Yn gyntaf mae hyn yn beth da a dwi'n falch i weld y Bwrdd yn ei drafod a dwi'n llonngyfarch pawb am ymgyrchu dros Ddeddf Iaith
Ond ... gai fod yn sinig? Ai rhagor o arwyddion dwyieithog yn Dixons etc yw blaenoriaeth y mudiad iaith? Petae n'n son am fod yn wir radical a mynd i'r afael ar ebthau byddai'r ddogfen a'r ymgyrchu yn cyfuno'r alwad am ddeddf iaith gyda 2 alwad pwysicach a mwy sylfaenol yn fy marn i:
1. Hyrwyddo unieithrwydd mewn rhai mannau? Unieirwydd mewn paeau daearyddol, proffesiynnol, addysg ac hamdden.
2. Demograffeg. Does neb yn son am y timebomb demograffeg h.y. y broblem sylfaenol o brinder Cymry Cymraeg (a Chymry di-Gymraeg) yn cael ei geni. Ydi'r Bwrdd / Cymdeithas / Plaid yn son o gwbwl am hyn? Mae digon o bwer yn y Ddeddf Iaith bresennol i wedd-newid Cymru petae jyst rhagor o Gymry Cymraeg yn cael ei geni. Does dim modd cymhathu siaradwyr di-Gymraeg i gymuned Gymraeg (beth bynnag bo'r diffiniad honno) heb fod yna bobl sy'n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf yn naturiol. Dyma drafodaeth bwysicaf cymunedau ar draws Ewrop bellach, ond mae'r consensws chwith genedlaetholaidd Gymraeg yn ofni ei drafod. Mae gen i ofn fod yn haws i'r Bwrdd son am statws (a dwi'n falch eu bod yn gwneud) na son am a) codi'r drafodaeth am y sefyllfa ddemograffig b) gweithio ar newid y sefyllfa (fel gwna pob gwlad o Hong Kong i Estonia i Rwsia).
Trafod unieithrwydd a demograffeg byddai radicaliaeth go iawn. Mae statws yn fy ngadael i'n oer mae gen i ofn.
Stefanik