Y rhai 'llai feddwl amdanyn nhw wan ydi:
1) pan mae saeson yn deud "d'ya know worai mean?" ar ol popeth, neu "d'ya know what i'm saying?"-sy'n swnio fel "jianaaamsayin?" Dwi di sylwi mae pobl thic sy fel arfer yn deud hyn, i neud i be mae'n nhw'n ddeud swnio fel 'sna ryw ystyr dwys, cymhleth yn be mae nw di'i ddeud - ond does 'na ddim.
2) Peldroedwyr yn defnyddio'r geiriau 'lads' a 'gaffer' ac 'at the end of the day' mewn cyfweliade ar ol gem e.e. "well, you know, at the end of the day, you know, the lads went out there and gave it their best shot for the the gaffer.."
3) Un arall ydi pan mae pobl sy wedi dysgu Cymraeg - chware teg i'w calonne nhw, ddim bo fi'n trin aryn nhw o gwbl, ond mae nhw wastad fel se nw methu gollwng y term 'you know' ar ol gorffen brawddeg Gymraeg. Be sy'n bod ar 'ti'n gwbod'?????! (unrhyw un sy wedi dysgu Cymraeg, wel dyn chi, a daliwch ati!!!)




