Tudalen 5 o 18

Postiwyd:
Llun Gor 18, 2005 12:02 pm
gan nicdafis
Madrwyddygryf a ddywedodd:Os tisio rili chwarae gwmpas gyda'i system yw gadael ei ebost mewn llyfrau gwesteion o gwmpas yr we, ac wedyn aros am yr holl spam bydd yn mynd i'w gyfeiriad.
Welith e mohono fe, mae hidlau sbam Gmail yn gadarn iawn (dw i'n cael rhyw 1000 o sbams bob dydd, a phrin iawn mae un yn cyrraedd y mewn flwch). Byddai wneud rhywbeth fel hyn jyst yn rhoi stori arall i'w flog: "Welsh Nats try to spam me into submission" - a byddai pwynt 'da fe, am unwaith.

Postiwyd:
Llun Gor 18, 2005 10:06 pm
gan Prysor
arddull Starling ydi hwn - arddull newyddiadurol tabloidaidd ar y sgwenu
mae'n anodd deud, ond mae mhres i arno
oes na jans o ffonio ffrind?

Postiwyd:
Maw Gor 19, 2005 10:15 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Felly pwy sy'n gyfrifol am
hwn? 'Anonymous' newydd bostio'r cyfeiriad ar fy mlog.

Postiwyd:
Maw Gor 19, 2005 12:21 pm
gan Aelod Llipa
Dwi wedi danfon ebost atynt tra roedd fy ngwaed yn berwi wrth ei ddarllen. Faint ohonoch sydd wedi derbyn ymateb gan y Co*t?
RHOWN DERFYN AR BRYDEINWYR ANWYBODUS :drwg:

Postiwyd:
Maw Gor 19, 2005 1:22 pm
gan nicdafis
Mae <a href="http://natwatchwatch.blogspot.com/">Natwatchwatch</a> yn syniad gwych, a llawer mwy effeithiol na hala ebost at y boi - sy'n jyst mynd i dy anwybyddu, neu bostio detholiad ohonyn nhw ar ei flog er mwyn "profi" rhyw bwynt am anoddefgarwch cenedlaetholwyr.

Postiwyd:
Maw Gor 19, 2005 1:39 pm
gan Prysor
Gwirioneddol ysbrydolgar!!! Da iawn iawn iawn pwy bynnag sydd wedi sefydlu NatwatchWatch. Syml, proffesiynol ac effeithiol. Gwych!

Postiwyd:
Mer Gor 20, 2005 3:35 pm
gan twmffat
Fi wedi anfon at Nominet a Tucows (รข gofrestrodd yr enw parth hyn) i weld os oes hawl cofrestru natwatch.co.uk dan gyfeiriad ffug. Gyda lwc neith e greu bach o hasl i'r y conts gwrth-Gymraeg sy'n gyfrifol am y wefan.

Postiwyd:
Mer Gor 20, 2005 3:42 pm
gan Ray Diota
Prysor a ddywedodd:Gwirioneddol ysbrydolgar!!! Da iawn iawn iawn pwy bynnag sydd wedi sefydlu NatwatchWatch. Syml, proffesiynol ac effeithiol. Gwych!
wel, cwl hed... 'mond un post ma nhw di neud, ife?

Postiwyd:
Mer Gor 20, 2005 3:46 pm
gan sanddef
Da iawn that man


Postiwyd:
Mer Gor 20, 2005 3:51 pm
gan Rhys
Dwi'n gweld bod o leiaf un e-bost lliwgar wedi cael ei gyhoeddi. Efallai gelli'r anfon darnhau bach mwy rhesymegol at NatWatch2 i'w postio ar ei f/blog ei hun yn y dyfodol.
