Mae gen i f'enw ar y seiat hon fel cymedrolwr, felly er mod i wedi penderfynu peidio ag ymyrryd hyd yma, ga i ofyn i bobl ymateb yn gymedrol plis os am barhau hefo'r drafodaeth.
Os nei di fario fi am amddiffyn fy ffydd fyddain dipyn o ferthyr wedyn
Cymedrolwr: Llewelyn Richards
Mae gen i f'enw ar y seiat hon fel cymedrolwr, felly er mod i wedi penderfynu peidio ag ymyrryd hyd yma, ga i ofyn i bobl ymateb yn gymedrol plis os am barhau hefo'r drafodaeth.


pe na bawn i yn cymryd Iesu a Duw i mewn i'm bywyd, a fydd Duw yn maddau'r pechod yma, gan ei fod yn maddau pob pechadur?


Cardi Bach a ddywedodd:Petai rhywun yn byw mewn cymdeithas nad sydd wedi clywed am Grist ac yn arwain bywyd da - yn helpu eraill ac yn cyflawnni dyletswyddau at ddynoliaeth - alla i ddim credu y byddai Duw yn gwadu'r person yma yr hawl i Deyrnas Nefoedd.

Chwadan a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Petai rhywun yn byw mewn cymdeithas nad sydd wedi clywed am Grist ac yn arwain bywyd da - yn helpu eraill ac yn cyflawnni dyletswyddau at ddynoliaeth - alla i ddim credu y byddai Duw yn gwadu'r person yma yr hawl i Deyrnas Nefoedd.
Oce, be am y sefyllfa yma - ti'n byw bywyd da mewn cymdeithas lle mae pawb yn gwybod am Gristnogaeth. Ydi Duw yn mynd i dy feio am beidio cymeryd sylw ohono? Ydi Duw yn medru rhoi blaenoriaeth i rywun sydd wedi byw bywyd da mewn lle nad yw Cristnogaeth yn bod dros rywun sydd wedi byw bywyd yr un mor dda yn rhywle lle mae Cristnogaeth yn amlwg?

Mae'r cwestiwn o 'wyddoniaeth v. cristogaeth' yn un difyr iawn.
wy ddim yn gweld e fel'na o gwbwl yn bersonol. fi ddim ond yn gweld darganfyddiade gwyddoniaeth ond yn cryfahau fy ffydd.
pam gweld darganfyddiade gwyddonol fel prawf nad oes Duw yn hytrach na phrawf FOD yna Dduw?
Gan fy mod yn wyddonydd, dwi'n edrych am ffeithiau i gefnogi damcaniaethau. Hyd yma dwi heb weld digon o ffeithiau i gefnogi'r syniad am Dduw, ac felly nid ydwyf yn credu ynddo.


a cychwyn cwestiynnu'r gweinidog yn yr ysgol sul oedolion?


Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai