Clwb Cefnogwyr y Maes
Hunter S. Thompson a ddywedodd:When the going gets weird, the weird turn pro.
Gyfeillion, mae'r amser wedi cyrraedd i ni fynd yn broffesiynol.
Yn y tair blynedd ers i ni sefydlu maes-e, dyn ni wedi gweld tyfiant tu hwnt i'n disgwyliadau gorau, ac erbyn hyn dyw e ddim yn ymarferol i un person, er cymaint o help dw i'n derbyn gan y Grwp Llywio a'r Cymedrolwyr, rhedeg gwefan o'r maint hwn yn fy amser sbâr. Dyma ni felly, yn cynnig i chi, ein hannwyl defnyddwyr, y cyfle i gefnogi'r maes yn ariannol, gan ymuno â <b>Chlwb Cefnogwyr y Maes</b>.
<b>Faint mae hynny yn mynd i fy nhgostio 'te?</b>
I fod yn <b>Gefnogwr y Maes</b>, bydd rhaid i ti dalu £2.00 y mis, trwy archeb banc, neu gan ddefnyddio PayPal. Os byddai'n well 'da ti, cei di dalu am flwyddyn gron, gan hala siec am £24. Dyma edefyn gyda <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13509">manylion pellach am ddod yn Gefnogwr y Maes</a>.
Bydd hefyd yn bosibl i sefydliadau, busnesau neu hyd yn oed unigolion ddod yn <b>Noddwyr y Maes</b>, ac yn cael hysbyseb sy'n ymddangos yn y bar hysbysebion ar bron bob tudalen o'r maes. Bydd hyn yn costio £10 y mis, neu £120 y flwyddyn. Dyma edefyn gyda <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13510">manylion pellach am ddod yn Noddwr y Maes</a>.
<b>Oes <i>rhaid</i> i mi ymuno â'r Clwb?</b>
Nag oes. Na fydd unrhyw anfantais i ti fel aelod maes-e os nag wyt ti am ymuno â'r Clwb Cefnogwyr. Wedi dweud hynny, mi fydd amryw o bethau newydd ar y maes a fydd ar gael i Gefnogwyr a Noddwyr yn unig, fel seiadau trafod preifat i grwpiau o ffrindiau, stafell sgwrsio, cynhigion arbennig (gostyngiadau ar ddeunydd maes-e fel crysiau-T ac yn y blaen). A dw i'n llawer mwy tebyg i brynu peint i ti yn y Steddfod.
<b>Sut bydd pobl eraill yn gwybod mod i'n Gefnogwr/Noddwr?</b>
Bydd yr enwau graddau presennol (Defnyddiwr Brwd, Caeth i'r Maes, Ffanatig ac yn y blaen) yn cael eu hail-wampio. O hyn ymlaen mi fydd pedwar yn unig: Defnyddwyr, Cefnogwyr, Noddwyr a Gweinyddwyr. Dw i'n rhagweld na fydd y newid hyn yn boblogaidd, felly dyma <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13514">edefyn arbennig</a> i chi i gyd gael cwyno amdano.
<b>Dw i eisiau prynu hysbyseb, ond dw i'n methu fforddio £10 y mis.</b>
Ni phoener. Gall unrhyw sy am brynu hysbysebion wneud hynny, hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn <i>aelodau</i> maes-e. Bydd £10 yn prynu 10,000 o argraffiadau, a gelli chi ledu'r argraffiadau dros cyfnod hir, os wyt ti am gael hysbyseb sy ddim yn ymddangos yn rhy aml. Dyma edefyn i <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=13513">drafod prynu hysbysebion</a>.

