Shwmae
Ddim yn siwr iawn le i osod yr edefyn yma ond tawaith!
Dwi angen casglu gwybodaeth am dref Llanelli, ac yn benodol, am brofiadau pob dydd pobol gyffredin e.e profiadau pobl oi dyddiau ysgol, profiadau allgyrsiol a chymdeithasol/beth sydd i wneud beth sydd i weld? ayyb
Yn ddelfrydol lice ni gyfweld a phobl a rhyw gysylltiad a'r dref- allwch chi fod yn gweithio yno, yn enedigol o'r dref, neu yn gefnogwr o'r Scarlets. Dwi just isho clywed yr hyn sydd ganddoch chi i ddweud am y dref/ Beth mae Llanelli yn feddwl i chi?
Os oes unrhywun yn fodlon helpu neu hyd yn oed cael ei cyfweld, neu yrru storiau lleol i mi, fydde nin gwerthfawrogi neges breifat
Diolch






