Bws Caerdydd

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bws Caerdydd

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw Maw 15, 2005 6:26 pm

Mae Bws Caerdydd yn wasanaeth gan Gyngor Caerdydd. Mae felly yn dilyn fod Bws Caerdydd yn cael ei ariani gan y Cyngor ac yn dod o dan gynllun iaith y Cyngor.

Ar y llaw arall, mae'r amserlenni yn yr arosfannau, enwa'r arosfannau, amserlenni papur, tocynnau a gwefan Bws Caerdydd yn Saesneg yn unig.

Mae nhw felly yn torri'r gyfraith drwy beidio a dilyn polisi iaith Cyngor Sir Caerdydd.

Dwi newydd postio neges iddyn nhw yn gofyn beth yn union ydi ei polisi iath nhw, gan dynnu sylw at y diffygion hyn. Y mwya'n gyd o bobl sy'n gwneud hyn y gore.

Ewch fan hyn i rhoi adborth iddyn nhw:

http://www.cardiffbus.com/company/feedback_other.htm
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Fatbob » Maw Maw 15, 2005 6:55 pm

Oddi ar wefan Cardiff Bus(dyfyniad isod), dwi'm yn cytuno da'r ffaith fod popeth yn uniaith Saesneg ond ma'n siwr ma'r ymateb gei di(os gei di un o gwbl) yw fod Cardiff Bus yn gwmni preifat/annibynnol o'r Cyngor(wel, sort of). Ma'n rhaid i fi ddweud dwi'm yn defnyddio'r bws lleol yn aml felly gallai'm dweud os oes na ddarpariaeth Gymraeg gan fysie Sir Gar, sut ma cwmnie bysie eraill Cymru o ran darpariaeth Gymraeg?

http://www.cardiffbus.com/company/history/history.htm

The 1985 Transport Act deregulated all bus services, except those in London, and obliged Local Authorities to establish private "arm's length" bus companies. Accordingly in October 1986 Cardiff County Council established its own company - Cardiff City Transport Services Limited (trading as Cardiff Bus).

Links with the County Council remain strong. The Council owns all the shares in Cardiff Bus and is represented on the board of directors. As a private company however Cardiff Bus is not permitted to receive subsidies and is expected to make a contribution to its shareholder (the County Council) to recognise the Council's investment in the Company. In order to do this and to compete with other providers of transport, Cardiff Bus has to be run along commercial lines and to be successful. The Transport Act has produced mixed results throughout the country and many long established bus operators have either disappeared or been taken over. At Cardiff Bus a key objective has been to offer stable bus services to the benefit of its passengers, shareholder and employees alike.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw Hyd 21, 2003 2:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw Maw 15, 2005 8:52 pm

Mae'r amserlenni, Gorsafoedd bysus ayb yn hollol ddwyieithog yma yn Sir Gâr!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6010
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 1:51 pm
Lleoliad: Pontyberem
Saith Cant Wyth Deg Naw: 789

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer Maw 16, 2005 11:30 am

The 1985 Transport Act deregulated all bus services, except those in London, and obliged Local Authorities to establish private "arm's length" bus companies. Accordingly in October 1986 Cardiff County Council established its own company - Cardiff City Transport Services Limited (trading as Cardiff Bus).

Links with the County Council remain strong. The Council owns all the shares in Cardiff Bus and is represented on the board of directors. As a private company however Cardiff Bus is not permitted to receive subsidies and is expected to make a contribution to its shareholder (the County Council) to recognise the Council's investment in the Company. In order to do this and to compete with other providers of transport, Cardiff Bus has to be run along commercial lines and to be successful. The Transport Act has produced mixed results throughout the country and many long established bus operators have either disappeared or been taken over. At Cardiff Bus a key objective has been to offer stable bus services to the benefit of its passengers, shareholder and employees alike.


Ma Bws Caerdydd wedi bod yn defnyddio'r rheswm "hyd braich" ma dros y blynyddoedd fel rheswm i beidio a cael polisi Cymraeg.

O dan y ddeddf rhyddid Gwybodaith newydd, mae ymgyrchwyr iaith wedi darganfod nad ydi Bws Caerdydd yn dod "hyd lled braich" o'r Cyngor, a'i bod nhw mewn gwirionedd yn dod o dan y Cyngor!

Felly, mae ei polisi iaith nhw yn anghyfreithlon!

Yn y cyfamser mae angen pwyso ar Fws Caerdydd drwy sawl modd -

a) Drwy anfon e-bost / llythyr

b) Drwy ofyn am amserlenni Cymraeg o'r Brif Swyddfa

c) Drwy rhoi glydion 'Ble Mae'r Gymraeg' a phaentio slogannau ar gymaint o arosfannau a phosib.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer Maw 16, 2005 11:35 am

Fel cwsmer dyddiol ar wasanaethau Bws Caerdydd, rhaid dweud 'mod i wedi cael digon ar eu hunieithrwydd Saesneg. Mae 'na ambell i sticer dwyieithog ar y bysys, fel 'Seddi blaenoriaeth', 'Clowch yr olwynion ar y pram pan fydd y bws yn symud', ond o edrych ar yr amserlen heddi' wrth yr arhosfan fws, yr unig Gymraeg oedd ar yr arwydd Traveline Cymru.

Fe anfona' i e-bost o gwyn atyn nhw cgâph.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8090
Ymunwyd: Maw Mai 06, 2003 4:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mihangel Macintosh » Sad Maw 19, 2005 1:40 pm

Delwedd

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Corpsyn » Sul Maw 20, 2005 1:09 am

newydd yrru neges yn cwyno am yr uniaith.
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw Ebr 29, 2003 10:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw Maw 22, 2005 2:52 am

Diolch Gwahanglwyf a Corpsyn - cofiwch bostio ei hymateb fan hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw Maw 22, 2005 2:58 am

Sdori ar wefan Cymdeithas yr Iaith

Cafodd y neges ei glyrio heddi, ond fe fydd aelodau o'r gymdeithas yn targedu arosfannau yng ngwahanol ardaloedd o'r Brifddinas yn wythnosol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau Maw 24, 2005 11:06 am

Delwedd

Delwedd

Gosodwyd sticeri ar dros 25 o arhosfannau yn Nreganna a Y Rhath neithiwr gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith.

Mwy o lluniau i ddilyn...
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau Maw 24, 2005 12:03 pm

DelweddDelwedd

DelweddDelwedd

DelweddDelwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Cynan Bwyd » Iau Maw 24, 2005 2:16 pm

wehey! mar bus stop ar y top right bwys ty cefndrid fi! sori
Rhithffurf defnyddiwr
Cynan Bwyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1936
Ymunwyd: Iau Ion 15, 2004 6:29 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun Maw 28, 2005 5:41 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer Maw 30, 2005 12:40 am

llongyfarchiadau ar yr ymgyrchu ag ati, ond gai fod mor hy a gofyn oes pwrpas i luniau megis yr un canol ar y dde o'r grwp o chwech?

a ma llawer or lleill yn eitha tebyg i'w gilydd......

cysylltiad gwe "cyffredin" sydd gen i; tydi'r "band-llydan" heb gyrraedd eto ac mi gymrodd y dudalen a'r lluniau OES i'w llwytho. :?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3448
Ymunwyd: Maw Chw 22, 2005 6:26 pm
Lleoliad: Caergrawnt

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau Maw 31, 2005 4:25 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:llongyfarchiadau ar yr ymgyrchu ag ati, ond gai fod mor hy a gofyn oes pwrpas i luniau megis yr un canol ar y dde o'r grwp o chwech?


Eh? Sai'n deall beth ti'n ei olygu? Fi'n credu mae ochr fewn un o'r arosfannau sydd yn y llun 'na, panel ar bwys lle mae'r wybodaeth yn cael ei dangos yn Saesneg.

Ta beth, dyma'r ymateb fi newydd ei gael:

Dear Mr Wonderful

Thank you very much for your e-mail in which you raise the use of the Welsh Language by Cardiff Bus - Bws Caerdydd.

As a company which has its roots firmly in Wales, we endeavour, where practicable, to use both Welsh and English. As a result of the partnership we have with the Welsh Language Board we have undertaken many initiatives to enhance the use of the Welsh Language within our company. This includes bilingual stationery, bilingual signage on the buses, a commitment to respond where appropriate in writing in Welsh, to carry out a survey of Welsh speakers within the company and encourage the use of "happy to speak Welsh" badges and recently the introduction of Welsh courses for staff who have expressed an interest in learning the language.

This list is by no means exhaustive and reflects our commitment to maximise the use of Welsh Language wherever it is practical and within the commercial restrictions under which we operate.

With reference to your question regarding Cardiff Council - although we are owned by the Council, for the purposes of the Welsh Language Act we are not classified as a Public Authority under the Terms of the Act and as such our obligations are the same as for any other private sector company operating in Wales.

Moving forward, we are committed to formalising our Welsh Language Policy in consultation with the Welsh Language Board who are, of course, the official organisation responsible for these matters.

However, we note your comments and will bear these in mind in the course of our discussions with the Welsh Language Board.

Yours sincerely

Karen J Stafford-Smith
Marketing & Communications Manager
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8090
Ymunwyd: Maw Mai 06, 2003 4:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau Maw 31, 2005 4:42 pm

Gwahanglwyf - Nes di e-bostio nhw'n Gymraeg neu'n Saesneg? Dwi dal heb gael ymateb...
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau Maw 31, 2005 4:47 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Gwahanglwyf - Nes di e-bostio nhw'n Gymraeg neu'n Saesneg? Dwi dal heb gael ymateb...


Cymraeg os fi'n cofio'n iawn. Ond falle Saesneg. Methu cofio. :?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8090
Ymunwyd: Maw Mai 06, 2003 4:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan y mab afradlon » Iau Maw 31, 2005 7:24 pm

Dear Mr Wonderful

...

This list is by no means exhaustive and reflects our commitment to maximise the use of Welsh Language wherever it is practical and within the commercial restrictions under which we operate.

...


Tybed a fysai'u 'commercial restrictions' yn newid pe bai sticeri'r gymdeithas yn gorchuddio'r hysbysebion yn yr arosfannau, a lluniau o'r difrod yn cael eu hala at yr hysbysebwyr?
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 225
Ymunwyd: Gwe Chw 25, 2005 3:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan khmer hun » Gwe Ebr 01, 2005 11:04 am

Oni ddylai Bws Caerdydd fod yn rhoi ieithoedd Pwnjabi, Urdu, a ieithoedd eraill sy' wedi bod yn cael eu siarad ers dechrau twf y dociau hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw Chw 01, 2005 9:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Fatbob » Gwe Ebr 01, 2005 11:31 am

As a result of the partnership we have with the Welsh Language Board we have undertaken many initiatives to enhance the use of the Welsh Language within our company. This includes bilingual stationery, bilingual signage on the buses, a commitment to respond where appropriate in writing in Welsh, to carry out a survey of Welsh speakers within the company and encourage the use of "happy to speak Welsh" badges and recently the introduction of Welsh courses for staff who have expressed an interest in learning the language.


Co'n hoff frawddeg i - llythyr ynglyn â diffyg darpariaeth yn y Gymraeg yn cael i ateb yn Saesneg, wnath y boi ma ddarllen be sgwenodd e?
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw Hyd 21, 2003 2:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Ray Diota » Gwe Ebr 01, 2005 11:43 am

Fatbob a ddywedodd:
a commitment to respond where appropriate in writing in Welsh


Co'n hoff frawddeg i - llythyr ynglyn â diffyg darpariaeth yn y Gymraeg yn cael i ateb yn Saesneg, wnath y boi ma ddarllen be sgwenodd e?


Um mha iaith sgwennest ti ato nhw?

Oni ddylai Bws Caerdydd fod yn rhoi ieithoedd Pwnjabi, Urdu, a ieithoedd eraill sy' wedi bod yn cael eu siarad ers dechrau twf y dociau hefyd?


Dyma ddadl ma cwmnïau'n defnyddio'u hunain yn aml 'if we provided welsh language servic, we'd have to do it in other languages too...' a ma fe'n geilliau llwyr. Tro dwetha i fi edrych dodd Pwnjabeg ac Wrdw ddim yn ieithoedd swyddogol yng Nghymru...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4555
Ymunwyd: Gwe Rhag 19, 2003 4:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan khmer hun » Gwe Ebr 01, 2005 11:50 am

Ray Diota a ddywedodd: Dyma ddadl ma cwmnïau'n defnyddio'u hunain yn aml 'if we provided welsh language servic, we'd have to do it in other languages too...' a ma fe'n geilliau llwyr. Tro dwetha i fi edrych dodd Pwnjabeg ac Wrdw ddim yn ieithoedd swyddogol yng Nghymru...


Dw i'n deall fyddai'n anodd os bydden nhw'n ymateb felly, ond dyw e ddim yn 'geilliau llwyr' yng Nghaerdydd. Mae'r trigolion brodorol y Bae wedi cael eu trin fel dinasyddion eilradd, fel r'yn ni'n aml iawn. Dw i'n meddwl y bydde cael amserlenni amlieithog yn dathlu hanes y ddinas, nid yn cau'r gorffennol i ffwrdd.

Sen ni'n gallu neud lot i gydweithio rhwng y Gymraeg a'r ieithoedd hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw Chw 01, 2005 9:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Barbarella » Gwe Ebr 01, 2005 11:59 am

khmer hun a ddywedodd:Oni ddylai Bws Caerdydd fod yn rhoi ieithoedd Pwnjabi, Urdu, a ieithoedd eraill sy' wedi bod yn cael eu siarad ers dechrau twf y dociau hefyd?

Na, oherwydd dydyn nhw ddim yn ieithoedd cenedlaethol.

Mae'r ddadl yn un ffug, yn arbennig gan nad yw siaradwyr ieithoedd lleiafrifoedd ethnig yn ei arddel.

Rwy wedi gweld ymchwil gwnaethpwyd ar ran amgueddfa, i weld os dylid rhoi labeli ac arwyddion mewn ieithoedd fel Pwnjabi. Yr ateb -- gan siaradwyr yr ieithoedd yna -- oedd "na". Roedden nhw'n gweld y syniad yn eitha <i>offensive</i>, dweud y gwir, oherwydd roedd yn rhoi argraff bod nhw'n "dwp" neu methu deall Saesneg yn iawn. Doedd ganddyn nhw ddim problem efo defnyddio Pwnjabi ayyb fel iaith gymunedol, ac ar yr un pryd cydnabod Saesneg (a Chymraeg) fel y ieithoedd swyddogol.

Mae'r Gymraeg, ar y llaw arall, yn iaith gynhenid cenedlaethol i Gymru. Ac nid mater o fethu deall Saesneg yw hi, ond mater o statws i'n hiaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2288
Ymunwyd: Gwe Medi 05, 2003 4:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Corpsyn » Mer Ebr 06, 2005 1:52 am

ges i ymateb yn y post i fy e-bost i bws gaerdydd ddoe, sgenaim mynadd sgwennu'r cwbwl lawr, ond y jist ohono fo odd ei bod nhwn trio ei gorau i wella y gymraeg, a fydden nhw yn codi fy mhwyntia yn eu cyfarfod nesa, a hefyd nath o ddeud eu bod nhw ddim yn gorfod dilyn polisi iaith cyngor caerdydd gan eu bod yn gwmni arwahan.

y cwbwl yn swnio yn union fel o nin ddisgwl, siwr bo nhw di jest gyrru yr un llythyr i bawb sydd yn cwyno.
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Rhithffurf defnyddiwr
Corpsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Maw Ebr 29, 2003 10:21 am
Lleoliad: C'dydd/Dyffryn/Llan Ffestiniog

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau Ebr 07, 2005 1:56 pm

Hwn ges ti, mae'n siwr Corpsyn:

Bws Caerdydd a ddywedodd:Diolch yn fawr am eich e-bost yn cyfeirio at ddefnydd o’r iaith Gymraeg gan Bws Caerdydd - Cardiff Bus.

Fel cwmni sydd â’i wreiddiau yn nwfn yng Nghymru, rydym yn ymdrechu, lle bo’n ymarferol, i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. O ganlyniad i’r bartneriaeth sydd gennym â Bwrdd yr Iaith Gymraeg rydym wedi ymgymryd â nifer o fentrau i wella ein defnydd o’r iaith Gymraeg yn ein cwmni. Mae hyn yn cynnwys deunydd ysgrifennu dwyieithog, arwyddion dwyieithog ar fysiau, ymrwymiad i ymateb, lle y bo’n briodol, yn ysgrifenedig yn Gymraeg, i gynnal arolwg o bobl sy’n siarad Cymraeg yn y cwmni ac annog y defnydd o fathodynnau “hapus i siarad Cymraeg”. Yn ddiweddar cyflwynwyd cyrsiau Cymraeg i staff sydd wedi dangos diddordeb mewn dysgu’r iaith.

Nid yw hon yn restr gynhwysfawr ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddefnyddio’r iaith Gymraeg lle bynnag y bo’n ymarferol ac o fewn y cyfyngiadau masnachol rydym yn gweithio oddi mewn iddynt.

Gan gyfeirio at eich cwestiwn ynglŷn â Chyngor Caerdydd - er mai’r Cyngor sy’n berchen arnom, at ddibenion Deddf yr Iaith Gymraeg nid ydym wedi ein cofrestru fel Awdurdod Cyhoeddus o dan Delerau’r Ddeddf ac felly yr un rhwymedigaethau sydd gennym ag sydd gan unrhyw gwmni sector preifat sy’n gweithredu yng Nghymru.

Rydym yn ymrwymedig i ffurfioli ein polisi Iaith Gymraeg drwy ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg sef, wrth gwrs, y sefydliad swyddogol sy’n gyfrifol am y materion hyn.

Fodd bynnag, rydym yn nodi eich sylwadau a byddwn yn eu hystyried yn ystod ein trafodaethau gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yn gywir

Karen J Stafford-Smith

Rheolwraig Marchnata a Chysylltiadau
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 1:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig ac 1 gwestai