Mae Clwb Cefnogwyr Ar Gau! ("Sut i ymuno..." gynt)

Lle mae edeifion marw yn mynd

Mae Clwb Cefnogwyr Ar Gau! ("Sut i ymuno..." gynt)

Postiogan nicdafis » Sul Gor 17, 2005 9:53 am

[Ypdêt 18/06/06 - o'r mis nesa ymlaen fydd y Clwb Cefnogwyr ddim yn derbyn aelodau newydd. Gweler isod.]

[Ypdêt 15/08/06 - mae pobl newydd dal i gymryd mas archebion PayPal, felly dw i wedi dileu cynnwys y neges hon.]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7314
Ymunwyd: Sul Awst 18, 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Sut i ymuno â'r Clwb Cefnogwyr

Postiogan Hen Rech Flin » Maw Gor 19, 2005 4:20 am

nicdafis a ddywedodd:Yn gyntaf, os nad wyt ti wedi wneud, dylet ti ddarllen hwn, sy'n esbonio beth yw'r Clwb Cefnogwyr.

Wedyn, os wyt ti am fod yn Gefnogwr, mae gen ti ddewis o dair ffordd o dalu:
1. Archeb banc misol (£2.00 y mis)
2. Taliad Paypal misol (£2.00 y mis)
3. Siec blynyddol (£24 y flwyddyn)

A oes unrhyw reswm dros beidio a thalu taliad blynyddol o £24 trwy PayPal?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1409
Ymunwyd: Gwe Ebr 29, 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw Gor 19, 2005 9:53 am

o'n i'n meddwl mai'r rheswm bod yr opsiwn o £24 y flwyddyn drwy jec oedd ar gyfer pobl oedd heb gyfri paypal?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 3448
Ymunwyd: Maw Chw 22, 2005 5:26 pm
Lleoliad: Caergrawnt

Re: Sut i ymuno â'r Clwb Cefnogwyr

Postiogan nicdafis » Maw Gor 19, 2005 1:05 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:Yn gyntaf, os nad wyt ti wedi wneud, dylet ti ddarllen hwn, sy'n esbonio beth yw'r Clwb Cefnogwyr.

Wedyn, os wyt ti am fod yn Gefnogwr, mae gen ti ddewis o dair ffordd o dalu:
1. Archeb banc misol (£2.00 y mis)
2. Taliad Paypal misol (£2.00 y mis)
3. Siec blynyddol (£24 y flwyddyn)

A oes unrhyw reswm dros beidio a thalu taliad blynyddol o £24 trwy PayPal?

Ddim yn dechnegol, ond byddai'n well 'da fi lledu'r arian trwy'r flwyddyn yn lle cael gormod o arian yr un pryd, os ti'n deall. Alla i ychwanegu hyn fel opsiwn - ond byddai'n well cael e fel tanysgrifiad, yn lle taliad unigol. Jyst bod yn ddiog ydw i, bydd rhaid atgoffa'r rhai sy'n talu yn flynyddol i dalu eto blwyddyn nesa.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7314
Ymunwyd: Sul Awst 18, 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aran » Maw Gor 19, 2005 2:43 pm

Ga i jesd nodi, i unrhyw un sydd yn dewis rhwng gosod archeb banc neu daliad PayPal, bod PayPal yn cymryd 25c y taliad ar gyfer eu gwasanaethu hwythau...

£2 y mis trwy PayPal yn golygu bod £1.75 y mis yn cyrraedd coffrau'r Maes.

£2 y mis trwy archeb banc yn golygu bod £2 y mis yn cyrraedd coffrau'r Maes.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr

Negeseuon: 1720
Ymunwyd: Sul Mai 25, 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan nicdafis » Maw Gor 19, 2005 8:01 pm

27c actiwali. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7314
Ymunwyd: Sul Awst 18, 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw Gor 19, 2005 8:02 pm

Ond beth sy'n fwy pwysig (i fi, ta beth) yw wneud pethau mor hawdd ag sy'n bosibl i'r bobl sydd am gyfrannu. Mae £1.72 yn tipyn bach llai na £2.00, ond mae'n lot mwy na dim byd ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7314
Ymunwyd: Sul Awst 18, 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Maw Gor 19, 2005 10:15 pm

Ti actually mynd i drio neud bywoliaeth allan o hyn nic? waw.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 4937
Ymunwyd: Mer Rhag 11, 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Maw Gor 19, 2005 10:25 pm

nicdafis a ddywedodd:Mae £1.72 yn tipyn bach llai na £2.00...

£1.73, mae'n siwr?... :winc:

Cytuno'n llwyr am gynnig PayPal - ond mae isio sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod archeb banc yn well ffordd o'i wneud. Beth am i ti baratoi archeb banc all rhywun ei lawrlwytho? I'r rhai sydd ddim yn bancio arlein...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr

Negeseuon: 1720
Ymunwyd: Sul Mai 25, 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan nicdafis » Maw Gor 19, 2005 10:39 pm

Mae ar y rhestr o bethau i'w wneud.

Rhys a ddywedodd:Ti actually mynd i drio neud bywoliaeth allan o hyn nic? waw.

Ddim jyst o'r Clwb Cefnogwyr - 'sai 500 o bobl (trydedd rhan o aelodaeth maes-e) yn ymuno fyddwn i'n wneud mwy o arian nag ydw i fel tiwtor Cymraeg, ond dyw hynny ddim yn mynd i digwydd yn glou. Dw i'n gweld mwy o obaith yn y gwerthu hysbysebion, a bod yn onest.

Ond does dim pwysau arna i - mae cytundeb 'da fi gyda'r Brifysgol am y flwyddyn nesa, a dim ond dau ddydd yr wythnos bydda i'n gweithio o fis Hydref (ddim yn gweithio o gwbl tan hynny). Felly bydd mwy o amser i ganolbwyntio ar hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7314
Ymunwyd: Sul Awst 18, 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Y Fynwent

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig a 0 gwestai