Tudalen 1 o 2

Ceredigion yn methu fforddio'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 2:21 pm
gan Griff-Waunfach

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 2:25 pm
gan Rhods
Gwarthus

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 2:46 pm
gan nicdafis
Mae polisiau fel hyn yn mynd i'w costio mwy nag maen nhw'n arbed, oni bai bod cyflenwad go fawr o paint stripper 'da nhw.

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 3:25 pm
gan Rhods
Ma'r cyngor yn gwario £15miliwn ar adeilad crand newydd yn Aberystwyth. Ond wrth gwrs ma hwn llawer fwy pwysig ac yn fwy o flaenoroiaeth na'r iaith Gymraeg. :?

Ridicilys!

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 3:45 pm
gan Mr Gasyth
gwyliwch allan am y star turn ar newyddion cymraeg heno :winc:

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 3:46 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Does dim angen ar gyngor unrhyw adnoddau arbenning i gyfieithu cofnodion cyfarfodydd. I gyd sydd raid wneud ydi cael adran Committee Secretariat efo digon o bobol dwyieithog ynddi nes y byddai'n bosibl darparu'r cofnodion yn ddwyieithiog yn y lle cyntaf.

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 4:34 pm
gan Sleepflower
nicdafis a ddywedodd:Mae polisiau fel hyn yn mynd i'w costio mwy nag maen nhw'n arbed, oni bai bod cyflenwad go fawr o paint stripper 'da nhw.


Ooo, Nic! :winc:

PostioPostiwyd: Gwe Tach 24, 2006 6:10 pm
gan Blewyn
So sut gaeth y dogfennau eu cyfieithu i'r Saesneg yn y lle cyntaf ? :crechwen: :?

PostioPostiwyd: Sad Tach 25, 2006 1:52 am
gan Hedd Gwynfor
Os am ymateb Cymdeithas yr iaith pwyswch yma

Mae'r ateb yn syml. Rhaid i'r sector gyhoeddus yn yr ardaloedd Cymraeg newid i gael eu gweinyddu yn gyfangwbwl trwy gyfrwng y Gymraeg (fel sy'n digwydd yn hynod llwyddiannus gyda Cyngor Gwnedd), a chyfieithu yn ôl yr angen i'r Saesneg. Gwariant ar y Saesneg ddylai cyfieithu fod, nid gwariant ar y Gymraeg. Mae pawb sy'n siarad Cymraeg yn deall Saesneg, nid oes angen cyfieithu arnom ni, ar y di-Gymraeg y mae angen y cyfieithu.

Nid yw hyn am ddigwydd dros nos wrth gwrs, ond dylai Cynghorau megis Ceredigion, Môn a Sir Gâr osod dyddiad ar gyfer y newid 'ma. Dylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol yn yr ardaloedd Cymraeg, yn yr un ffordd ag y mae sgiliau TG yn hanfodol. Os oes unigolyn sy'n ceisio am swydd gyda'r Cyngor yn meddu pob sgil onibai am y Gymraeg, yna dylid cynnig gwersi Cymraeg dwys rhad ac am ddim iddynt.

PostioPostiwyd: Sad Tach 25, 2006 12:26 pm
gan Cacamwri
Dwi di cael siom yng Nghyngor Ceredigion - mae'n warthus. Cytuno da ti Hedd - ma angen i'r cyngor weinyddu drwy'r Gymraeg, yna cyfieithu i'r di-Gymraeg. Dyna'r unig ateb fedra i weld.