
Artistiaid: The Foul Papers (Iwerddon) , Recordiau Safon Uchel (Cymru), Listen With Sarah (Lloegr), Mank (Cymru), Operator (Yr Alban), Orcop (Cymru), Pappy (Cymru), Recall (Cymru)
Ar gael i’w lawrlwytho am ddim o http://www.highqualityrecordings.co.uk/rere.htm
Yn cyflwyno 14 trac yn ailshapio elfennau o gampwaith gwerinol Alan Stivell o’r 1970au ‘Renaissance De La Harpe Celtique’
Roedd yr albym ‘Renaissance De La Harpe Celtique’ gan Alan Stivell, a rhyddhawyd yn 1971, yn gyfrifol am gynnydd aruthrol mewn diddordeb yn y delyn Geltaidd, offeryn a glywir yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru, Llydaw, Iwerddon, Yr Alban a diwyllianau eraill Celtaidd.
Mae rhai o’r artistiaid ar ‘Re-renaissance’ yn ffans mawr o’r albym gwreiddiol. Doedd artistiaid eraill erioed wedi clywed am yr albym nes iddynt dderbyn CDR trwy’r post un diwrnod. Y canlyniad yw pedwar trac ar ddeg annaearol a hardd sy’n ymestyn ac ailshapio elfennau o gampwaith Stivell.
Mae traciau o'r albym eisioes wedi cael eu chwarae ar y radio gan y ddau Huw ac Adam Walton - 'Re-Renaissance' oedd albym yr wythnos Huw Evans ar ei sioe XFM De Cymru yr wythnos diwetha'
Am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho: http://www.highqualityrecordings.co.uk/rere.htm
Mwynhewch!




