Scymraeg (Cyfieithu doniol - gynt)

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Mer 27 Meh 2007 5:43 pm

Alun Abertawe a ddywedodd:Gan mai cyw iar a thwrci a geir yn Tesco, pam na ellir defnyddio 'Cyw iar a thwrci' - byddai'n fwy dealladwy i'r mwyafrif, mae'n siwr.


Fyse 'da fi ddim gwrthwynebiad i "Ffowls a thyrcwn" neu hyd yn oed "Ffowls a thwrcwns".
Ydi pobl Abertawe'n dweud "cyw iâr"? Chlywes i mohono fe tan o'n i yn fy arddegau. Mam a thad Dafydd Iwan yn cymryd rhan mewn Siôn a Siân yn Neuadd yr Eglwys, Pencader a'r holwr yn gofyn:
"Be chi'n lico i gino dy' Sul: Bîff, Lamb, neu Ffowlyn?"
A'r ddau ar wahân yn ateb "Cyw iâr". O'n i'n hollol conffiwsd! Meddwl am y ddau yn rhannu un cyw bach.

Alun Abertawe a ddywedodd:Yn ail, onid y cyfieithydd fyddai wedi cyfieithu 'sport' yn 'sparta' yn y lle cynta? Cyfieithu yw swydd cyfieithydd, nid cywiro gwallau twp. Sori, 'sgen i ddim amynedd!

Dyna o'n i'n dreio'i weud - does bosib y byddai'r un cyfieithydd wedi roi "Sparta" am "Sport" na "Melys" am "Savoury" - mae rhywun wedi camgopio wrth wneud yr arwyddion.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3408
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Gwe 29 Meh 2007 9:45 pm

Alun Abertawe a ddywedodd:Gan mai cyw iar a thwrci a geir yn Tesco, pam na ellir defnyddio 'Cyw iar a thwrci' - byddai'n fwy dealladwy i'r mwyafrif, mae'n siwr.


Simon nw'n gwyrthu 'wyed 'te?
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 29 Meh 2007 10:05 pm

Ydi pobl Abertawe'n dweud "cyw iâr"? Chlywes i mohono fe tan o'n i yn fy arddegau. Mam a thad Dafydd Iwan yn cymryd rhan mewn Siôn a Siân yn Neuadd yr Eglwys, Pencader a'r holwr yn gofyn:
"Be chi'n lico i gino dy' Sul: Bîff, Lamb, neu Ffowlyn?"


Ffowlyn neu Ffowls fi wastod yn dweud yn hytrach na cyw iâr. Sai'n dod o Abertawe yn gwmws, ond 'na fe. :winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Sad 30 Meh 2007 7:45 am

Ond petaech chi'n gweld arwydd mawr menw siop yn dweud 'Ffowls' fyddai pobl ddim yn disgwyl gweld rhai byw?
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan sian » Sad 30 Meh 2007 8:21 am

Horwth ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Ond petaech chi'n gweld arwydd mawr menw siop yn dweud 'Ffowls' fyddai pobl ddim yn disgwyl gweld rhai byw?


Itha posib, mas y bac yn Tesco Fforestfach ac ambell i fochyn a dou o'n swci fyd. A hen wraig mewn ffedog fras yn eu bwydo nhw.

Dyna pam y cynigies i "cig dofednod" amser maith yn ôl.
Ond mae'r un peth un wir am "poultry".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3408
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Sad 30 Meh 2007 8:56 am

:P Handi iawn, allwch chi ddim cael cig ffresiach na 'ny! Byddai 'da pluog' yn ddiamwys yn cyfeirio at y rhai byw ond byddai? Sai wedi gweld rhai gyda phlu yn oergelloedd Tesco hyd yma. Dw i'n cytuno gyda 'cig dofednod' - mae 'dofednod' yn ddigon eang i gynnwys adar eraill fel hwyaid a ffesantod etc, mae'r 'cig', fel yn 'cig oen' 'cig eidion' 'cig moch' yn ei gwneud yn glir mai cyfeirio at 'gig' ydyn ni, nid y creaduriaid byw. deos dim ots nad yw 'dofednod' yn air llafar yn unman. Pam bod rhaid i'r Gymraeg gerdded o gwmpas yn ei phants o hyd? Pam na chaiff wisgo lan ambell waith?

O.N. Pam ych chi'n siopa yn Tesco (neu yn Nhy Tesco) ta beth? Mae Tesco wedi gwahardd ei staff rhag siarad Cymraeg â'i gilydd. Boicotiwch y diawled!
Ydw i'n bovvered tho?
<a href="http://www.venganza.org"> <img></a>
Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan løvgreen » Llun 09 Gor 2007 3:56 pm

Rhys a ddywedodd:Bues drwy Bont y Pŵl heddiw

Un gair ydi Pontyp^wl (sori, methu gwneud to bach).
Nid "pont y p^wl" ydi'r tarddiad ond "Pont ap Hywel". 8)
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 862
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Postiogan Ray Diota » Llun 09 Gor 2007 4:29 pm

løvgreen a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:Bues drwy Bont y Pŵl heddiw

Un gair ydi Pontyp^wl (sori, methu gwneud to bach).
Nid "pont y p^wl" ydi'r tarddiad ond "Pont ap Hywel". 8)


gwd nolej lyfgrîn!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan huwwaters » Mer 25 Gor 2007 7:48 pm

Ryw gwirionyn unai o ganolfan hamdden Abergele neu cyngor sir Conwy wedi cyfieithu "circuit training" sef rhedeg o gwmpas, neu sit-ups, press-ups etc i "hyfforddiant cylched". :rolio:

Yn amlwg fod geiriadur wedi cael ei ddefnyddio yma.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Ioan_Gwil » Mer 25 Gor 2007 9:13 pm

huwwaters a ddywedodd:Ryw gwirionyn unai o ganolfan hamdden Abergele neu cyngor sir Conwy wedi cyfieithu "circuit training" sef rhedeg o gwmpas, neu sit-ups, press-ups etc i "hyfforddiant cylched". :rolio:

Yn amlwg fod geiriadur wedi cael ei ddefnyddio yma.


dyma oedd ar bapurau arholiad addysg gorfforol TGAU hefyd
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai