Aled Cottle a Nat Watch

Seiat preifat i'r Gweinyddwyr, sy'n rhan o'r grwp Llywio.

Cymedrolwyr: ceribethlem, Hedd Gwynfor, Cardi Bach, Barbarella, sian, Aran

Postiogan SbecsPeledrX » Maw Gor 26, 2005 5:42 pm

oni'n meddwl fod o'n aithaf clir mai
if you are a tout and would like to shit stir about the party or organisation you are a member of click here to contact us in confidence

oedd o'n ei olygu.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3055
Ymunwyd: Llun Ion 13, 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan nicdafis » Maw Gor 26, 2005 6:36 pm

Dych chi'n cofio yn yr edefyn arall, ar ôl i Mihangel bostio'r linc i'r <a href="http://order.internic.co.uk/index.php?funct=whois&domain=natwatch&tld=co.uk">Dudalen WhoIs</a> am Natwatch, ac esboniod dafydd:
Mae cyfeiriad y parth natwatch.co.uk yn un ffug - dyw CF1 1AA ddim yn bodoli, heblaw wedi'i gofrestru i'r Post Brenhinol a dwi ddim yn credu mai 'blwch post' yw hwn.

Mae rhoi manylion ffug ar gyfer parth .uk yn groes i reolau Nominet - dwi ddim yn beth yn union be fase Nominet yn wneud tase 'rhywun' yn tynnu eu sylw at hyn. Mae'n debyg fase nhw'n gwneud ymholiadau i gael cyfeiriad cywir (ond wedyn mae hi'n bosib i unigolyn guddio eu manylion).

Diddorol gweld mae "1, Park Street, Caerdydd" yw'r cyfeiriad - mae yna Park Street yng Nghaerdydd, sy'n rhedeg heibio swyddfeydd y Western Mail, falle fod perchennog y parth yn gyfarwydd a'r ardal?


Wel, mae'r cyfeiriad ffug wedi diflannu. Newidiwyd y manylion ar 21/07/05, jyst ar ôl i rywun gysylltu â Tucows.

Mae e'n darllen maes-e, gyfeillion. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7314
Ymunwyd: Sul Awst 18, 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan dafydd » Maw Gor 26, 2005 6:50 pm

nicdafis a ddywedodd:Wel, mae'r cyfeiriad ffug wedi diflannu. Newidiwyd y manylion ar 21/07/05, jyst ar ôl i rywun gysylltu â Tucows.

Ie, a wedi cuddio'r cyfeiriad. Mae hyn dal yn groes i reolau Nominet heblaw fod y person yn gallu profio mai ei enw cyfreithiol yw "Nat Watch".
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2126
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan 7ennyn » Maw Gor 26, 2005 6:53 pm

Roedd hi'n amlwg mai trap oedd y wefan yma. Yn anffodus mi lyncodd Aled Cottle yr abwyd, y bachyn, y lein a'r plwm. Biti na wnaeth o ddilyn yr edefyn am NatWatch yn seiat Materion Cymru - roedd amryw o'r cyfrannwyr yn rhybuddio yn erbyn ymateb (fedrai ddim dyfynnu - seiat wedi cau!).

Mae pwy bynnag sydd y tu ol i'r wefan yma yn glyfar tu hwnt ac ar ol darllen y DP bore 'ma mae'n amlwg i fi bod yna hac yn rwla wrthi'n llyfu'r mel oddi ar ei fysedd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 874
Ymunwyd: Gwe Gor 01, 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Dili Minllyn » Maw Gor 26, 2005 7:00 pm

neil wyn a ddywedodd:Mae'n dweud rhywbeth drist ofnadwy am y 'post' y tasen nhw yn rhoi y fath rwtsh ar y tudalen flaen, yn ystyried y straeon mae'r papurau go iawn yn cyfro ar hyn o bryd, ynte.


Dwedodd Gogleddwr wrthyf unwaith mai dau beth y gallwch eu credu yn y Daily Post: y dyddiad a'r pris.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1168
Ymunwyd: Llun Gor 11, 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Madrwyddygryf » Maw Gor 26, 2005 7:59 pm

Fel dwi di dweud o'r blaen mewn trafodaeth, mae Natwatch yn edrych fel mai gwaith y doctoriad troelli yn Millbank. Mae nhw'n gwneud yr un peth i ni yn Lib Dem Watch, mae'r cynllun y wefan yr un peth.

Agwedd ni yn Lib Dems hefo hyn yw peidio poeni amdano, biti bod rhai pennau poeth ddim yn meddwl yr un peth.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2242
Ymunwyd: Maw Hyd 22, 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Maw Gor 26, 2005 8:44 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Mae nhw'n gwneud yr un peth i ni yn Lib Dem Watch, mae'r cynllun y wefan yr un peth.


Mae awdur y ddau flog wedi bod 'away' yn ddiweddar... cyd-ddigwyddiad? :?

Improbable as it is, all other explanations are more improbable still!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6144
Ymunwyd: Maw Awst 12, 2003 8:01 pm

Postiogan dave drych » Maw Gor 26, 2005 10:01 pm

Dwedodd Gogleddwr wrthyf unwaith mai dau beth y gallwch eu credu yn y Daily Post: y dyddiad a'r pris.


Neu yr enw cyffredin a roddir: Tail y Post

Oes rywun o'r maes wedi sgwennu llythr i'r papur?
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad Ion 11, 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw Gor 26, 2005 10:46 pm

Delwedd

Ydy Aled yn aelod o'r Maes?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6105
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 12:51 pm
Lleoliad: Pontyberem

Postiogan SbecsPeledrX » Maw Gor 26, 2005 10:54 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ydy Aled yn aelod o'r Maes?


Ydi. Ond dwi'n meddwl byddai'n syniad da i beidio a twrio ymhellach Hedd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3055
Ymunwyd: Llun Ion 13, 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

NôlNesaf

Dychwelyd i Grwp Llywio - Gweinyddwyr

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai

cron