Ro'n i'n siarad efo Siani yn ystod y Steddfod, a meddyliwn ni beth am roi cynnig arall ar grwp trafod "llyfr y mis" (neu deufis neu beth bynnag mae pobl isio). Ella bydd hen lawiau'r Maes yn ei gofio, ond y pwynt oedd dewis llyfr i bawb ei ddarllen ac wedyn ei drafod (Y Pla wnaethon ni tro diwetha). Doedd dim llawer o ymateb bryd hynny, ond mae na lot mwy o bobl a phrysurdeb erbyn hyn, felly fasai na ddiddordeb? Baswn i'n cynnig ella llyfr y Fedal, Brwydr y Bradwr gan Cefin Roberts.
Faint ohonoch chi sydd ag awydd? (Sdim lot o bywnt os nad oes na lot o drafod!)




