Hoff fath o gacen?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hoff gacen?

Cacen ffenest?
1
4%
Cacen Dundee/Madeira?
3
13%
Cacen afal?
6
25%
Cacen siocled ffydj?
8
33%
Banoffi?
6
25%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 24

Postiogan khmer hun » Maw 22 Awst 2006 3:34 pm

crème caramel. fel arall, flaming sambucca, espresso a smôc, a phigo ar bach o gaws glas cry' a grawnwin ar yr ochor.

hefyd, bara brith fy anti, pwdin reis cartre', neu grymbl riwbob o'r ardd. ond dy'n nhw dim yn gwerthu rheiny mewn lot o restaurants.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 22 Awst 2006 4:12 pm

Delwedd

Honey Buns!!!
[url=http://nwdls.net]Blog[/url]
[url=http://www.flickr.com/photos/nwdls]Fflicr[/url]
[url=http://www.rhegiadur.com]Rhegi[/url]
[url=http://www.hanesywegymraeg.com]Hanes y We Gymraeg[/url]
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3052
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Maw 22 Awst 2006 4:14 pm

Chelsea Buns o Evans Cafe, Y Drenewydd, y rhai gorau dwi erioed wedi gael.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 22 Awst 2006 4:27 pm

PwdinBlew a ddywedodd:Cacen Moron. Mae'r rhaid i'r eisin fod yn "butter-icing" blas oren. (Os dio'r eisin goc na sydd ar iced buns dwi'n corddi tu fewn :x)


Galwch fi'n od, ond mae'n llawer gwell 'da fi gacen foron heb unrhyw eisin o gwbl. Mae eisin yn sbwylo cacen dda.

Cacen lemon drizzle i fi, os gwelwch yn dda. Oes gan rywun rysáit?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 22 Awst 2006 4:31 pm

Geraint a ddywedodd:Chelsea Buns o Evans Cafe, Y Drenewydd, y rhai gorau dwi erioed wedi gael.

Hei, ma cacs mam dy wejen yn rhai da 'fyd! Watsha bechu hi!

Ffacinel dwisio bwyd rwan.

O ran cacan draddodiadol, dwi'n lecio cacan joclet sdici y nghariad. Rhyw rysait gan Nigella.
[url=http://nwdls.net]Blog[/url]
[url=http://www.flickr.com/photos/nwdls]Fflicr[/url]
[url=http://www.rhegiadur.com]Rhegi[/url]
[url=http://www.hanesywegymraeg.com]Hanes y We Gymraeg[/url]
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3052
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Chwadan » Maw 22 Awst 2006 6:41 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Honey Buns!!!

Oedd gennai deimlad sa ti'n deud hynna :D

Banoffi i fi. Dwi'm yn licio siocled dyddia 'ma am ryw reswm :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Ari Brenin Cymru » Mer 23 Awst 2006 10:54 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:A minnau'n iau oeddwn i'n hoffi cacennau (erbyn hyn rwy'n eu casau a chas perffaith) ond fe gofiaf mai fy hoff gacen ydoedd yr Angel Cake. Fedra i ddim dod o hyd i lun ohoni ond ydych chi'n cofio'r rhai sy'n binc, brown a melyn ac efo eisin rhwng pob haen? Rheiny a hoffais yn fawr.


Angel cake's yn fendigedig, ma Mr Kipling yn gwerthu rhai nawr.

Delwedd
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Llewelyn Richards » Mer 23 Awst 2006 11:01 am

Siomedig iawn am y diffyg pleidleisio am gacen Madeira - un o ffefryn efo haen o fenyn drosti.

Chwi heb ddim i'w wneud heno, wele:
http://www.bbc.co.uk/food/recipes/datab ... 3878.shtml
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Cacamwri » Iau 24 Awst 2006 3:22 pm

Cacan siocled wastad yn mynd lawr yn dda...er mae hon yn edrych braidd yn sicli tydi?!?

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Cacamwri » Iau 24 Awst 2006 3:26 pm

Waw, dychmygwch cael hon fel eich cacen briodas!

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai