LCO's i'r Uighurs?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Amnest Cymru » Iau Gor 09, 2009 12:05 pm

Bore ma blogio ni ar sefyllfa yn Xinjiang yn enwedig ar materion polisi iaeth. Dyma'r linc i ddarllen mwy amdani. Os oes unrhyw un arall eisiau trafod hawliau dynol ar y we yn y Gymraeg gadewch i ni wybod.http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455
Amnest Cymru
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Iau Gor 09, 2009 11:32 am
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Rhys Llwyd » Iau Gor 09, 2009 2:24 pm

Dwi di gadael y neges ma ar y blog ond dyma hi fan hyn hefyd:

Tra bod anghyfiawnder i'w weld ar draws y byd a thra bo diwylliannau o bob math yn diflannu, maen naturiol dechrau wrth ein traed. O ganlyniad, prif ffocws ein holl bolisïau ac ymgyrchu yw'r angen i bwysleisio'r amodau hynny a fydd yn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg a chymunedau Cymru. Trwy wneud hynny, gallwn gyfrannu at yr ymgyrch ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol, gan fod ymgyrchu o blaid yr iaith hefyd yn golygu ymgyrchu dros yr hawl i reoli ein dyfodol. Ar yr un pryd, pwysleisiwn barodrwydd parhaol Cymdeithas yr Iaith i gyd-weithio gyda mudiadau radical eraill sydd yn rhannu ein gweledigaeth ac yn awyddus i weld newid.

Trwy'r nawdegau ac i mewn i'r ganrif newydd daeth mwy a mwy yng Nghymru i goleddu'r gred dwyllodrus fod dyfodol y Gymraeg bellach yn ddiogel. Yn raddol datblygodd consensws a oedd o'r farn fod protest, er gwaethaf ei gyfraniad eithriadol o effeithiol i fywyd Cymru, bellach yn perthyn i'r gorffennol ac y gellir yn awr hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'r sustem. O bosib y symudiad peryclaf yn y maes yma yw'r ymgais i dynnu'r Gymraeg allan o wleidyddiaeth – i niwtraleiddio'r Gymraeg. Defnyddir y ddadl yma yn aml gan y sefydliad er mwyn cyfiawnhau gwerthoedd afiach. Er engrhaifft yn y saithdegau – ‘cadwch wleidyddiaeth allan o chwaraeon' (fel y gallwn fynd i Dde-Affrica i chwarae rygbi ac i gydnabod y drefn Apartheid). Trwy barhau gyda'n safiad gwrthsefydliadol a gwrth-gyfalafol nod Cymdeithas yr Iaith yw ymladd yn erbyn y pydredd mewnol, gan greu hinsawdd gwleidyddol mwy beirniadol a gwyliadwrus. Mae'r iaith yn colli tir yn gyflym a rhaid i ni weithredu yn fuan. Ni wnaeth ymgyrchoedd y degawdau diwethaf ond sicrhau na fyddai'r Gymraeg yn iaith farw erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn awr, rhaid i ni ddeffro i frwydr newydd!

Un o nodweddion cenedlaetholdeb Prydeinig erioed oedd dyrchafu achosion tramor tra'n difrïo ymgyrchoedd am gyfiawnder o flaen eu trwynau. Tra oedd arweinwyr Llafur yng Nghymru yn hanner addoli Jawaharlal Nehru yn yr 1950s roedde nhw'n mynd rownd y lle'n galw Gwynfor Evans yn ffasgydd! A dyma ni heddiw yn cael aelod blaenllaw o Amnesty yn difrïo ymgyrchwyr cyfiawnder yng Nghymru ond yn rhoi sylwi i achos tramor. Y mae'r achos tramor yn deilwng iawn o sylw ond pam y safonau dwbl Amnesty?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4936
Ymunwyd: Mer Rhag 11, 2002 6:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Josgin » Iau Gor 09, 2009 8:38 pm

At beth yn union wyt ti'n cyfeirio , Rhys , parthed sylwadau gan Amnesty ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 189
Ymunwyd: Sul Chw 18, 2007 12:21 am

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau Gor 09, 2009 8:41 pm

Josgin a ddywedodd:At beth yn union wyt ti'n cyfeirio , Rhys , parthed sylwadau gan Amnesty ?


Sylwadau isod gan Amnest Cymru... (sy'n cael eU rhedeg yng Nghymru gan gyn SPAD Welsh labour)

Dim LCO yn Xinjiang

Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu, cymryd cam bach yn ol, ac edrych efallau tu hwnt i Gymru fach. Mae’r “Welsh knot” eisioes yn hanes hynafol i ni Cymru Gymraeg ond nid fellu bu bywyd yn Xinjiang heddiw. Pan ymwelodd Rebiya Kadeer a’r Cynulliad yn 2007 esboniodd am y cyfyngiad llym yn erbyn crefydd, diwylliant ag iaeth yr Uighur a sonioedd yn enwedig am y tristwch a thor calon o gorfodi plant i ardaloedd o China i dderbyn eu addysg mewn iaeth a dywylliant estron.Mae athrawon a phlant yn wynebu dirwy am siarad mamiaith yn yr ysgol a mae ymgyrchwyr yn cael eu carcharu am rhannu wybodaeth am datganoli. Yr wythnos yma gwelwyd marwolaeth 140 person, a dros mil o ymgyrchwyr yn cael eu arestio. Braint yw ddadl yr LCO, yn anffodus nid iw fath braint ar gael i bawb yn ein byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan sian » Iau Gor 09, 2009 8:49 pm

Mae hynna'n hollol anhygoel.
Dw i'n cymryd mai barn unigolyn yw hynna yn hytrach nag official party line Amnest.
Oes modd cwyno wrth rywun?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3341
Ymunwyd: Llun Ebr 19, 2004 5:37 pm
Lleoliad: trefor
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau Gor 09, 2009 8:57 pm

sian a ddywedodd:Mae hynna'n hollol anhygoel.
Dw i'n cymryd mai barn unigolyn yw hynna yn hytrach nag official party line Amnest.
Oes modd cwyno wrth rywun?


Wel blogiad yw e ar wefan Amnest, felly efallai y gellid dadlau mai barn unigolyn yw hyn, ond mae'r sawl tan sylw hefyd wedi cofrestru gyda maes-e dan yr enw 'Amnest Cymru' er mwyn hyrwyddo'r blogiad. Mae angen gofyn y cwestiwn a yw hwn yn flogiad swyddogol ar ran Amnest Cymru neu beidio.

Mae Dafydd o swyddfa Cymdeithas yr Iaith yn Aber wedi ffonio i gwyno, ac wedi llunio llythyr. Mi bostiaf y cynnwys yma.

Gallwch adael sylwadau yma - http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455 - neu ebostio swyddfa Amnest yng Nghymru cymru@amnesty.org.uk neu wales@amnesty.org.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Josgin » Iau Gor 09, 2009 9:17 pm

A oes modd enwi'r 'sosialydd Prydeinig' sy'n gyfrifol am y fath sbeit ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 189
Ymunwyd: Sul Chw 18, 2007 12:21 am

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau Gor 09, 2009 9:58 pm

wel, does dim prawf, ond... Byddai'n dda cael gwybod gan Amnesti pwy oedd yn gyfrifol am y blogiad.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan sian » Gwe Gor 10, 2009 8:35 am

Wedi anfon hwn at amnest:

Annwyl Gyfaill,
Ro'n i wir yn methu credu fy llygaid ac yn teimlo'n sâl pan welais y blog Cymraeg ar wefan Amnest Rhyngwladol ddoe.
"Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu ..."
Alla i ddim coelio bod rhywun o fudiad sy'n ymladd dros hawliau pobl yn gallu bod mor sarhaus at hawliau'r Gymraeg yng Nghymru.
Yn fy mhrofiad i, y bobl s'n weithgar dros y Gymraeg yn ein cymunedau yw'r bobl sy'n malio am hawliau pobl eraill hefyd ac mae agwedd fel hon yn gwneud drwg mawr i enw da Amnest.
Gwn ei fod yn dweud "Views voiced on these blogs are not necessarily Amnesty International's own" ond mae rhywun â'r enw "Amnest Cymru" ar maes-e wedi dweud "Bore ma blogio ni …" sy'n awgrymu ei fod yn cael sêl bendith y mudiad.

Hyderaf y cymerwch gamau i gywiro'r sefyllfa.


Gobeithio y darllenan nhw neges Rhys - a'i hystyried!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3341
Ymunwyd: Llun Ebr 19, 2004 5:37 pm
Lleoliad: trefor
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe Gor 10, 2009 3:22 pm

Dafydd Morgan Lewis o swyddfa Cymdeithas yr Iaith wedi danfon y llythyr yma at swyddfa Amnesti yng Nghaerdydd a Llundain:

Dafydd Morgan Lewis a ddywedodd:Yn dilyn ein sgwrs ar y ffôn ddoe ynglŷn â chynnwys neges Gymraeg gan 'ymgyrchydd' ar flog Amnesty International UK - http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455 - credaf ei bod hi'n angenrheidiol i ddanfon llythyr o gŵyn swyddogol atoch ar y mater ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cafodd y geiriau tramgwyddus eu postio nid yn unig ar wefan swyddogol Amnest Rhyngwladol ond fe roddwyd dolen iddynt hefyd ar fforwm drafod boblogaidd yn yr iaith Gymraeg a elwir yn maes-e - viewtopic.php?f=3&t=27634. Y tro hwn defnyddiodd y cyfrannwr yr enw Amnest Cymru sy'n codi'r cwestiwn os cafodd y blog ei ysgrifennu gan aelod o'ch staff yng Nghymru?

Dyma sy'n cael ei ddweud ar y blog:

“Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu, cymryd cam bach yn ol, ac edrych efallau tu hwnt i Gymru fach. Mae’r “Welsh knot” eisioes yn hanes hynafol i ni Cymru Gymraeg ond nid fellu bu bywyd yn Xinjiang heddiw. Pan ymwelodd Rebiya Kadeer a’r Cynulliad yn 2007 esboniodd am y cyfyngiad llym yn erbyn crefydd, diwylliant ag iaeth yr Uighur a sonioedd yn enwedig am y tristwch a thor calon o gorfodi plant i ardaloedd o China i dderbyn eu addysg mewn iaeth a dywylliant estron.Mae athrawon a phlant yn wynebu dirwy am siarad mamiaith yn yr ysgol a mae ymgyrchwyr yn cael eu carcharu am rhannu wybodaeth am datganoli. Yr wythnos yma gwelwyd marwolaeth 140 person, a dros mil o ymgyrchwyr yn cael eu arestio. Braint yw ddadl yr LCO, yn anffodus nid iw fath braint ar gael i bawb yn ein byd.”

Byddai ar rhywun angen gwers hir yn hanes Cymru i lawn werthfawrogi'r gyfeiriadaeth yn y cofnod uchod. Mae yna hefyd gyfeiriad at broses ddeddfwriaethol ynglŷn â'r iaith Gymraeg sydd yn digwydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r senedd yn Llundain ar hyn o bryd.

Hoffwn egluro fod ein mudiad, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau ieithyddol yng Nghymru ers hanner canrif. Mae hyn wedi golygu ymgyrchu dros ffurflenni dwyieithog, arwyddion ffyrdd dwyieithog, addysg Gymraeg, sianel deledu Gymraeg, a hawliau ieithyddol sylfaenol i Gymry Cymraeg fel eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion cyfartal yma yng Nghymru.

Fe fu erioed agwedd rhyngwladol ar ein gwaith, ac yr ydym wedi cydweithio gyda'r Cwrdiaid yn Nhwrci nad yw eu sefyllfa mor annhebyg a hynny i un yr Uighur ddisgrifir uchod gan iddynt gael eu gormesu a'u cosbi am siarad eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain. Yr ydym hefyd yn ddiweddar wedi bod yn codi arian i helpu'r trueiniaid yn Gaza.

Tra ein bod yn croesawu'r ffaith fod Amnesti wedi gosod cofnod Cymraeg ar eu blog, mae'n anffodus fod y cofnod hwnnw wedi ei ysgrifennu mewn ffordd mor gas. Cafodd hefyd ei ysgrifennu mewn ffordd sydd mor groes i ysbryd Amnesti ei hun.

Mae'n fater o bryder pellach i ni ei bod hi'n bosibl i'r cofnod gael ei ysgrifennu gan rhywun sy'n gyflogedig gan Amnesti. Os yw hynny'n wir rhaid gofyn y cwestiwn os oes gan y person hwnnw gyn lleied o ddealltwriaeth a chydymdeimlad gyda'r lleiafrif ieithyddol yng Nghymru a ydyw mewn gwirionedd yn gymwys i weithio i chi fel mudiad? Rhaid dweud nad yw'r cofnod uchod yn adlewyrchu yn dda iawn arnoch ac fe allai wneud drwg mawr i'ch enw da yma yng Nghymru ac ar y gwaith rhagorol yr ydych yn ei wneud.

Efallai y dylid trefnu cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Amnesti Rhyngwladol er mwyn trafod rhai o'r materion hyn ymhellach.

Yr eiddoch yn gywir

Dafydd Morgan Lewis
Swyddog Gweinyddol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Cardi Bach » Gwe Gor 10, 2009 3:58 pm

Newydd siarad gyda un o swyddogion polisi Amnest, ac mae'n nhw'n dweud eu bont yn ystyried sut i ymateb i'r peth.

Serch hynny, medde'r swyddog, gan nad ydyw'n deall y blog (am mai Saesneg yw iaith staff y brif swyddfa yn Llundain) mae posib y byddan nhw'n trosglwyddo'r holl beth drosodd i swyddfa Caerdydd i ymateb yn ffurfiol. Y drafferth yw, fel mae Sian a Hedd ac eraill wedi ei ddweud, fod yna awgrym mai 'swyddog' i Amnest yng Nghaerdydd ysgrifennodd y blog yn y lle cyntaf. Mae'r post ar ddechrau yr edefyn hyn yn un swyddogol ar ran Amnest Rhyngwladol - mi alla i ddweud hynny fel ffaith, ac mae'r neges cyntaf yma yn dweud "Bore ma blogio ni...", felly nid tystiolaeth anecdotal yw hyn, ond tystiolaeth gadarn mai blogiad swyddogol gan Amnest ydyw.

Rhaid i Amnest Rhyngwladol bellhau eu hunen o'r cyfraniad blog, ymddiheurio, a disgyblu y swyddog a wnaeth hyn. Mae'n gwestiwn a ddylai Amnest - mudiad yr wyf yn ei gefnogi, hyrwyddo, ac wedi codi arian ar ei chyfer - gyflogi rhywun sydd yn coleddu barn sydd yn groes i egwydddorion craidd y mudiad ei hun.

Efallai mai 'tafod ym moch' yw'r cyfraniad i annog trafodaeth, ond nid trwy wneud datganiadau yn groes i'ch egwyddorion craidd y mae datblygu cefnogaeth a thrafodaeth! Byddai hynny fel Oxfam yn datgan mai bai tlodion y trydydd byd am beidio a gweithio'n ddigon caled yw gwraidd eu tlodi!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2706
Ymunwyd: Maw Hyd 22, 2002 8:54 am
Lleoliad: Gal

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe Gor 10, 2009 4:34 pm

Mae Dafydd wedi danfon y llythyr uchod yn ddwyieithog at Swyddfa Amnest Rhyngwladol yn Llundain, ac wedi cynnig y cyfieithiad yma ar gyfer y geiriau a bostiwyd ar flog Amnest:

Blog Amnest (Cyfieithu gan DML) a ddywedodd:I wonder if those who are constantly bickering and cackling about the Welsh language LCO and who should legislate on the Welsh language should not consider taking a step back for a moment and for once look beyond the borders of little Wales. The 'Welsh Not' (incorrectly spelt as Knot) is already ancient history for us Welsh speakers but that could not be said about life in Xinjiang today. When Rebiya Kadeer visited the national Assembly of Wales in 2007 he drew attention to the strict limitations on the religious, cultural and linguistic rights of the Uighur, and he talked in particular about the sorrow and heart break involved when children are forced to move to other parts of China to receive their education in a language and culture that is foreign to them. Teachers and children are punished for speaking their mother tongue in school and campaigners are jailed for distributing information about devolution. This week 140 people were killed and over a thousand campaigners arrested. Those arguing about the Welsh language LCO do so from a position of privilege, a privilege not available to everybody in the world.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Rhys » Mer Gor 15, 2009 2:15 pm

Rhyfeddol. Y dangos anwybodaeth llwyr o gyfraniad Cymdeithas yr iaith (gan gymeryd mai dyna oedd prif darged y 'dig') yn eu hymgyrchoedd rhyngwladol.

does dim yn codi fy ngwrychyn i'n fwy na haerdiad cenedlaetholwyr Prydeinig bod y Cymry (a'r siaradwyr Cymraeg yn benodol) yn gul a ac anwybodus o ddim sy'n digwydd y tu allan i ffiniau ywlad, tra mewn gwirionedd baswn i'n dweud mai ni yw'r mwyaf 'clued up' o holl bobl Prydain.

Ac yn agor cyfrif maes-e wedi i drio 'hysbysebu'r peth'

Sylw gwych gan macsen, chwarae teg hefyd.

Os edrychwch chi ar y golofn dde, mae dolenni at gofnodio eraill gan flog swyddfa Caerdydd Amnest, sawl un yn ddwy ieithog, ondnid y cofnod hwn...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2170
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 9:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun Gor 20, 2009 9:56 am

Erthygl yn y Western Mail Heddiw -
Row over Amnesty blog linking China repression and Welsh language battle

Mae Cathy Owens yn cyfadde mai hi wnaeth ysgrifennu'r blogiad, ond nad yw'n mynd yn erbyn canllawiau Amnest Rhyngwladol. Mae hi hefyd yn dweud:

Cathy Owens a ddywedodd:Regarding Amnesty’s viewpoints on the issues discussed in the post, we would like to make it clear that Amnesty International has no position on either side of the Welsh Language LCO debate.


Y cwestiwn yw, oni ddylai Amnest Cymru gael safbwynt ar y mater?!?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Creyr y Nos » Iau Gor 23, 2009 12:32 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd: Cathy Owens a ddywedodd:Regarding Amnesty’s viewpoints on the issues discussed in the post, we would like to make it clear that Amnesty International has no position on either side of the Welsh Language LCO debate.

Y cwestiwn yw, oni ddylai Amnest Cymru gael safbwynt ar y mater?!?


Ma hwnna yn safbwynt anghygoel i fudiad fel Amnest ei ddal. Mae'n dweud popeth am eu hagwedd tuag at y Gymraeg.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 402
Ymunwyd: Gwe Rhag 19, 2003 9:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau Gor 23, 2009 7:20 pm

Mewn ffordd, mae'n ddigon teg be ddywedodd Cathy Owens am "Amnesty International has no position on either side of the Welsh Language LCO debate" - maen nhw'n brwydro dros hawliau i garcharorion gwleidyddol ac ati.

Ond, petasem ni'n derbyn hynny, pam ffyc mae rhywun wedi cyhoeddi blog AI sy'n delio ag LCOs ac ati?. Yn sgil be ddywedodd Cathy Owens, dylid ymddiheuriad swyddogol o ran AI. Be nesa- AI yn deud eu barn ar ffliw'r moch?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 428
Ymunwyd: Sul Chw 03, 2008 9:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe Gor 24, 2009 10:24 am

Mae mwy o sylwadau da iawn wedi eu gadael ar y blog erbyn hyn - http://blogs.amnesty.org.uk/blogs_entry.asp?eid=3455
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan Rhods » Gwe Gor 24, 2009 2:32 pm

Mae Amnesty yn gneud lot o waith da - a mae yn anffodus beth sydd wedi digwydd. Dwi yn meddwl tho mai mwy i neud ar unigolyn yw e na Amnesty ei hunain. Dyw e ddim yn gyfrinach bod Kathy Owens ddim yn ffan o ymgyrchwyr/gwarchodwyr yr iaith..felly cael pop arnom ni yn fwy na dim byd arall yw hyn a trio weindio ni lan . Ydy, mae yn amhroffesiynol be mae di neud gan bod hi wedi defnyddio rhinwedd ei swydd er mwyn delio ai atgasedd at bobl yr iaith, er dwi ddim yn rili bothered amdani :| . Byddwn ni yn meddol bod bosses Amnesty wedi roi telling off iddi a dweud iddi bod yn fwy ofalus be mae'n dweud yn y dyfodol...

Eniwie ai hi oedd y failed researcher odd yn gweithio i Lafur yn y Cynulliad a gwnath bach o ffwl ei hunain rhyw flwyddyn yn ol ???? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1267
Ymunwyd: Gwe Ion 06, 2006 3:17 pm

Re: LCO's i'r Uighurs?

Postiogan sian » Sad Medi 19, 2009 3:32 pm

Wedi cael ateb i gwyn am y blog yn cynnwys hyn:

"We are genuinely sorry for any offence caused by the blog about which you have complained. We do not wish for any items posted on the blog to be interpreted as Amnesty disparaging or taking sides in any campaign for linguistic rights in Wales or elsewhere.

We are assured that no offence was meant to activists on either side of the Welsh language debate, but we accept that the choice of words was unfortunate and for that we also apologise.

The matter has been discussed and dealt with under Amnesty International UK procedures and we are confident that there will be no recurrence. We hope that you will find this latter assurance satisfactory and we wish to thank you for your past support and hope that this will be forthcoming again in the future."
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3341
Ymunwyd: Llun Ebr 19, 2004 5:37 pm
Lleoliad: trefor
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai