Idris a fi yn LOL ! !

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Beryl James » Mer 10 Medi 2003 11:10 am

Be ydi hyn?! Reit, mae'r hogan ysgol wirion 'ma sy'n galw'i hun yn Chwadan (trio bod yn ciwt :rolio: ) am i Lol fod yn gylchgrawn am Gymry Rhydychen. Dyna ddywedaist ti ia? A Tafod Bach am iddo fod am Gymry eangfrydig Rwsia...

Cylchgrawn i dynnu'r piss o Bantycelynwyr a wynebau adnabyddus Cymru yw Lol. Tynnu'r piss. Wynebau adnabyddus Cymru. Nid brolio. Nid wynebau adnabyddus Rhydychen na Rwsia. Os nad ydych chi'n hapus efo hiwmor Cymraeg, Cymreig, ac yn ei weld o'n clici - prynwch wbath arall. Dydan ni ddim yn debygol iawn o gael gwared ar Gymreigrwydd y cylchgrawn dychannol, sy' wedi ei sefydlu ei hun fel cyhoeddiad radical a gwleidyddol hefyd, er lles rhyw fyrjins bach sboti sy' ar eu ffordd i ddarllen rhyw lyfra mawr Saesneg a Lladin mewn cvolega dros y ffin. Mae'n bosib na fyddwch chi'n nabod y bobl fydd 'na son amdanyn nhw yn Lol, ond mae hynny'n dweud mwy amdanoch chi na ni mae arna'i ofn.

A dydi tafod bach yn dda i ddim i neb
Heb ei fai, heb ei eni
Rhithffurf defnyddiwr
Beryl James
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 3:39 pm
Lleoliad: Ym mhobman (efo help!)

Postiogan Chwadan » Mer 10 Medi 2003 4:50 pm

Rhydd i bawb ei farn ac ati ia? Ydw dwi'n Gymraes, ond mae gennai berffaith hawl i feddwl be bynnag dwisho o Lol, hyd yn oed os ydi rhai pobol (y ddynes sy'n ei neud o ac yn trio gwerthu cymaint o gopia â phosib er mwyn leinio ei phoced ei hun, yn rhyfedd ddigon) yn meddwl mai hwnnw ydi be-all ac end-all Cymru. Debyg fod rhaid fi dderbyn pob un norm "Cymreig" h.y. caru Lol a mynd i Bantycelyn os dwisho bod yn Gymraes. Asu, taswn i ddim yn Gymraes, sa'n ddigon i fy rhoi i off.

Swn i hefyd yn licio gwbod sut fod deud "dwi'm yn meddwl mai Lol ydi'r cyhoeddiad gora dan haul" yn medru arwain at:

Beryl James a ddywedodd:hogan ysgol wirion 'ma sy'n galw'i hun yn Chwadan (trio bod yn ciwt)...fyrjins bach sboti

Dwi'm yn meddwl mai fi di'r un sy'n ymddwyn fel hogan ysgol yma :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 10 Medi 2003 5:06 pm

Miaw! Stee-riiiike One!
[url=http://nwdls.net]Blog[/url]
[url=http://www.flickr.com/photos/nwdls]Fflicr[/url]
[url=http://www.rhegiadur.com]Rhegi[/url]
[url=http://www.hanesywegymraeg.com]Hanes y We Gymraeg[/url]
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3052
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint (un arall) » Mer 10 Medi 2003 10:47 pm

pwy ddudodd bo ni'n genedl o bobl sydd wrth ei bodd yn cael ffrae??
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint (un arall)
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 95
Ymunwyd: Mer 12 Chw 2003 8:42 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan tafod_bach » Iau 11 Medi 2003 9:06 am

ydi be-all ac end-all Cymru


nesh i ddarllen hwn fel "bell end cymru"
eeeeeeeniwe

sori bod rwsia wedi dod i mewn i'r ddadl o gwbwl, ceisio esbonio mod i'n teipio ar allweddell rwsiaidd a'i photensial i ffycio i fyny fy sillafu (does dim esgus am y gramadeg, sori). ym, ia, dwi ddim yn licio lot o lol, ond (RHYBUDD METAFFOR WAN) tydi ffanatig pysgota ddim yn mynd i hoffi pob erthygl ym mhob rhifyn o 'yr ysgaden fisol efo moc morgan'tydi?


rhys tria neud hi'n fwy amlwg pan ti'n cymryd y pis. on in offended am tua 4 munud, goddamia ti. a ma caergrawnt lot gwell na rhydychen so dde^r (ner ner ner-ner neeeer. etc etc)

twdlchwiban

s
x
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 11 Medi 2003 9:37 am

iawn a diolch am y swsus ar waelod dy negeseuon
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4932
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Drwyslwr » Iau 11 Medi 2003 10:15 am

Rhydd i bawb ei farn.
Rhithffurf defnyddiwr
Drwyslwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 23 Mai 2003 11:38 am

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai

cron