gan Rhys Llwyd » Sad 27 Meh 2009 10:23 pm
Mae'r Cyngor Llyfrau yn datgelu'n flynyddol faint o ddarllenwyr (neu o leiaf gylchrediad) sydd gan yr holl gyhoeddiadau eraill maen nhw'n noddi megis Barn, Taliesyn, Cristion etc... felly maen naturiol y cawn ni wybod maes o law beth fydd ystadegau Golwg360.
Mi fydd, mi dybiaf yn dra uchel i gymharu a gwefannau eraill Cymraeg maen rhaid, ond faint uwch na'r blogiau Cymraeg mwyaf blaenllaw ag ystyried fod y blogiau hynny yn cael dim nawdd gyhoeddus? Bydd yn ddiddorol hefyd cymharu unique hits wythnosol Golwg360 gyda chylchrediad y cylchgrawn wythnosol. Dwi'n meddwl fod cylchrediad Golwg tua 4,000 (cywirwch fi plis) ac felly i gystadlu a hynny byddai angen i'r wefan gael dros 550 o unique hits 7 diwrnod yr wythnos (tua pum gwaith maint unique hits cyfartalog fy mlog i). Mae cael mwy i ddarllen y wefan nag sydd yn darllen y cylchgrawn yn darged weddol hawdd rwy'n cymryd.
Bydd yn ddiddorol gweld yr ystadegau ar ol 6 mis.