Golwg360

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Maw 23 Meh 2009 11:45 am

Ray Diota a ddywedodd:
jiw jiw, sian... gobitho bod min ar y gyllell ti'n defnyddio i hollti'r blewyn 'ma...

dwi'n siwr bo ti'n iawn ond fydden i'n meddwl bo rhan fwya o bobol yn fodlon derbyn bod â/gyda yn gyfystyr bellach??


Dw i a Peter Wynn Thomas ddim. :D
O'n i'n teimlo braidd yn gas am hynna :wps: - ond wnaeth e 'nharo i'n od.
Dw i ddim yn lico pan fydd pobol yn pigo ar iaith rhywun ond dw i'n meddwl ein bod ni'n haeddu iaith gywir gan wasanaeth newyddion cenedlaethol.

Roedd Dei Tomos ar y radio bore 'ma yn sôn am gael ei anrhydeddu gan yr Orsedd - yn dweud ei bod hi'n ddyletswydd ar ddarlledwyr i siarad iaith raenus.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3408
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan eusebio » Maw 23 Meh 2009 11:58 am

Nes i glirio'r cookies ddoe, a dwi'n falch o ddweud bod popeth dal i'w weld heddiw 'ma.

Un cwestiwn - ac nid pigo ydw i - ond yn stori Roque Santa Cruz mae'r erthygl yn dwed ei fod yn dod o Weriniaeth Paraguay ... pam Gweriniaeth Paraguay?
[na'i ddim sôn fod y geiriau Gweriniaeth Paraguay mewn ffont gwahanol i weddill yr erthygl!]
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Ray Diota » Maw 23 Meh 2009 12:05 pm

sian a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:
jiw jiw, sian... gobitho bod min ar y gyllell ti'n defnyddio i hollti'r blewyn 'ma...

dwi'n siwr bo ti'n iawn ond fydden i'n meddwl bo rhan fwya o bobol yn fodlon derbyn bod â/gyda yn gyfystyr bellach??


Dw i a Peter Wynn Thomas ddim. :D
O'n i'n teimlo braidd yn gas am hynna :wps: - ond wnaeth e 'nharo i'n od.
Dw i ddim yn lico pan fydd pobol yn pigo ar iaith rhywun ond dw i'n meddwl ein bod ni'n haeddu iaith gywir gan wasanaeth newyddion cenedlaethol.

Roedd Dei Tomos ar y radio bore 'ma yn sôn am gael ei anrhydeddu gan yr Orsedd - yn dweud ei bod hi'n ddyletswydd ar ddarlledwyr i siarad iaith raenus.


wel diolch i wersi 'da PWT, o'n i'n ymwybodol o'r rheol ond dwi 'di bod yn anwybyddu hi... yn gyffredinol, falle fydden i'n gweud y fy mhen bod defnyddio â yn fwy ffurfiol ac felly'n defnyddio 'gyda' os am osgoi gor-ffurfioldeb... whare teg, fydden i fyth di sylwi ar yr enghraifft nodest ti!
:lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Cardi Bach » Maw 23 Meh 2009 12:08 pm

eusebio a ddywedodd:Nes i glirio'r cookies ddoe, a dwi'n falch o ddweud bod popeth dal i'w weld heddiw 'ma.

Un cwestiwn - ac nid pigo ydw i - ond yn stori Roque Santa Cruz mae'r erthygl yn dwed ei fod yn dod o Weriniaeth Paraguay ... pam Gweriniaeth Paraguay?
[na'i ddim sôn fod y geiriau Gweriniaeth Paraguay mewn ffont gwahanol i weddill yr erthygl!]


nage Gweriniaeth Paraguay yw'r enw swyddogol ar y wlad?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan eusebio » Maw 23 Meh 2009 12:12 pm

Go iawn? Erioed wedi clywed unrhyw un yn defnyddio Republic of Paraguay o'r blaen - dwi'n siwr nad ydi'r BBC y defnyddio Republic of ... Ac os ydi Golwg360 am ddefnyddio 'da yn hytrach nag â er mwyn bod llai ffurfiol, yna Paraguay ydi'r enw ar y wlad ia?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Cardi Bach » Maw 23 Meh 2009 2:33 pm

eusebio a ddywedodd:Go iawn? Erioed wedi clywed unrhyw un yn defnyddio Republic of Paraguay o'r blaen - dwi'n siwr nad ydi'r BBC y defnyddio Republic of ... Ac os ydi Golwg360 am ddefnyddio 'da yn hytrach nag â er mwyn bod llai ffurfiol, yna Paraguay ydi'r enw ar y wlad ia?


Cytuno. Yr un peth a Gweriniaeth Iwerddon, am wn i, ond prin iawn y mae pobl yn defnyddio'r teitl llawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Golwg 360 - probelmau eto

Postiogan bed123 » Maw 23 Meh 2009 7:06 pm

Wedi bod ceisio sawl gwaith heddiw i mynd ir wefan Golwg 360, ond heb lwc. Mae'r holl beth yn dipyn o ffars. Cwbwl dwi yn cael ydi un llinell teitl ar pen y tudalen sy'n dwued CRICED. Be uffarn sy mynd ymlaen? Oes rwyn arall gael traffeth gyda'r safle?
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Golwg360

Postiogan sian » Maw 23 Meh 2009 7:16 pm

bed123 a ddywedodd:Wedi bod ceisio sawl gwaith heddiw i mynd ir wefan Golwg 360, ond heb lwc. Mae'r holl beth yn dipyn o ffars. Cwbwl dwi yn cael ydi un llinell teitl ar pen y tudalen sy'n dwued CRICED. Be uffarn sy mynd ymlaen? Oes rwyn arall gael traffeth gyda'r safle?


Wyt ti wedi darllen negeseuon ddoe a heddiw uchod? Wyt ti wedi gwneud fel y mae Duw yn dweud?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3408
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Meh 2009 7:18 pm

sian a ddywedodd:
bed123 a ddywedodd:Wedi bod ceisio sawl gwaith heddiw i mynd ir wefan Golwg 360, ond heb lwc. Mae'r holl beth yn dipyn o ffars. Cwbwl dwi yn cael ydi un llinell teitl ar pen y tudalen sy'n dwued CRICED. Be uffarn sy mynd ymlaen? Oes rwyn arall gael traffeth gyda'r safle?


Wyt ti wedi darllen negeseuon ddoe a heddiw uchod? Wyt ti wedi gwneud fel y mae Duw yn dweud?


I fod yn deg postiwyd y neges uchod mewn edefyn arall yn Seiat Materion Cymru. Fi wnaeth ei gyfuno gyda'r edefyn yma gan ei fod ar yr un trywydd. Sori. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6138
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg 360 - probelmau eto

Postiogan dafydd » Maw 23 Meh 2009 7:49 pm

bed123 a ddywedodd:Wedi bod ceisio sawl gwaith heddiw i mynd ir wefan Golwg 360, ond heb lwc. Mae'r holl beth yn dipyn o ffars. Cwbwl dwi yn cael ydi un llinell teitl ar pen y tudalen sy'n dwued CRICED. Be uffarn sy mynd ymlaen? Oes rwyn arall gael traffeth gyda'r safle?

Mae angen clirio'r cwcis, a dyma ffordd rhwydd iawn o wneud hynny (dro ar ôl tro)

  1. Cer i'r dudalen yma.
  2. Ychwanega y ddolen 'Clirio Cwcis' i dy lyfrnodau/ffefrynnau
  3. Cer i dudalen flaen Golwg 360 ond ddim pellach
  4. Agor dy restr ffefrynnau a chwilio am 'Clirio Cwcis' a clicio arno. Fe ddylai ddweud 'Cliriwyd 1 cwci'
  5. Nawr alli di fynd yn dy flaen i hafan Golwg 360 a gobeithio fe fydd y wefan yn gweithio
  6. Os yw'n dweud 'Cliriwyd 0 cwci', triwch eto ar ôl mynd i'r Hafan. Os yw e dal yn dweud '0' mae'n debygol iawn eich bod chi'n gwrthod cwcis ar gyfer y wefan. Mae'n rhaid derbyn cwcis i'r wefan weithredu yn gywir (dyw hyn ddim yn beth da).

Fe allwch chi hefyd roi'r llyfrnod bach yma ar y bar ffefrynnau, os ydych chi'n defnyddio hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2144
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron