Dathlu diwrnod st padrig

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Dathlu diwrnod st padrig

Postiogan RET79 » Sad 13 Maw 2004 9:00 pm

Gofynodd fy ffrind Spaeneg i fi wythnos diwethaf beth oeddwn i'n ei wneud ar gyfer dydd St Padrig. I ddweud y gwir roeddwn wedi synnu hefo'r cwestiwn yma, ond fe wnes adael iddo ddal i siarad. Dwedodd o fod o ffansi yfed guiness mewn tafarn wyddelig, prynu crys rygbi Iwerddon, gwrando ar gerddoriaeth wyddelig etc.

Mae'n ymddangos fod y gwyddelod wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt ar farchnata eu diwylliant i'r byd.

Er mae'n siwr y gwnaf ymuno a fo am beint neu ddau o guiness, fedra i ddim help meddwl gyn lleied o ddathlu wnes i am ddydd Gwyl Dewi (dim) ar yr un pryd, (er ges i gynnig mynd i Lundain am sesh hefo ex-pats eraill).

Tybed faint o'r maeswyr fydd yn dathlu dydd St Padrig?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Owain » Llun 15 Maw 2004 10:40 am

Ydw i'n iawn i ddweud mai Cymru oedd St Patrig?

Ddim yn bwriadu dathlu ond dwi wedi pendefyny ym mod i am ddathlu mwy ar ddydd Gwyl Ddewi yn y dyfodol!
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan Wilfred » Llun 15 Maw 2004 10:52 am

Owain a ddywedodd:
Ddim yn bwriadu dathlu ond dwi wedi pendefyny ym mod i am ddathlu mwy ar ddydd Gwyl Ddewi yn y dyfodol!


Dwi'm yn mynd i ddathlu chwaith ond dwi am neud mwy o Gwyl Ddewi flwyddyn nesaf. Nes i ddim byd flwyddyn yma a dwi'n dechra teimlo'n reit ddrwg am y peth. :(
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Owain » Llun 15 Maw 2004 10:56 am

Wilfred a ddywedodd:Dwi'm yn mynd i ddathlu chwaith ond dwi am neud mwy o Gwyl Ddewi flwyddyn nesaf. Nes i ddim byd flwyddyn yma a dwi'n dechra teimlo'n reit ddrwg am y peth. :(


Di gwisgo Cenin Pedr trwy'r dydd ddim digon da. Drefnwn ni sesh Wilfred, gawn ni gawl cenin i ginio a mynd allan i yfad Welsh Bitter, Brains SA a'r Chwisgi Cymraeg na trwy'r dydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan Wilfred » Llun 15 Maw 2004 11:15 am

Ac ar ol yfed trwy'r dydd na ni ganu Fflat Huw Puw a Dwylo dros y mor (gan ma dyna'r unig ganneuon ti'n wbod Owain) nes ma'r haul yn codi.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Owain » Llun 15 Maw 2004 11:26 am

Ma rheina'n glasuron Wilfred! Dwi'n gwbod hen wlad fy nhadau hefyd :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan bartiddu » Llun 15 Maw 2004 12:48 pm

Bachan o Cumbria forna oedd Padrig, a gafodd eu heriwgipio gan morladron gwyddelig ( Scotti) ai ddal fel caethwas, cyn iddo ddianc a ddod yn foi crefyddol. Aeth nol wedyn i ddysgi'r werin Gwyddelig am dduw! Tybed a fydde'r dyn duwiol yma yn fodlon gweld pobol yn dathlu eu fywyd drwy yfed a meddwi a creu stwr? :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan CORRACH » Iau 18 Maw 2004 10:46 am

Dwi di hen flino ar y Cymry yn dathlu St Padrig fel petai'd sant i ni, yn defnyddio rhyw ffalsrwydd 'Celtaidd' i'w esgusodi fo'n iawn. Ges i'r un cwestiwn os oeddwn i am fynd allan, ac roedd y person oedd yn gofyn yn ymddwyd fel petai'n ddyletswydd. Darllenwch Simon Brooks - "fraud deallusol yw celtigrwydd". ei boint o ydi bod y Cymry yn cuddio y tu ol i Geltigrwydd, ac i mi yn enwedig Iwerddon, i guddio'r ffaith nad ydi Cymru yr un mor llewyrchus wrth farchnata ei hun dramor fel gwlad. Yn yr un modd, mae Cymry yn obsesd llwyr efo hanes Iwerddon heb wybod dim am hanes eu gwlad eu hunain, dim ond am ei fod o'n "fwy arwrol" a gwrth-seisnig, a'n bod ninna rhywsut yn gallu brolio hynny, am fod y Gwyddelod yn "gefbndryd" i ni. [Bai ddy we, mi es i allan, a dwi di cael sawl babi Guinness bopa ma, dim ond mynd i gael het stiwpid Guinness nes i!!!]
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Postiogan Wilfred » Iau 18 Maw 2004 10:57 am

Nes i ddim mynd i ddathlu neithiwr am un rheswm yn unig. Dwi ddim yn Wyddel.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan DAN JERUS » Iau 18 Maw 2004 11:31 am

Corrach
Dwi di hen flino ar y Cymry yn dathlu St Padrig fel petai'd sant i ni, yn defnyddio rhyw ffalsrwydd 'Celtaidd' i'w esgusodi fo'n iawn. Ges i'r un cwestiwn os oeddwn i am fynd allan, ac roedd y person oedd yn gofyn yn ymddwyd fel petai'n ddyletswydd. Darllenwch Simon Brooks - "fraud deallusol yw celtigrwydd". ei boint o ydi bod y Cymry yn cuddio y tu ol i Geltigrwydd, ac i mi yn enwedig Iwerddon, i guddio'r ffaith nad ydi Cymru yr un mor llewyrchus wrth farchnata ei hun dramor fel gwlad. Yn yr un modd, mae Cymry yn obsesd llwyr efo hanes Iwerddon heb wybod dim am hanes eu gwlad eu hunain, dim ond am ei fod o'n "fwy arwrol" a gwrth-seisnig, a'n bod ninna rhywsut yn gallu brolio hynny, am fod y Gwyddelod yn "gefbndryd" i ni. [Bai ddy we, mi es i allan, a dwi di cael sawl babi Guinness bopa ma, dim ond mynd i gael het stiwpid Guinness nes i!!!]


cytuno ar uchod 8)
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai

cron