La Voile, Y Felinheli

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

La Voile, Y Felinheli

Postiogan jammyjames60 » Maw Gor 17, 2007 10:50 pm

Diolch i AledJ am hyn

Mae gen i ofn bod yna enghraifft arall o agweddau coloneiddwyr lleol wedi dod i'r golwg. Ty bwyta'r La Voile yn Y Felinheli yw'r diweddaraf ar restr sydd i'w weld yn un diddiwedd ar hyn o bryd......

Roedd merch ifanc o'r pentref yn gweini ar un o'r byrddau nos Wener ac yn cynnal sgwrs fer gyda rhai o'r gwesteion, pobl eraill o'r pentref, a hynny yn ddigon naturiol yn y Gymraeg. Daeth y perchennog ati a dweud na ddylai siarad Cymraeg o'i blaen hi, y perchennog, gan fod hynny'n anfoesgar. Dywedodd o hynny ymlaen, roedd hi'n iawn i gwsmeriaid siarad hefo hi yn Gymraeg, ond roedd rhaid iddi eu hateb yn Saesneg!

Mae'r ferch ifanc, chwarae teg iddi, wedi penderfynu nad ydi hi'n fodlon gweithio o dan amodau felly, ac wedi dweud wrth y perchennog na fydd hi'n dychwelyd i'w gwaith.

Roedd Mam y ferch ifanc yn gandryll pan glywodd am hyn ac fe ffoniodd y perchennog, gan ddisgwyl y byddai honno efallai yn syrthio ar ei bai ac yn dweud bod cam-ddealltwriaeth wedi digwydd. Ond na dim o gwbl. Roedd hi'n gwbl ddiedifar, gan ddweud pethau fel "It is the standard practice in this area that English should be the language of business", a "It is just rude to speak Welsh in front of someone who does not understand the language".

Mae rywun jest yn gegrwth yn wyneb y ffasiwn haerllugrwydd, anwybodaeth a pharanoia coloneiddiol. Mae'r wraig yma wedi dibynnu'n helaeth ar gefnogaeth Cymry lleol ers blynyddoedd, gan gynnwys fi fy hun a mhartner o ran hynny, ac eto mae'n gallu ein trin ni fel baw isa'r doman.
Rwan- mae'n bosib bod llawer ohonom wedi bod yn twyllo'n hunain efo mater Thomas Cook gan feddwl y byddai'r mater hwnnw yn fodd o newid agweddau a newid sefyllfaoedd fel hyn. Yn anffodus, dwi'n meddwl ei bod hi'r un mor debyg bod esiampl Thomas Cook wedi cadarnhau ac atgyfnerthu agweddau gwrth-Gymraeg yng Ngwynedd a mannau eraill. Mae'n drawiadol iawn bod perchennog La Voile wedi defnyddio'r un geiriau a ddefnyddiwyd gan Thomas Cook i bob pwrpas.Dwi wedi pasio'r stori ymlaen i Golwg ac mae'n siwr y bydd mwy o gyhoeddusrwydd i'r stori hon dros y dyddiau nesaf.
Golygwyd diwethaf gan jammyjames60 ar Sul Gor 22, 2007 11:19 am, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 676
Ymunwyd: Llun Tach 07, 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan jammyjames60 » Maw Gor 17, 2007 10:54 pm

Un oddi ar fforwm Cymuned wedi gyrru hwn iddynt:

Dear Madam,

We understand that a Welsh language former employee of yours has left your employment as a result of your insistence that it was expected of her to speak in her second language of English to customers at your restaurant. She maintains that it is only natural, and indeed her right, to converse with her fellow Welsh speakers in their native language. She has never expressed any reluctance to speak in English to you as her employer as she is perfectly capable of communicating adequately and satisfactorily in both languages. This she would have continued to do so, whilst preserving her duties in serving customers and discussing matters with them in their own language.

In consequence to your unreasonable request, and illegal behaviour you have lost the services of a competent, efficient and multi-talented young woman.

We would therefore remind you that such behaviour on your part is not only discourteous in an area where over 80% of the local population speak Welsh, but it may also amount to a breach of the Human Rights Act 1998 and Race Relations Act (as amended in 2000).

Consequently, unless a genuine and sincere apology to the person in question and the Welsh nation is not forthcoming, we shall not hesitate in applying for recompense for our client for the detriment to her that has been caused. We will also be informing various media in both the Welsh and English languages of this incident.

We look forward to hearing from you soon.

Yours faithfully,


Os dach chi isio defnyddio'r llythyr gwnewch yn siwr o ddau beth:

1 Mae angen dileu'r 'not' o flaen 'forthcoming' neu fel arall mae'r stori yn saethu ei hun yn ei droed... Evil or Very Mad (gwenoglyn i mi dw i hwnna)

2 Gellwch hefyd grybwyll bod chi am gysylltu a'r CRE yn ogystal a'r cyfryngau eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 676
Ymunwyd: Llun Tach 07, 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan CaptainBrugge » Iau Gor 19, 2007 5:08 pm

Os wyt ti'n nabod yr eneth mewn cwestiwn, plis anog hi i gymeryd cymorth cyfreithiol. (siawns da o wneud cwyn am "constructive dismissal") - nid am yr arian, ond am yr effeith a gaiff hyn - buasai dyfarniad or llys yn sicr o gael sylw yn y papurau newydd.
CaptainBrugge
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun Mai 29, 2006 11:33 am

Postiogan jammyjames60 » Iau Gor 19, 2007 5:56 pm

CaptainBrugge a ddywedodd:Os wyt ti'n nabod yr eneth mewn cwestiwn, plis anog hi i gymeryd cymorth cyfreithiol. (siawns da o wneud cwyn am "constructive dismissal") - nid am yr arian, ond am yr effeith a gaiff hyn - buasai dyfarniad or llys yn sicr o gael sylw yn y papurau newydd.

Caiff, yn sicr. 'Dwi am holi o gwmpas yn o fuan. 'Dwi 'di bod yn brysur wythnos yma efo profiad gwaith ac ati so 'dwi'b 'di gâl amsar i holi. Oes unrhyw una rall yn gwybod?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 676
Ymunwyd: Llun Tach 07, 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan sian » Iau Gor 19, 2007 6:18 pm

CaptainBrugge a ddywedodd:Os wyt ti'n nabod yr eneth mewn cwestiwn, plis anog hi i gymeryd cymorth cyfreithiol. (siawns da o wneud cwyn am "constructive dismissal") - nid am yr arian, ond am yr effeith a gaiff hyn - buasai dyfarniad or llys yn sicr o gael sylw yn y papurau newydd.


Yn ôl Golwg, mae'r ferch yn dymuno aros yn ddi-enw ond mae'n enwi ei mam hi. :?
(ond wnaeth Golwg gyhoeddi erthygl am fy ngwr unwaith yn dweud ei fod yn dymuno aros yn ddi-enw pan nad oedd e ddim - felly falle nad yw hithau chwaith!)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3368
Ymunwyd: Llun Ebr 19, 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan jammyjames60 » Iau Gor 19, 2007 6:19 pm

Pw' 'di'r Mam 'lly? :?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 676
Ymunwyd: Llun Tach 07, 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

La Voile

Postiogan aled g job » Gwe Gor 20, 2007 11:04 am

Pwynt da am y "constructive dismissal". Yn sicr mae'n werth ystyried hynny. James: enw'r fam ydi Gwenllian Hughes, sy'n byw yn 11 Tai Terfyn. Gyda llaw- wyt ti awydd cymryd rhan mewn protest sy'n cael ei threfnu gan Cymuned yn La Voile nos Sadwrn? Cyfarfod ym maes parcio'r Halfway am 7.15. Croeso i unrhyw un arall sydd am ddod draw.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun Medi 26, 2005 8:33 am

Re: La Voile

Postiogan jammyjames60 » Sad Gor 21, 2007 9:57 am

aled g job a ddywedodd:Wyt ti awydd cymryd rhan mewn protest sy'n cael ei threfnu gan Cymuned yn La Voile nos Sadwrn? Cyfarfod ym maes parcio'r Halfway am 7.15. Croeso i unrhyw un arall sydd am ddod draw.


'di hwn dal am gael ei chynnal gan bo' 'na lifogydd ym mhobman!?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 676
Ymunwyd: Llun Tach 07, 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

la voile

Postiogan aled g job » Sad Gor 21, 2007 11:27 am

Yndi tad- dan ni'n reit wydn yn Felin sti! Daily Post/herald hefyd am fod yno......
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun Medi 26, 2005 8:33 am

Re: la voile

Postiogan jammyjames60 » Sad Gor 21, 2007 11:39 am

aled g job a ddywedodd:Yndi tad- dan ni'n reit wydn yn Felin sti! Daily Post/herald hefyd am fod yno......

Pwy sy' am fod yna felly dwa'?
Golygwyd diwethaf gan jammyjames60 ar Sad Gor 21, 2007 10:12 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 676
Ymunwyd: Llun Tach 07, 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai