Prin bod Cwpan y Byd wedi gorffen a mae'r tymor pel-droed 'domestic' yn ail ddechrau(Ai dyma y dechreuad cynarhaf eto? swn i yn taeru mai ar ol steddfod, adeg Miri Madog oedd o arfer bod

) Ah wel, dyma dwi rhagweld ar gyfer Y Bencampwriaeth, Lig 1 a Lig 2
Y Bencampwriaeth
Fel arfer dydi'r timau sydd yn mynd lawr methu ymdopi a bywyd nol yn y Bencampwriaeth ond eleni dwi yn ffafrio dyrchafiad syth i West Brom. Mae nhw wedi cadw cnewyllyn ei sgwad gan cynnwys Curtis Davies ar golwr Kuszcask a hefyd wedi adio John mawr ddrwg. Mae'r odds yn weddol isel oherwydd mae'r gwerth gorau i gael gyda John Hartson yn 22-1 gyda Bet Fred i fod yn brif scoriwr.
Lig 1
Cynghrair anodd iw rhagdybio fel llynedd, prisiau gwael ar y ceffylau blaen Forest a Bristol City. Abertawe yn 16-1 gyda rhai bwcis gwerth each way bach efallai, hefyd cadwch lygad allan am Huddersfield sydd wedi arwyddo Luke Beckett.
Lig 2
Mae Swindon yn sefyll allan yn glir o'r gweddill yn yr adran yma, dipyn o sioc eu bod wedi disgyn tymor diweddaf a gyda Wise a Poyet wedi cofrestru i chwarae dylai nhw sicrhau dyrchafiad. Shrewsbury yn edrych yn fet bach da am each way. Ynglyn a Wrecsam mae'r calon yn deud dylwn rhoi rhywbeth arnynt ond yr ymenydd yn anghytuno.
I gloi swn i ddeud mai bet Hartson ar 22-1 i fod yn brif scoriwr ydi'r cynnig fwyaf hael dwi di weld ers Tripple vodka yn 99c yn fy nyddiau coleg
