Tua 18 mis yn ôl, roedd yr Asda yma sydd ger cyffordd 32 jest tu allan i'r ddinas yn gweithredu polisi dwyieithog ffantastig, gyda phob arwydd yn Gymraeg yn gyntaf ac hyd yn oed y cyhoeddiadau dros yr uchelseinydd yn ddwyieithog, (na, nid breuddwyd yw hwn). Ond es i nol yna neithiwr, ac roedd pob peth yn uniaith Saesneg unwaith yn rhagor.
Rhywun yn gwybod mwy am y rhesymau tu ôl i hyn? Mmm?


