Llinell Gymraeg y trennau wedi diflannu ?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llinell Gymraeg y trennau wedi diflannu ?

Postiogan m.c.macrall » Mer Hyd 06, 2004 2:06 pm

Na does gen i ddim "rhywbeth " am drennau.

Ar ol ffonio 118 404 i gael rhif ffon gwasanaeth trennau cymraeg, gefais wybod fod y rhif ddim yn bodoli mwyach. Ar ol ffonio yr un saesneg sawl gwaith rwyf wedi dod i'r canlyniad fod y canolfan wedi ei symud i asia rhywle !

1) Be di'r hanes !

2) Os yw'r llinell Cymraeg wedi ei dileu mae'n fwy o achos cael y brotest yma ar y trennau ar y 16 o hydref. Oes gan maeswyr y gogledd yr asgwrn cefn ? Cysylltwch yn personol os hoffwch fod yn rhan o hyn !
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 179
Ymunwyd: Iau Ion 15, 2004 1:02 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer Hyd 06, 2004 2:21 pm

Fe siaradais i ddoe gyda rhywun o'r enw James oedd yn amlwg ddim yn siarad rhyw lawer o Gymraeg, drwy ffonio 0845 6040500. Doedd y gwasanaeth ddim wir yn ddigonol, o ystyried y bu'n rhaid i fi esbonio iddo fe am bum munud 'mod i am deithio o C.A.T.H.A.Y.S. Rhan o'r broblem oedd i fi sillafu'r lle'n gynta' gan ddweud th yn lle t h. :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8090
Ymunwyd: Maw Mai 06, 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer Hyd 06, 2004 2:21 pm

Daeth y gwasanaeth i ben bron i flwyddyn yn ol. Nes i gwyno, ond doedd neb yn gwrando.

Oedden i arfer gweithio ar y llinell gwybodaeth drennau rhyw dair mlynedd yn ol, ac yn cymryd galwadau y linell Gymraeg. Gesiwch faint o alwadau Cymraeg o ni'n cael y dydd? un falle dau. A tua 300+ o rhai yn Saesneg. Mae'n drist rili, ond os oss neb yn defnyddio'r gwasanaethau Cymraeg, mae nhw mynd i gael ei cau lawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Barbarella » Mer Hyd 06, 2004 2:26 pm

Mae'r llinell Gymraeg wedi diflannu ers sbel.

Ond, un o addewidion Arriva wrth gymryd reolaeth y franchise oedd y byddai gwasanaeth llawn yn Gymraeg -- gan gynnwys llinell ffôn os dwi'n cofio'n iawn. Digon teg gofyn lle mae'r llinell 'ma erbyn hyn!

Yn y cyfamser, mae <a href="http://www.traveline-cymru.org.uk/Cymru.htm">Traveline Cymru</a> yn eitha da -- gwybodaeth am drenau <i>a</i> bysys yn Gymraeg ar 0870 608 2 608.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe Medi 05, 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan mam y mwnci » Mer Hyd 06, 2004 2:59 pm

Nes i ffonio 118404 ddoe a gofyn am rif i 'rail enquiries' a gefais rif cymraeg gan y dyn , heb ofyn am hwnw, mae'n amlwg iddo gymryd yn ganiataol mai'r llinell Gymraeg oedd arnaf i ei eisiau. Chwarae teg iddo, ac wedi i mi gael drwodd nes i ofyn am amseroedd tren o Fangor i Rydychen a nes i ddim gorfod sillafu dim. Roeddwn i yn fwni hapus iawn :)
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer Gor 30, 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Ifan Saer » Iau Hyd 07, 2004 11:08 am

Ychydig fisoedd yn ol mi wnes i waith ymchwil ar gyfer ryw 'fwrdd' 'iaith' neu'i gilydd; yn ffonio gwasanaethau cyhoeddus a mynnu cael gwasanaeth yn y Gymraeg.

Blydi hel, mae na lyfr i'w sgwennu am yr ambell diwrnod yna a'r 150 o alwadau!

Ond chwarae teg, roedd Arriva yn un o'r rhai gorau, ar y pryd.

Ambell enghraifft o ddigwyddiadau torcalonnus o typical:

"Helo, can I speak to a Welsh speaker please"

"One moment" Ac yna'n cael fy nghyfarch mewn Urdu. :?

Ac un o'r goreuon...

"Can I speak to a Welsh speaker please?"

"Yes. I'll get a Welsh speaker on the line and we'll do a three way conference call."

"Helo, sut allai eich helpu?"

"Dwi am wybod faint yw'r swm i'w dalu ar fy nghyfrif."

"The Gentleman wants to know the amount to pay on his account."

"Tell the gentleman that I can't disclose that information on a three-way call due to the Data Protection Act."

"Nid ydym yn gallu rhannu'r wybodaeth oherwydd-"

"Ia, oce, glywis i, hwyl fawr." :rolio:

Anhygoel!
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe Gor 18, 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Dr Gwion Larsen » Iau Hyd 07, 2004 3:28 pm

Ia ma mam bob tro'n ffonio nhw, ar ôl ffonio'r y wasanaeth Cymraeg dachi pob tro bron yn gal
"I'm sorry, this service is not avaivable at the moment"
A ma hyn bob tro mai di ffonio. Yna ti'n cael y rhif o'r wasanaeth Saesneg... Tossers
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe Rhag 26, 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

BT yn y Gymraeg

Postiogan Hywel » Llun Hyd 18, 2004 9:35 pm

Mae gan BT llinell Gymraeg sydd yn nôl BT ar agor rhwng 8yb a 8yh, ond mae hi yn Cau am 6yh.
Cymraeg yw iaith Cymru, nid Saesneg. Gwnewch bopeth yn y Gymraeg, siaradwch Gymraeg bob tro.

*** TWLL TIN Y CWIN ***
Hywel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sad Awst 09, 2003 7:59 pm
Lleoliad: Rhydaman

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw Tach 16, 2004 5:59 pm

Newydd ffonio Travel Line Cymru:


Menyw: Helo Travel Line Cymru

Fi: Helo! Ydych chi'n siarad Cymraeg?

Menyw: No I don't....

Fi: Do you have a Welsh speaker there?

Menyw: I'll put you through to our north Wales call center...


Saib hir iawn


Merch: Helo Travel Line Cymru

Fi: Hiya! Ydych chi'n neud amseroedd trennau?

Merch: Trains?

Fi: Ie, trennau.

Merch: Oh, trains.

Fi: Dwi'n teithio o Gaerdydd i Leeds a dwi angen bod yn Leeds am 5 ar ddydd gwener.

Merch: Gadal Cardiff Central am eleven twenty feif, change yn Bristol Parkway am twelve o clock, dal train Newcastle am twelve ow eight, cyrraedd leeds am fifteen fifty twoo.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Ramirez » Maw Tach 16, 2004 7:33 pm

oddi ar y pwnc chydig, ond neshi drio ffonio tacsi dwrnod o blaen

"Hello, taxi"

"Helo, di'n bosib cael tacsi o Bantycelyn plis?"

"sorry mate, i don't know what the you're on about. hahaha"

"i said can i...".

"yeah right. cheers mate"

a rhoi'r ffon lawr

wot a cynt

:drwg:
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4541
Ymunwyd: Sul Tach 24, 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai