SPOTIFY MEWN BBCODEDwi newydd wedi cael spotify i weithio fel eitem bbcode. Gallwch nawr rhannu eich hoff ganeuon gyda defnyddwyr eraill ar maes-e.

- spotify.png (73.16 KiB) Dangoswyd 165437 o weithiau
1) Dewiswch eich hoff gân o spotify (ymaelodwch a lawrlwythwch y cleient, os nac ydych wedi'i wneud eisoes o
https://www.spotify.com/en/download/windows/) a gwneud clic-dde arno a dewis
Copy HTTP Link i roi'r URL i'ch clipfwrdd.
2) Pwyso botwm spotify uwchben y blwch ysgrifennu mewn maes-e. Gwelwch par o dagiau (
[spotify ][/spotify ]). Gludwch cynnwys y clipfwrdd i ganol y rhain, (e.e. [spotify ]http://open.spotify.com/track/5CYVudnz9adXy4VgdTvFbI[/spotify ]).
3) Bydd eicon yna'n ymddangos yn eich post gyda chysylltiad i'r gân, e.e.
(Hoffi Blackfoot? wel dyma "Highway Song" o 1979)Ger llaw, os ydych yn pwyso'r ddolen uchod, cewch 'popup' yn gofyn os ydych am lansio'r pecyn. Dim ond ffordd o'ch diogelu yw hwn. Pwyswch y botwm i lansio a bydd y gân yn dechrau chwarae ymhen eiliad neu ddwy.