panad / paned

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

panad ta paned?

panad
28
80%
paned
7
20%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 35

panad / paned

Postiogan dau bry » Sul 01 Ion 2006 4:26 pm

be dach chi'n ddeud panad ta paned???

panad bob amser i mi de :lol:
"a thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu"

Delwedd
dau bry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2005 11:03 pm
Lleoliad: Lerpwl / Dyffryn Conwy

Postiogan seren » Sul 01 Ion 2006 5:02 pm

"Panad" fyddai'n ddeud, ond paned os dwi'n sgwennu, gan bod 'na athrawes di marcio "panAd" yn anghywir unwaith :?
Rhithffurf defnyddiwr
seren
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 247
Ymunwyd: Mer 09 Maw 2005 7:10 pm

Postiogan gimp gruff rhys » Sul 01 Ion 2006 6:16 pm

panad pob tro. dwin meddlw fod panad yn fwy o gair gog na paned?
took pity on you? took a piss on me!

http://www.davidhasselhoff.com
Rhithffurf defnyddiwr
gimp gruff rhys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 9:46 pm
Lleoliad: caernarfon, gwynedd, gogledd cymru

Postiogan ffrwyth melys! » Sul 01 Ion 2006 9:36 pm

mmm panad heb os...aii...tueddiad y gogs yn wir swni'n ddeud... gai ofyn cwestiwn bach ar y topic paneidia (....ond eto panEidia da ni'n ddeud i'r lluosog..!) ia, oes na lot o hwntws yn defnyddio'r gair 'dishgled' ta ydi'r gair panEd yn cael ei ddefnyddio yn amlach?? jest o ran diddordeb!
Rhithffurf defnyddiwr
ffrwyth melys!
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 9:24 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan LlyrDaf » Sul 01 Ion 2006 10:39 pm

panad pob tro i fi!!!!!


efo dau shwgwr wrth gwrs 8)
".. nid tedi cyffredin mohonno bellach.."
LlyrDaf
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Iau 10 Tach 2005 7:35 pm
Lleoliad: Llangernyw!

Postiogan Aled Lewis Roberts » Llun 02 Ion 2006 12:51 am

PANAD AM BYTH! :D
...need i say more! :P
"Mae pobl tew yn anoddach i'w herwgipio"
Aled Lewis Roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 14 Tach 2005 6:35 pm
Lleoliad: LLANGERNYW!

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 02 Ion 2006 10:36 am

Panad i mi 'fyd ... mi fydda i'n bersonol yn dueddol o ysgrifennu 'panad', hefyd.

Dw i'n meddwl 'panad' ydi'r ynganiad ym Mon, Arfon, Dwyfor a rhan fwyaf o Ddyffryn Conwy (a rhannau o Feirionnydd), ond pan ti'n cyrraedd ardaloedd Rhuthun neu Bala mae'n newid yn 'paned' (cywirwch fi os dw i'n anghywir ar hyn!)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 02 Ion 2006 10:59 am

Paned = o Cwpaned
Panad = o Cwpanaid
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan garynysmon » Llun 02 Ion 2006 11:24 am

Tydi hwn dim jyst yn dibynnu ar patrwm E, A Gogledd Cymru yn gyffredinol? Er enghraifft, A ydi bob dim yma'n Gwynedd a Mon, ond mae'r A's yn troi'n E's yn fwy pan yn symud i'r dwyrain tuag at Dyffryn Conwy, Dinbych, Corwen a.y.b

Panad i mi bob tro yn amlwg.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Llanddeusant, Ynys Mon

Postiogan Nei » Llun 02 Ion 2006 11:36 am

Disgled!
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 233
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 0 gwestai