Cylchgrawn i dynnu'r piss o Bantycelynwyr a wynebau adnabyddus Cymru yw Lol. Tynnu'r piss. Wynebau adnabyddus Cymru. Nid brolio. Nid wynebau adnabyddus Rhydychen na Rwsia. Os nad ydych chi'n hapus efo hiwmor Cymraeg, Cymreig, ac yn ei weld o'n clici - prynwch wbath arall. Dydan ni ddim yn debygol iawn o gael gwared ar Gymreigrwydd y cylchgrawn dychannol, sy' wedi ei sefydlu ei hun fel cyhoeddiad radical a gwleidyddol hefyd, er lles rhyw fyrjins bach sboti sy' ar eu ffordd i ddarllen rhyw lyfra mawr Saesneg a Lladin mewn cvolega dros y ffin. Mae'n bosib na fyddwch chi'n nabod y bobl fydd 'na son amdanyn nhw yn Lol, ond mae hynny'n dweud mwy amdanoch chi na ni mae arna'i ofn.
A dydi tafod bach yn dda i ddim i neb





