Tudalen 1 o 1

DVLA Trwyddedu Cerbyd Ar-lein

PostioPostiwyd: Iau Chw 08, 2007 6:23 pm
gan Gog yn y De
Ewch i http://www.vehiclelicence.gov.uk a byddech chi'n weld dewis ar y chwith i neud Vehicle Enquiry. Rŵan, ewch i'r safle Cymraeg... lle mae'r dewis yna yn Gymraeg?

Dwi wedi holi tua blwyddyn yn nol a dwedodd rhywun bod 'na dim anhwysiad i gyfieithu'r tudalen yna. Dim yn dallt y peth achos ond rhaid cyfieithu'r tudalennau sydd raid neud - mae'r rhaglen wedi cael ei sgrifennu yn barod.

Os oes 'na rhywun allan yna yn meddwl mai hwn yn agwedd anghywir, anfon neges i'r DVLA.

Top-tip - neud o gyda'r dewis 'Contact Us' ar y tudalen Saesneg, nid yr un Gymraeg - dwi ddim yn siŵr os mae 'na unrhyw un darllen y rhai Cymraeg :rolio:

Y peth ola' - paid â dweud lle caffoch chi'r wybodaeth yma :winc:

PostioPostiwyd: Iau Chw 08, 2007 6:24 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Gwynnish i llynnedd 'fyd...
Crap 'dydi?!

PostioPostiwyd: Iau Chw 08, 2007 6:50 pm
gan jammyjames60
Nes i ffonio'r wifren Cymraeg sydd gan y DVLA deirgwaith heddiw....dim ateb. :x

PostioPostiwyd: Iau Chw 08, 2007 7:07 pm
gan Gog yn y De
jammyjames60 a ddywedodd:Nes i ffonio'r wifren Cymraeg sydd gan y DVLA deirgwaith heddiw....dim ateb. :x

Bob yn wedi cael ei arestio siwr of fod jyst rhag ofn iddyn nhw'n perthyn i MG - http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/6341041.stm

:rolio:

PostioPostiwyd: Iau Chw 08, 2007 10:26 pm
gan Y Fampir Hip Hop
jammyjams a ddywedodd:Nes i ffonio'r wifren Cymraeg sydd gan y DVLA deirgwaith heddiw....dim ateb.

Paid becso, fydde ni 'ny i ateb y galwade Cymraeg o wythnos nesa', ma nhw'n dodi fi ar y llinell Gymrag o'r diwedd.

Dimond bythdi 8 yn y lle i gyd sydd yn rhan o'r gwasanaeth Cymraeg - a dyw nhw dim yn wneud y Gymraeg yn unig, mae e'n ychwanegol i'r llinellau arferol t'wel. Felly os yw e'n bishi y jiawl (fel oedd hi heddi - siwr y fod rhwbeth i neud a beth dicwyddodd ddoe), gei di trafferth yn gal ateb Cymraeg.
Peth yw, dim ond tua dwsin o galwade Gymraeg ni'n debyg o gal bob dydd. Falle sdim digon o pobol yn gwybod bod y lein yn bodoli, sy'n treuni.

Ond s'dim lot gallen i neud amdano'r gwefan cerbydau yn anffodus. :?

PostioPostiwyd: Llun Chw 19, 2007 6:59 pm
gan Madrwyddygryf
Ar y llaw arall, mae na rhai sydd ddim yn hapus i weld fod y DVLA yn cynnig y fath wasanaeth yn y Gymraeg.

PostioPostiwyd: Llun Chw 19, 2007 9:34 pm
gan Y Fampir Hip Hop
twat o'r Petition 'na a ddywedodd:I telephoned the DVLC to ask who I could discuss this issue with and was given a tirade of abuse by the female Welsh operative.

Beth ddiawl odd e'n erfyn? Twat.
Se fe di siarad i fi, geiff e'r r'un peth.

Yn amlwg dyn hen ffasiwn sy'n hiraethu am hen dyddie - stopon ni fod y DVLC ache 'nôl. :rolio:

PostioPostiwyd: Llun Chw 19, 2007 11:29 pm
gan dau bry
Mam yn dal i alw fon'n DVLC :lol: , ond dyna fo, 10 lefel O sgena i nid TGAU :winc: