Dwi ddim yn siwr am hyn. Iawn, ella byddai'n syniad cael edefyn newydd ar wahân i'r pol piniwn i drafod y ddewis lyfr - a dwi'n cydnabod mae dewis y Cyfansoddaiadau yn sefyllfa unigryw - ond oni fasa'n well cadw at 'weithiau'r Cyfansoddiadau' fel testun trafod? Ella bydd rhai pobl isio cyfeirio at nifer o'r weithiau gyda'i gilydd. Neu tynnu sylw at rywbeth heb haeddu edefyn cyfan? (Ta waeth, mae na edefyn yn bod yn barod am yr awdl ar ben ei hun

)
(Sori gyda llaw dwi ddim wedi darllen popeth eto, a heb amser ar hyn o bryd i drafod yn gall beth dwi wedi ei ddarllen - diwedd yr wythnos, diwedd yr wythnos)
(A phen-blwydd Maesellyd hapus imi hefyd heddiw

)