Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Llyfwr Pwdin Blew a ddywedodd: Mae gennym ddulliau llai creulon o ladd anifeiliaid erbyn heddiw.

Chris Castle a ddywedodd:...dyw'r dull creulon o drin anifeiliaid fel soniwyd amdani yn y doleni uchod ddim yn Halal o gwbl. Yn erbyn cyfraith fwslemaid yw'r fath creulondeb a diystyrwch i'r anifeiliaid. Petai pobl yn anwybyddu eu crefydd dylen ni ddim beirniadu'r crefydd. Ydy lladd pobl yn rhan Christnogaeth er enghraifft?



Llyfwr Pwdin Blew a ddywedodd:Mae pobl Mwslemaidd yn gwrthod bwyta cig moch, dwi yn gwrthod prynnu cig Halal.
Dwi ddim yn licio'r ffaith bod nifer o siopau Kebab yng Nhogledd Cymru ddim yn hysbysebu'r gair Halal ar flaen eu siopau.

Caniateir yw ystyr Halal - "Cewch chi bwyta hon"
Efallai wir mai dyma yw ystyr y term Halal, ond peidiwch a dweud wrthai bod dim gwahaniaeth yn y dull o ladd.
Dwi hefyd yn derbyn bod digonedd o engreifftiau o gwmpas bod lladd-dai sydd yn defnyddio'r "stun gun" cyn gwaedu'r anifail ddim wastad yn hollol ddi-niwed chwaith.
Ond, pam bod y prif archfarchnadoedd yn gwrthod gwerthu cig Halal?
Fel cyn gigydd i archfarchnad, rwyf yn gwybod hyn.


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai