Ailddechrau llyfr y mis?

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ailddechrau llyfr y mis?

Postiogan Alys » Sul 10 Awst 2003 4:48 pm

Ro'n i'n siarad efo Siani yn ystod y Steddfod, a meddyliwn ni beth am roi cynnig arall ar grwp trafod "llyfr y mis" (neu deufis neu beth bynnag mae pobl isio). Ella bydd hen lawiau'r Maes yn ei gofio, ond y pwynt oedd dewis llyfr i bawb ei ddarllen ac wedyn ei drafod (Y Pla wnaethon ni tro diwetha). Doedd dim llawer o ymateb bryd hynny, ond mae na lot mwy o bobl a phrysurdeb erbyn hyn, felly fasai na ddiddordeb? Baswn i'n cynnig ella llyfr y Fedal, Brwydr y Bradwr gan Cefin Roberts.
Faint ohonoch chi sydd ag awydd? (Sdim lot o bywnt os nad oes na lot o drafod!)
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan nicdafis » Sul 10 Awst 2003 4:55 pm

Dw i'n gêm. Wedi dechrau darllen hwnna ta beth, tra oedd fy nghariad yn mynnu darllen y cyfansoddiadau yn gyntaf.

Beth yw'r trefn, wythnos neu ddwy i'w ddarllen ac wedyn ei drafod?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7348
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Alys » Sul 10 Awst 2003 5:08 pm

Jyst trio darganfod faint o ymateb fydd yn gynta.
A bydd rhaid imi orffen Memory KJ Parker gyntaf (dydi'r ffaith mod i'n hanner ffordd trwy drydedd gyfrol trioleg gwych adeg y Steddfod ddim yn amseru da mi wn i) wedyn y cyfansoddiada, wedyn ... Dwedwn ni fis? Diwedd wsnos cynta o Fedi?
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 10 Awst 2003 7:32 pm

Gwon 'de. Ella mod i'n rhyw brysyr am y deufis nesaf. Ond y llyfr nesaf yn sicr ac os mae'n cymryd mis neu ddau i ti gael hwn i fynd nai ddarllen brwydr y bradwr hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan eusebio » Sul 10 Awst 2003 9:03 pm

Wel, dwi 'di prynnu Pan ddaw'r dydd ...?, mae'n rhaid mi gyfaddef doedd cyfrol Cefin Roberts ddim yn apelio o gwbwl.
:?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Gwen » Llun 11 Awst 2003 8:48 am

Dwi di darllen Brwydr y Bradwr, ond dwi'm yn siwr os bydda i'n cofio digon i drafod erbyn diwedd mis Medi. Dwi newydd ddechrau Pan Ddaw'r Dydd rwan.

Llyfr arall ddarllenais i yn y Steddfod oedd Gwenynen Bigog gan Meleri Wyn James. Mae o'n dda iawn - a dydach chi ddim yn gwybod pa mor dda tan y diwedd, wedyn rydach chi isio mynd nol a'i ddarllen o eto. Rhywun arall wedi'i ddarllen o?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Alys » Llun 11 Awst 2003 8:50 am

Diolch am yr argymelliad Gwen (fel tasa na ddim digon gen i'n barod i'w ddarllen!!). Dim ond cynnig oedd Brwydr y Bradwr, os bydd mwy o bobl isio dechrau hefo Pan Ddaw'r Dydd, wel digon teg mi awn ni efo hwnnw. Na i aros dipyn i weld a oes na farnau eraill...
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Gwen » Llun 11 Awst 2003 9:00 am

Mae Brwydr y Bradwr yn iawn gen i - mi gawn ni drafod y lleill yn ystod y misoedd llwm rhwng rwan a'r Dolig pan does na neb yn cyhoeddi nofelau Cymraeg.

Oes rhywun yn gwybod am ryw nofel Gymraeg arall sydd newydd ddwad allan ac yn werth ei darllen? Os oes, cofiwch ddeud.

On i'n sylwi bod Sioned wedi'i hailargraffu. Ddarllennais i hwn rai blynyddoedd yn ol a dwi'n meddwl y dylai pawb ei ddarllen o. O'r un cyfnod a nofelau Daniel Owen ond yn lot gwell (yn fy marn i). Ond ydi o'n apelio fwy at ferched ar y cyfan? Merched ydi pawb dwi'n nabod sydd wedi'i fwynhau o, ond mae'n debyg bod gan R. Williams Parry gopi hefo fo drwy gydol ei amser yn y rhyfel. Ddyliwn i ddechrau edefyn ar wahan i drafod y nofel yma tybed?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Siani » Gwe 22 Awst 2003 12:41 am

Mae'n flin 'da fi Alys - dw i ddim wedi bod ar y Maes ers y Steddfod. Ond byddwn i'n awyddus iawn i drafod unrhyw un o'r llyfrau sy wedi eu cynnig. Mae copi o "Brwydr y Bradwr" gyda fi, ac mae diddordeb gyda fi hefyd yng ngwaith Meleri Wyn James, a dw i heb ddarllen ei nofel diweddaraf eto. Beth am gael pol piniwn yn cynnwys y cynigion hyd yn hyn, ac wedyn penderfynu ar ddyddiad? - ond mae rhaid dewis rhywbeth sy'n ddigon hawdd ei gael.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Alys » Gwe 22 Awst 2003 8:43 am

Syniad da, Siani. Dwi ddim yn meddwl bod modd imi osod pôl piniwn yma, felly dwi'n mynd i'w wneud mewn edefyn arall a chloi'r edefyn hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai

cron