Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol.Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
Ymddiheuriadau am y trafferth, ond rydan ni wedi gorfod newid dyddiad a lleoliad gig Y Niwl a Trwbador. Fydd o nawr ar nos Iau Mai 12fed yn Y Dolydd/Meadowsweet yn Llanrwst.
Hwn fydd gig ola Y Niwl cyn iddyn nhw fynd ar daith gyda Gruff Rhys i 'Merica am wythnosa! Fydda nhw ddim y...n chwarae eto yng Nghymru tan mis Gorffennaf.