Agwedd y Gwasanaeth Pensiwn tuag at y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Agwedd y Gwasanaeth Pensiwn tuag at y Gymraeg

Postiogan Hogan » Sad Tach 11, 2006 6:48 pm

Mae mam wedi bod yn llenwi ffurflenni (Cymraeg) i gael Taliad Tanwydd Gaeaf gan y Gwasanaeth Pensiwn yn ddiweddar a heddiw cafodd lythyr gan y Gwasanaeth Pensiwn a oedd yn cynnwys y canlynol:

"The purpose of writing to you now is to apologise that although you completed your Winter Fuel Claim form in Welsh the letter to be sent to you in respect of your Winter Fuel Payment will be in English.................
"When you receive the winter fuel letter, if you would like a copy in Welsh, please return the English copy of the letter to me at the above address. I will arrange for a Welsh version to be sent to you."

Ryda ni wedi penderfynu ysgrifennu llythyr i gwyno am y ddarpariaeth gwarthus yma a chwestiynu pam mae'r Gymraeg yn cael ei thrin yn israddol na Saesneg!

Dwisho i'r llythyr fod mor effeithiol â phosib felly dwi angen eich help chi i feddwl am bethau i sgwennu yn y llythyr yma.

Oes rhywun arall wedi clywed am rhywbeth tebyg i hyn gan y Gwasanaeth Pensiwn gyda llaw?

Dwi'n flin. :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Hogan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Mer Awst 24, 2005 3:03 pm
Lleoliad: y plwy de boi

Postiogan 7ennyn » Sad Tach 11, 2006 7:26 pm

Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau Gynllun Iaith. Dwi ddim yn siwr os ydi'r Gwasanaeth Pensiwn a'r Adran Gwaith a Phensiynau yr un peth, ond dyma doriad o'r Cynllun Iaith:

Cynllun Iaith Adran Gwaith a Phensiynau a ddywedodd:DELIO Â’R CYHOEDD SY’N SIARAD CYMRAEG

Cyfathrebu Ysgrifenedig

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn croesawu gohebiaeth gan y cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg a byddant yn sicrhau na fydd gohebu drwy gyfrwng y Gymraeg ynddo’i hun yn achosi oedi.

Bydd llythyrau a dderbynnir yn Gymraeg sydd angen ymateb yn derbyn ymateb yn Gymraeg a bydd yr un egwyddor yn berthnasol ar gyfer unrhyw ohebiaeth drwy ffurfiau eraill o gyswllt p’un a fydd hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn, e-bost, Y Rhyngrwyd neu gyfryngau cyfathrebu electronig eraill, pan fo’r aelod o’r cyhoedd wedi dynodi’r dewis hwnnw.

Mae’r Adran wedi datblygu cronfa manylion personol cyffredinol newydd. Unwaith y bydd dewis person i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg wedi’u nodi a’i gofnodi yn y gronfa, trosglwyddwyd y dewis hwnnw i holl systemau prosesu’r Adran. Drwy hyn, bydd yn bosibl dechrau gohebu yn Gymraeg gyda’r bobl hynny sy’n byw yng Nghymru y gwyddwn bod yn well ganddynt ohebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 874
Ymunwyd: Gwe Gor 01, 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Hogan » Sul Tach 12, 2006 12:59 pm

Diolch 7ennyn. Allai gyfeirio at y cynllun iaith yn fy llythyr. Dwi di bod yn meddwl am bethau i sgwennu yn y llythyr fel os fysa nhw'n cael gweithwyr Cymraeg i weithio iddyn nhw yn y lle cyntaf ni fuasai rhaid cael cyfieithu llythyrau, yn arbennig os ydi'r swyddfa yng Nghymru - cyfeiriad Gabalfa Caerdydd sydd ar y llythyr. Mae'r llythyr gan y Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid Iaith Gymraeg gyda llaw ond nai ddim dechra rantio mlaen am hynna.

Mae o'n deud yn y llythyr hefyd be i neud os ydy'r ffurflen wedi'i llenwi'n Gymraeg mewn camgymeriad! Pwy ddiawl fysa'n llenwi ffurflen Gymraeg mewn camgymeriad?!! Dwi'n siwr fysa nhw ddim yn deud wrth rhywun be i neud os ydyn nhw wedi llenwi'r ffurflen yn Saesneg mewn camgymeriad - rhywbeth sy'n fwy tebygol o ddigwydd yn fy marn i!
Rhithffurf defnyddiwr
Hogan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Mer Awst 24, 2005 3:03 pm
Lleoliad: y plwy de boi


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai