Os am ymateb Cymdeithas yr iaith
pwyswch yma
Mae'r ateb yn syml. Rhaid i'r sector gyhoeddus yn yr ardaloedd Cymraeg newid i gael eu gweinyddu yn gyfangwbwl trwy gyfrwng y Gymraeg (fel sy'n digwydd yn hynod llwyddiannus gyda Cyngor Gwnedd), a chyfieithu yn ôl yr angen i'r Saesneg. Gwariant ar y Saesneg ddylai cyfieithu fod, nid gwariant ar y Gymraeg. Mae pawb sy'n siarad Cymraeg yn deall Saesneg, nid oes angen cyfieithu arnom ni, ar y di-Gymraeg y mae angen y cyfieithu.
Nid yw hyn am ddigwydd dros nos wrth gwrs, ond dylai Cynghorau megis Ceredigion, Môn a Sir Gâr osod dyddiad ar gyfer y newid 'ma. Dylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol yn yr ardaloedd Cymraeg, yn yr un ffordd ag y mae sgiliau TG yn hanfodol. Os oes unigolyn sy'n ceisio am swydd gyda'r Cyngor yn meddu pob sgil onibai am y Gymraeg, yna dylid cynnig gwersi Cymraeg dwys rhad ac am ddim iddynt.