Llosgwch Eich Beiblau

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Llun 30 Meh 2003 7:50 pm

Ym mhroblam i ydi pan dwi'n trio ffendio'm lle yn y byd, di'n ymenydd i ddim yn agos yn wag!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Siani » Llun 30 Meh 2003 7:57 pm

Ydyn, Cymrocwl, maen nhw'n ddiddorol (y dadleuon hyn i gyd), ac rwy i wedi darllen a thrafod digon o athroniaeth yn fy amser i. Digon i wybod nad oes neb yn ennill mewn gem fel yr un hwn.

Rhyddid i chi i gyd fynd ymlaen a thrafod a siarad ymhell i'r nos.

Pob hwyl i chi, bobl ifainc - rwy i wedi mynd drwyddi a mas yr ochr arall!
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Cwlcymro » Llun 30 Meh 2003 7:59 pm

Fel ddudis i gynna, sam ennill yn infolfd. Sam un ona ni am am newid meddwl Rhys, a dio ddim am newid yn meddwl ni. Ond ma'n ffordd dda o ddysgu a parchu barn arall. Wbath ddylsa ni bobl ifanc drio'n gora i neud mwy ohona. Cytuno da?!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 30 Meh 2003 7:59 pm

1. Mi wnawn nhw gymeryd hoywon fel parau deu-ryw a caniatau gweithred hoyw o fewn priodas. Digon teg
2. Mi nawn nhw wrthod y ddeddf newydd fel ymagis llyodraeth i newid eu crefydd a dweud na cheif yr un par hoyw briodi dan do Duw.


Yn bersonol opsiwn 2 bydde fi'n fwy cyfforddus gyda oherwydd mae dyna gyfarwyddyd y Beibl. Serch hynny gan anwybyddu'r Beibl a dilyn rhyddfrydiaeth lwyr byddwn yn dewis opsiwn 1. Ond dwi 1af yn Gristion ac wedyn yn beth bynnag wleidyddol.

Os cafodd y byd ei greu mewn 7 diwrnod, be ddigwyddodd i oes y deinasor?


Clicia YMA
(dwi ddim yn llythrenol gyd fynd ar ddadl ond mae'n theori llawn cystal a esblygiad yn fy nhyb i)

Os boddodd Duw y byd sut wnaeth Indiaid America a'r ballu fyw?


Genai lyfyr yn esbonio Geneteg hyn. Dwi di methyg hi i ffrind ar hyn o bryd ond nai gal hi nol yn fuan a postio'r theori fynny.

Os oedd raid i Noah ddod a dau o BOB math o anifal sydd ar y ddaear heddiw (a mi fysa, gan nad yw'r Beibl yn coilio mewn evolution) be odd maint ei long o!


Clicia YMA

Os nath Duw foddi pawb nad oedd yn arch Noah, sut wnaeth anifeiliad sy'n arbennig i un gwlad (byffalos Americanaidd, neu otters) fyw?


tria hwn a hwn

Beth sy i ddweud na chafodd afael ar Buffalos i fynd mewn ir arch anyway!

Y broblem fwyaf sydd gan Cristnogaeth ar y funud ydy nad ydy'n gallu cael ei air drosodd i bobl newydd. Sori i ddweud ond dwi'n deall yn iawn pam.


Yn y wlad yma ella ond mae o ar dwf aruthrol mewn rhannau or byd.

Thing yw ti'n meddwl am bopeth o brysbectif y byd. NID YW DUW OR BYD YMA FE GREODD Y BYD nid oes modd i ni wybod popeth os byse Duw isho ni wbod popeth bydde fe wedi gadel i ni neud. Ma gyda ni ddigon o wybodaeth i gael achubiaeth a dyna sy'n bwysig ddiwedd y dydd.

gwir ydy na chawn ni byth ateb pendant i hyn.

ma'n lwybr perryg iawn.


