Gofynodd fy ffrind Spaeneg i fi wythnos diwethaf beth oeddwn i'n ei wneud ar gyfer dydd St Padrig. I ddweud y gwir roeddwn wedi synnu hefo'r cwestiwn yma, ond fe wnes adael iddo ddal i siarad. Dwedodd o fod o ffansi yfed guiness mewn tafarn wyddelig, prynu crys rygbi Iwerddon, gwrando ar gerddoriaeth wyddelig etc.
Mae'n ymddangos fod y gwyddelod wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt ar farchnata eu diwylliant i'r byd.
Er mae'n siwr y gwnaf ymuno a fo am beint neu ddau o guiness, fedra i ddim help meddwl gyn lleied o ddathlu wnes i am ddydd Gwyl Dewi (dim) ar yr un pryd, (er ges i gynnig mynd i Lundain am sesh hefo ex-pats eraill).
Tybed faint o'r maeswyr fydd yn dathlu dydd St Padrig?


