DIM CYMRAEG yn y JobCenter

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

DIM CYMRAEG yn y JobCenter

Postiogan Hen Rech Flin » Iau Maw 15, 2007 1:48 am

Pan oeddwn yn laslanc, roedd modd i fyfyrwyr pumed dosbarth derbyn y dôl dros wyliau'r haf, rhag ofn nad oedd eu canlyniadau yn caniatáu iddynt ddychwelyd i'r ysgol i wneud lefel A. Dyma oedd fy sefyllfa yn ystod haf 1974. Cefais gynnig ffurflen uniaith Saesneg i'w llenwi gan y swyddog dôl a gofynnais â oedd y ffurflen ar gael yn y Gymraeg. Cefais yr ymateb:

"Bydd y papurau punt yn uniaith Saesneg os ti iso nhw llenwa'r ffurflen Saesneg. Cofia bach Di waith - di hawl."

Cefais brawf heddiw nad oes dim wedi newid yn yr adran yma o'r llywodraeth ers 30+ o flynyddoedd:

http://henrechflin.blogspot.com/2007/03 ... waith.html

Yr wyf wedi gwneud nifer o gwynion am fy mhrofiad unigol heddiw, ond hoffwn wybod os oedd fy mhrofiad yn unigryw neu a oes eraill wedi cael profiadau tebyg yn y Ganolfan Byd Gwaith honniedig
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1409
Ymunwyd: Gwe Ebr 29, 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mali » Iau Maw 15, 2007 9:38 pm

Ymateb ffiaidd :drwg: gan y cyfarchydd HRF. Mae'r ddynes yn amlwg yn anwybodus ynglŷn a'r Iaith a Chymru, ac efallai y dylie rhywun ddysgu ychydig o fanars iddi hefyd!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2520
Ymunwyd: Mer Ion 07, 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan garynysmon » Iau Maw 15, 2007 10:12 pm

Pan wnesh i orffen y coleg, fe drefnais gyfweliad dros y llinell ffon iaith Gymraeg, a roedd fy nghyfweliad yn gret hefyd.
Cofiwch chi, yn Llangefni a Caergybi oedd hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4227
Ymunwyd: Maw Gor 01, 2003 4:24 pm
Lleoliad: Llanddeusant, Ynys Mon / Rhuthun

Postiogan Geraint » Gwe Maw 16, 2007 9:49 am

Ymha swyddfa ddigwyddodd hyn?

Mi o ni ar y dol blwyddyn dwetha, roedd y gwasanaeth Gymraeg yn swyddfa Bangor yn dda. Mae y linell ffon Gymraeg yn dda hefyd. Ond torrodd y gwasanaeth Gymraeg lawr pan o ni'n delio efo y swyddfa rhanbarthol yn Wrecsam.

Dwi'n meddwl fod pob swyddfa efo agweddau gwahanol i'r iaith, sydd yn deillio o'r personoliaethau sydd yn gweithio yno.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5802
Ymunwyd: Llun Medi 30, 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai