ceri matho a ddywedodd:
a beth am dreiglade? yn dreforus ne yn nhreforus? yn dreforus weten i ersdalwm
O'n i'n meddwl taw diogi fi odd gweud yn Gaerffili, yn Drelewis ac ati. Ai rwpeth o'r de yw gatel y fannod (y) mas hefyd? (ee, mae'r wejen yn ty..)
Mae lot o ryw hen atgofion yn dod nol - ron i arfer gweud 'amcan' - 'sdim amcan da fi pryd colles i'r gair..(!)
Dishcwl i fi yw 'edrych' (hy, dishcwl ar raclen deledu) ac erfyn yw, wel, disgwyl... Ariod wedi meddwl amdano o'r blaen!
Dou broblem mowr da fi gyda 'ngwmrag:
1. Wy 'di arfer ar siarad 'da dysgwyr - sy'n safoni'ch iaith i chi! a
2, Fel arfer, wy'n sgwennu Cymraeg 'cywir' (hy safonol), er mod i'n ei darllen yn deidi!
Diolch am ddangos i fi beth sydd ar fin cael ei golli, os nag wy'n ofalus!




