TalkTalk

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

TalkTalk

Postiogan Cardi Bach » Iau Meh 08, 2006 10:35 am

Mae cwmni TalkTalk - is gwmni i'r Carphone warehouse rwy'n credu - newydd fod ar y ffon yn cynnig gwasanaeth ffon a Broadband i ni.

Gofynais i'r gwr os oedden nhw'n gallu darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg - pethau syml megis biliau a chyfathrebu dros y ffon - a bu i mi gael fy nhrosglwyddo iw reolwr, a meddai yntau beth bynnag y gall BT wneud ei fod yn argyhoeddiedig y gallan nhw wneud hefyd a hynny'n rhatach.

Efallai fod gobaith - gyda fod nifer o fusnesau ac unigolion yn gwneud yr un cais y gallwn ni ddefnyddio ein grym masnachol i gael cwmni arall i weithredu yn ddwyieithog.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2714
Ymunwyd: Maw Hyd 22, 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Dafydd Hywel » Mer Meh 21, 2006 9:04 pm

Paid a mentro i Talk Talk. Dw i newydd adael Onetel, sef yr un cwmni a TalkTalk ar ol 2 flynedd o "Hell".

Wyt ti yn nabod rhywun o India sydd yn siarad Cymraeg?
Cofiwch Cayo
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd Hywel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 155
Ymunwyd: Iau Ion 20, 2005 12:26 am
Lleoliad: Glanaman

Postiogan y mab afradlon » Sul Gor 09, 2006 9:49 pm

daeth talk tlk i'r drws rhyw flwyddyn yn ol yn cynnig gwasanaeth ffon i fi.

Ydych chi'n hala biliau yn Gymraeg? medde fi?

Pam? medde fe. Y'ch chi'n siarad Saesneg nag y'ch chi?...
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 229
Ymunwyd: Gwe Chw 25, 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan S.W. » Gwe Chw 16, 2007 3:55 pm

Newydd gael yr un alwad yn fy ngwaith wan a ges di Cardi. Wedi cytuno i fynd ymlaen ar yr amod eu bod yn wir yn gallu cynnig gwasnaeth dwyieithog, mae nhw wedi ganddo gallan nhw wneud hynny.

Cawn weld....
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3263
Ymunwyd: Sad Tach 15, 2003 11:02 am

Postiogan Mihangel Macintosh » Sad Chw 17, 2007 8:59 pm

Ges i alwad gan 02 llynedd yn cynnig handset neewydd, 3 miliwn o tectsys y mis am ddim, bla bla bla.

Stopiais y gwr a gweud y byddwn ni a diddordeb os gai siarad gyda siaradwr Cymraeg.

Pasiodd fi ymlaen i'r rheolwr llinell. Dywedodd e nad oedd siaradwr Cymraeg ar gael.

Gofynais iddo os oedden nhw yn darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Dywedodd ei bod.

Gofynais iddo os oedden nhw yn darparu biliau, gwasnaeth cwsmeriaid a gohebiaith yn y Gymraeg.

"Wrthgwrs" dywedodd.

Sut, felly, gofynais nad oedd neb yna ar gael i siarad Cymraeg gyda fi?

Nid oedd ganddo ateb i hyn a dywedodd wrthai am ffonio rhif 02 arall...

felly, fe all Talk Talk fod yn dweud celwydd er mwyn cael cwsmeriaid. Ond ar y llaw arall, efallau ei bod yn bwriad darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Fe gawn weld.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan S.W. » Sul Chw 18, 2007 12:29 pm

Mi ddywedodd TalkTalk wrthaf i "Os ydy BT yn neud o, mi rydym ni'n gaddo neud o".

Fel ddudis i, cawn weld. Mae rhan ohonai'n disgwyl derbyn rhywbeth wedi'i gyfieithu trwy rhyw raglen oddi ar y we.

Ond wrach gai fy siomi ar yr ochr orau.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3263
Ymunwyd: Sad Tach 15, 2003 11:02 am


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai