Geiryn, WordPress, Joomla a Moodle...

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Geiryn, WordPress, Joomla a Moodle...

Postiogan Rhoslyn Prys » Maw Gor 24, 2007 8:10 pm

Geiryn
Rhaglen Java ar gyfer ffôn symudol gan David Chan. Mae'r rhaglen yn darparu geiriadur deunaw mil o eiriau Mark Nodine Cymraeg> Saesneg. Felly os 'dach chi'n brin o eiriau ar y ffôn, dyma'r delfrydol... :lol:

WordPress
Cyfieithiad ar gyfer y fersiwn diweddaraf o WordPress. Mae WP yn cynnwys y gallu i greu tudalennau sefydlog yn ogystal â rhai symudol. Mae modd felly defnyddio WP i greu safle gwe gweddol syml.

Joomla

Codi ymwybyddiaeth am y cyfieithiad sydd ar gael ar gyfer y system rheoli cynnwys yma.

Moodle

Rhaglen rheoli cynnwys ar gyfer sefyllfaoedd addysgol a'r gallu i greu safleoedd gwe a chyrsiau addysgol ar y we. Mae'r cyfieithiad yn cael ei ddatblygu gan dîm mawr ond mae angen gweld cynnydd arno o ran ei gwblhau a diogelu safon y cyfieithiad.

Rhagor ar safle Meddal.com
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau Meh 26, 2003 11:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Geiryn, WordPress, Joomla a Moodle...

Postiogan Jac Glan-y-gors » Gwe Gor 27, 2007 11:37 am

Rhoslyn Prys a ddywedodd:
Joomla

Codi ymwybyddiaeth am y cyfieithiad sydd ar gael ar gyfer y system rheoli cynnwys yma.

Rhagor ar safle Meddal.com


Mae gen i rai modylau ar gyfer Joomla! ble rwy wedi cyfiethu'r ochr flaen fydd y defnyddiwr yn gweld, ond heb gael cyfle i gwblhau'r cyfieithiad a'u hanfon. Os oes rhywun eisiau'r ffeiliau iaith anfonwch neges bersonol.

Modylau yn cynnwys:
com_zoom - llyfr lluniau
com_jim - negeseuon (IM)
joomlaboard - fforwm
com_events a mod_events - calendr
com_letterman - modiwl cylchlythyru

Yn ogystal a ffeil iaith ddiwygiedig ar gyfer Joomla!

Enghraifft o rai o'r rhain ar waith:
http://www.yfc-ceredigion.org.uk/
http://theatrfelinfach.com
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Sul Gor 20, 2003 4:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe Gor 27, 2007 11:50 am

Gallai ddim cael Geiryn i lawrlwytho ar y ffon! Damio ma' fe'n swnio fel rhywbeth defnyddiol hefys!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 943
Ymunwyd: Mer Maw 03, 2004 12:28 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan f00 » Llun Gor 30, 2007 8:54 pm

amdani hefo moodle, mae angen binio blackboard. ella bo posib gorfodi colegau cymru i ddefnyddio system ddwyieithog (neu fwy) ...
f00
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 164
Ymunwyd: Sul Chw 01, 2004 8:16 pm

Postiogan gronw » Iau Awst 02, 2007 2:24 pm

ac eto...

Lansiad Fersiwn Gymraeg Blackboard a ddywedodd:Annwyl Gyfaill

Fe’ch gwahoddir yn gynnes iawn i lansiad fersiwn Gymraeg o’r meddalwedd Blackboard ar Stondin Prifysgol Cymru Bangor ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fflint ar y 9fed Awst 2007 am 2.30 o’r gloch.

Defnyddir Blackboard i gefnogi dysgu ac addysgu yn y dosbarth ac mewn cyrsiau o bell. Gellir ei ddefnyddio i osod pob math o ddogfennau, i asesu gwaith myfyrwyr ac i gynnal trafodaethau, ymhlith nifer o nodweddion eraill.

Yn ystod y lansiad bydd cyfle i gael golwg ar y fersiwn Gymraeg a chyfle i weld enghreifftiau o sut y defnyddir Blackboard i gyflwyno modiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg.

Bydd y fersiwn Gymraeg ar gael i holl sefydliadau Addysg Uwch Cymru ac yn fodd o gynyddu’r posibiliadau cyd-weithio ar draws y sector.

Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn a fuasech cystal ag e-bostio techd[malwen]bangor.ac.uk neu ffonio 01248 38(3949) erbyn 3 Awst 2007 os gwelwch yn dda.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer Rhag 03, 2003 8:12 pm

Postiogan Rhoslyn Prys » Sad Awst 04, 2007 7:44 am

Mae'n dda gweld meddalwedd o bob math ar gael yn Gymraeg - siawns i griw Mwdl ymateb, 'te.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau Meh 26, 2003 11:09 pm
Lleoliad: Bangor


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai