Bydd perfformiad arbennig gan Meic Stevens yn stiwdio Wedi 3/Wedi 7, Llanelli ar nos Sadwrn, Chwefror y 26ain. Dyma berfformiad olaf Meic cyn iddo adael am Vancouver ddechrau mis Mawrth. Mi fydd y recordiad yn cychwyn am 7.30 ac yn gorffen tua 9 o’r gloch. Cynulleidfa i gyrraedd yn brydlon am 7 o’r gloch. Cyfyngir nifer y gynulleidfa i 60 o bobl, felly’r cyntaf i’r felin! Enwau i Rebecca os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn.
Rebecca Miles, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. - 01554 880818 - rmiles@tinopolis.com

