwasanaeth Cymraeg heb ei ail. Dwi hefyd gyda morgais gyda Principality. Ers ail-frandio'n ddiweddar mae pob cangen gyda arwyddion dwyieithog, ac mae eu llyfrau cynilo a thaflenni gwybodaeth unaia'n ddwyieithog neu gyda fersiynnau gwahanol. Gallwch ddewis os hoffech ohebiaeht yn GYmraeg, Saesneg neu dwyieithog.
Mae ganddynt ffurflen werthuso gwasanaeth ac mae un cwestiwn wedi ei eirio fel a ganlyn (mae copi o fy mlaen, er yn eironig yn Saesneg mae'r ffurflen hwn :lol: ):

How important do you feel it is for the Principality to communicate with customers in both English and Welsh?
(1=English is acceptable, 5=Communications need to be fully bilingual)


Hyd y gwydda i dyma'r unig gwmni i ofyn hyn i'w cwsmeriaid. Mae wedi ei erio mewn ffordd braidd yn chwithig, ond eto mae'n rhoi cyfle i bawb (sy'n gwsmer) ddweud eu barn. Felly os ydych yn agor cyfrif gyda nhw (mae eu telerau'n dda iawn gyda llaw :winc: ) neu os ydych yn gwsmer yn barod, Cofiwch lenwi un i mewn.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2175
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan gronw » Iau Hyd 06, 2005 5:33 pm

HSBC dwi gyda, ac oni bai am eu gwefan mae eu gwasanaeth Cymraeg heb ei ail.

ti'n cael llythyre cyffredinol a st
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer Rhag 03, 2003 7:12 pm

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai