Un opsiwn, a'r un dw i'n tueddu ato ar hyn o bryd, yw'r model mae Aran yn ei ddefnyddio ar <a href="http://sgwarnog.com" title="sustem gwebost cymraeg">sgwarnog.com</a>, sef codi ffî tanysgrifio o ryw £2 y mis. Cyn i chi gyd fynd i banig, <b>na fydd hyn yn orfodol</b>. Dim ond pobl sy eisiau cefnogi'r maes yn ariannol fydd yn talu. Fydd y bobl 'na ddim yn cael unrhyw statws ychwanegol ar y maes, a byddan nhw dal yn aelodau o dan yr un amodau mae pawb arall yn aelod - yr unig gwahaniaeth yw os bydda i'n gwahardd rhywun sy wedi tanysgrifio, fydd fy llinell arferol am gael <i>refund</i> ddim yn jôc. Mae'n bosib y bydd pethau fel cynhigion arbennig sydd ar gael i aelodau'r Clwb Cefnogwyr (crysiau-T ac ati), ond dw i ddim wedi meddwl cyn belled â hynny ymlaen eto.
Y prif reswm dros fynd am hyn o gynllun yn lle hybu'r hysbysebion yn fwy egnïol yw, yn syml iawn, dw i ddim yn ffansio gwerthu hysbysebion am fy mywoliaeth.
Sylwch, dim ond syniad yw hyn. Dw i heb wneud fy meddwl i fyny eto. Ac er mod i'n gosod hyn fel cwestiwn pôl piniwn, dw i'n cadw'r hawl i'ch anwybyddu chi i gyd a wneud penderfyniad hollol wallgo sy'n teimlo'n iawn i fi.




