Dylan a ddywedodd:wrth reswm dw i'n cytuno'n chwyrn â'r protestio, a byddaf yn bresennol ddydd Sadwrn os oes gweithredu i fod, ond dw i dal yn teimlo'n anghyfforddus iawn â'r tueddiad i fframio hyn yn nhermau "hil" (ddim gan CyI, ond gan y wasg!). Does gan hyn a wnelo dim byd i'w wneud â hil. Pwynt blinedig hwyrach ond mae'n un pwysig serch hynny.
Nid y wasg sy'n gwneud hyn dwi'm yn meddwl. Mae wedi digwydd achos o dan y gyfraith fel ag y mae, mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol bwer dros y sector breifat ac i erlyn, tra does gan Bwrdd yr Iaith ddim. Os ydi gweithred Thomas Cook yn torri'r gyfraith, yna yn anffodus cyfraith gwahaniaethu hiliol yn hytrach na'r Ddeddf Iaith yw honno. Dyna pam fod Deddf Iaith newydd mor bwysig.





