Ray Diota a ddywedodd:
jiw jiw, sian... gobitho bod min ar y gyllell ti'n defnyddio i hollti'r blewyn 'ma...
dwi'n siwr bo ti'n iawn ond fydden i'n meddwl bo rhan fwya o bobol yn fodlon derbyn bod â/gyda yn gyfystyr bellach??
Dw i a Peter Wynn Thomas ddim.
O'n i'n teimlo braidd yn gas am hynna
Dw i ddim yn lico pan fydd pobol yn pigo ar iaith rhywun ond dw i'n meddwl ein bod ni'n haeddu iaith gywir gan wasanaeth newyddion cenedlaethol.
Roedd Dei Tomos ar y radio bore 'ma yn sôn am gael ei anrhydeddu gan yr Orsedd - yn dweud ei bod hi'n ddyletswydd ar ddarlledwyr i siarad iaith raenus.