Chdi sy ar lwybr perygl iawn. Gei di byth ateb pendant tan bo ti'n marw, nagi ti rioed di ystyried falle mae ti sy'n anghywir. O dy brosectif di sdim byd da fi golli ond ma lot da ti glli os mae fi sy'n iawn! Pam fod fy llwybr i yn beryg? does dim da fi golli!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4932
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Siani » Llun 30 Meh 2003 8:15 pm

O - cytuno'n llwyr, Cymrocwl! Mae rhaid i ni i gyd feddwl drwy'r holl bethau mawr hyn ein hunain, a dod at ein gwirionedd ni ein hunain. Er mod i ddim yn ifanc rhagor, rwy'n parchu hawl yr ifainc i drafod, ystyried, dadlau ... credu.

Ydw, rwy'n cytuno - mae'n ffol i feddwl yn nhermau "ennill". Nid gem i'w ennill mo hwn.

Trueni bod cymaint o bobl eraill yn anghytuno.

Mae ond yn "gem" pan yn ni'n ei throi hi'n gem.

Fy nadl i, ac fy unig ddadl i, yw y ddylai neb droi hyn yn gem. Mae'n rhy ddifrifol i hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 30 Meh 2003 8:31 pm

Dwi di cal yng nghodi yn y petha yma (fel y mwyafrif ohono chi siwr a fod) fellw dwi wastad wedi 'credu mewn duw' ond jyst ers 4/5 mlynedd dwi di wir sylweddoli realiti ffydd ai gymryd o o ddifri.

Mae gen i ffrind ddaeth yn Gristion llynedd (yn 19 mlwydd oed) yn wahanol i mi ddaeth o o nunlla fel petai allan o bethau'r byd (des i'n gristion cyn mod i'n ddigon hen i feddwi ayyb...) a cal troedigaeth llynedd.

Dwi di deud wrtha fo ddod i maes-e iddo fo roi presbectif gwahanol o blaid fy nadleuon i, h.y rhywyn oedd fel/ac yn defnyddio eich dadleuon chi yn fy erbyn tua 2 flynedd yn ol.

Mae o di addo ymuno'n fuan odd on brysur heddiw.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4932
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan ceribethlem » Llun 30 Meh 2003 8:34 pm

Os gai i fynd yn ol at fy ffydd i, sef gwyddoniaeth, am ychydig.
Un o'r pethau dwi am wneud yn y byd yma, fel gwyddonwr, yw darganfod yr ateb i'r cwestiwn "pam?"

Mae nifer o'r cwestiynau yn ymdrin a pham? wedi cael ei datrys eisoes:
Pam fod y lleuad yn teithio o gwmpas yr awyr?
Pam fod nerfau yn dargludo teimladau?
ac wrth gwrs miliynnau mwy hefyd.

Felly pan fyddaf yn ystyried y cwestiwn "pam?" mewn testun duwiol dwi'n methu a darganfod unrhyw ateb ond am y cop-out "Cos mae'n holl-alluog" neu "Cos mae plan gyda fe".
Dwi'n bersonol yn gweld yr ateb "Cos" yn ateb i rhoi i blentyn bach er mwyn stopio fe/hi rhag mynd ar eich nerfau.

1. Pam fyddai'r duw yma am wneud y bydysawd a'r byd?
Efallai ei fod yn bored, os felly pam nad yw'n trafod pethau gyda ni yn hytrach na gadael pethau mor enigmatig a'r beibl.

2. Pam, o feddwl fod y duw yma mor holl-alluog, y byddai'n creu rhywbeth (yn ol ei ddelw ei hun - os dwi'n cofio'r beibl yn iawn) sydd mor wallus ag yr ydym ni bobl?
byddwn i'n tybio y byddai bod sydd mor bwerus a'r duw yma yn gallu gwneud gwell job na phobl.
Wedi'r cyfan os yw'r duw yma eisiau heddwch (a dyna dwi'n deall o ddysgeidiaeth Iesu Grist - Car dy gymydog ayyb) pam y byddai'n creu pobl mor rhyfelgar a ni?

3. Fe wnaeth duw greu y ddaear a phopeth sy'n byw arni, felly pam ydyw'n gadael i ni ei ddinistrio?

Dwi wedi clywed un ateb i hwn eisoes, sef fod Duw wedi penderfynnu gadael i ni rheoli ein bywydau ein hunain.
Cop-out arall yn fy marn i.
Pe bai Duw yn bodoli yna mae hyn yn swnio braidd fel petai wedi penderfynnu cefnu arnom ni, oherwydd ein bod wedi ei siomi ac heb fyw lan i'w syniadau ef.


O ran hoywon yn pechu - bolycs.
Ydi hyn yn golygu fod pobl sydd a salwch meddwl hefyd yn pechu? Dwi bron yn siwr fod rhywbeth am hyn yn y beibl.


O ran diddordeb, pe na bawn i yn cymryd Iesu a Duw i mewn i'm bywyd, a fydd Duw yn maddau'r pechod yma, gan ei fod yn maddau pob pechadur?
Os felly pa bwrpas i ni ffwdannu am y peth, byddem ni'n cael ein iachau ar diwedd ein bywydau, gweld y goleuni, gweud "wps o'n i'n rong" a derbyn bywyd tragwyddol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4513
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cwlcymro » Llun 30 Meh 2003 8:38 pm

Ma blind faith yn lwybr perryg iawn gan ei fod yn cloi allan unrhyw ochr arall. Hyd yn oed os fysa chdi'n rhoi tystiolaeth bendant, amlwg i berson a blind faith mi fysa yn dy anwybyddu, sbia ar agwedd America at israel, ma nhw'n anwybyddu a ffendio ffyrdd gwirion rownd gweithredoedd y fyddin gan eu bod hefo blind faith yn yr Israeliaid.

Does gennai ddim mwy na thi i'w golli. Os ydwi'n gywir yna mi fyddai wedi llwyddo i fyw bywyd i'r llawn, heb boini am gosyn y byd nesa.
Os ti'n gywir yna gei di fywyd gwych yn y byd nesa.
Os da ni'n dau yn anghywir mi gawn ni'n dau ein cosbi yn y byd nesa, ond mi fydda i dal wedi gallu byw y bywyd yma i'r llawn.

Ond dwi 1af yn Gristion ac wedyn yn beth bynnag wleidyddol.

Rwan mi wti ar rew meddal. Ti wedi dweud dy hyn na'r weithred ydy'r broblem, fel gweithred cwpl hetro tu allan i briodas. Felly wrth ddewis 2 fel dewis Cristnogol mi wti'n cyfadda fod dy grefydd yn considrio gwrwgydion fel pobl israddol.
Ac yn ail dim gwleidyddol ydy hyn! Dim o gwbwl! Mater o foesoldeb, tegwch a hawliau dynol ydio.

Dwi'n falch iawn o glywed nad wti'n cytuno a'r disgrifiad deinasoriaid na 100%. Ma'r cwpwl o linellau yma yn destroyo unrhyw gredindod gyna fi yn yr erthygl.
there are no real mysteries at all, once you have key information that is not generally known and is withheld from the public
Conspiracy theory ddwl!
In fact, there is no proof whatsoever that the world and its fossil layers are millions of years old

Wrth gwrs bo na! Dio'n meddwl ma ges pur ydio!! Ma'n cal ei weithio allan o ymbylydredd y tir o(dwi rioed di sdydio'r peth felly fedrai'm rhoid manylion! Ond ma deud ma geswork pur ydio'n hollol anghywir)
, if the Bible is right (and it is!), dinosaurs must have lived within the past thousands of years.

Ma ni eto, yr holl ddadl yn based ar ffydd yn y Beibl, dim byd arall i'w gefnogi.
However, many fossil experts admit that not one unquestionable transitional form between any group of creatures and another has been found

Y geiria pwysig yn fana ydi 'many' (elli di deud hunna am unrhywun) ac 'unquestionable' (o'r ochr grefyddol ma POPETH yn questionable heblaw'r beibl, ddudis i'n gynt, ma pasio 95% yn agos i amhosib)

Ma na fwy ond ai'm yn bellach.

Beth sy i ddweud na chafodd afael ar Buffalos i fynd mewn ir arch anyway!

Y ffaith ma yn America mae nhw'n byw, nad oes unrhyw brawf, chwestiwn na suggestion bo nhw rioed di byw yn unlla arall. A'n sicr dosnam son yn y Beibl fod Noah wedi mynd i America i'w nol nhw nagoes!

NID YW DUW OR BYD YMA FE GREODD Y BYD nid oes modd i ni wybod popeth os byse Duw isho ni wbod popeth bydde fe wedi gadel i ni neud

Ti'm yn gweld ma hyn dwi'n trio ddangos i chdi? Yr un ddadl di hi eto! " Ma Duw yn well na ni, peidiwch a'i gwestiynnu' a 'ma'r Beibl yn dweud felly mae'n wir". Da ni nol i'r dechra, blind faith. Dwi'n coilio fy ngwyddoniaeth erbyn hyn achos dwi di cal addysg Grefyddol a gwyddonol a wedi penderfynnu rhoi fy nghred ar y theori sydd yn gwneud sens i mi a sydd hefo cefnogaeth resymegol iddo. Dwi hefyd yn teimlo'n llai offended gan wyddoniaeth na ydwi gan gristnogaeth.
Neith dadleuon blind faith byth ennill pobl drosodd, o leia dim yng ngwledydd devoleped y byd. Ella nad wti'n bersonnol yn poini am hynnu, pam ddylset ti, os wti'n hapus a dy gred pam ei fforsho ar bobl eraill? Dwi'n cytuno, dyna pam ma geni bob parch at gred unrhywun, dim ond bo gynna nhw ddadleuon cryf a rhesymol tu ol i'w cred. Ond dosna'm celu'r ffaith fod Cristnogaith fel crefydd yn desbryt i ddenu mwy at y gred, ddudis di dy hun fysai'n help gwneud addoli'n hwyl, dwi'n adio at hynnu mi fysai'n help os fysa Cristnogion yn defnyddio dadleuon heblaw "Ma'r beibl yn deud felly ma'n wir" ac "peidiwch a cwestiynnu Duw".

P.S. Ma'r wefan na'n deud fod 'dragons' yn air cynar am 'dinasour'. Heb offens ond bolwcs, draig di be sy ar yn maner i dim be sy yn Llyn Tegid!!! :winc:
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Llun 30 Meh 2003 8:47 pm

Ma Ceri yn codi pwynt da yn fana.

Os fyswn i'n marw a troi fynny wrth giatiau nefoedd a cal yng ngwynebu efo Duw be swni'n ddeud?

Ar ol stytro mewn angrhediniaeth am chydig swn i'n dod allan efo
'waw, felly mi WTI'N wir, nesdi ffwlio fi de, chwara teg, anghywir odd fy nghred'
a swn i'n golygu bob gair. Os di Duw mor faddeuol a da ni'n glwad byth a beunydd, pam fysa fo'n yn nhaflu i mewn i uffern?

Neu wedyn be os fysa Rhys yn cyrraedd yno reit tu ol i efengylwr cadarn sydd heb yfad, cael rhyw allan o briodas, rhegi, ffreuo etc etc trwy ei fywyd. Mi fysa hwnnw yn dadla fod Rhys wedi pechu gormod i fynd mewn i'r nefoedd, achos dyna yw ei gred o. Mi fysa Rhys yn dweud ei fod o wedi neud digon a fod Duw am faddau y gweddill iddo. Achos dyna ei gred o.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ramirez » Llun 30 Meh 2003 9:46 pm

A be os dwi'n troi fyny tu ol i Marilyn Manson, mewn t-shirt Iron Maiden - Number of the Beast?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai